Cyhuddo dyn, 18, o lofruddio ei fam yn Sir Ddinbych

Cafodd corff Angela Shellis ei ganfod ddydd Gwener, gydag anafiadau i'r pen
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 18 oed wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio ei fam ym Mhrestatyn.
Cafodd corff Angela Shellis, 45, ei ganfod yn ardal Morfa, ger Dawson Drive tua 08:40 ddydd Gwener.
Mae Tristan Thomas Roberts o'r dref wedi ei gyhuddo o'i llofruddio, ar ôl cael ei arestio brynhawn Gwener.
Fe wnaeth Mr Roberts - a gafodd ei ddisgrifio gan yr erlynydd fel dyn ifanc "bregus" - ymddangos yn Llys yr Ynadon Llandudno dydd Mawrth.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mercher.

Daeth aelod o'r cyhoedd o hyd i gorff Angela Shellis yn ardal Morfa, ger Dawson Drive
Mae Heddlu'r Gogledd yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Andy Gibson: "Hoffwn bwysleisio bod hwn yn parhau i fod yn ymchwiliad byw, a'n bod yn parhau i apelio am wybodaeth a allai ein cynorthwyo ymhellach.
"Dylai unrhyw un a oedd yn ardal Morfa, ger y caeau pêl-droed, ddydd Gwener, 24 Hydref, rhwng 03:00 a 08:30, gysylltu â ni, os nad ydyn nhw eisoes wedi gwneud.
"Mae'n hanfodol ein bod yn adnabod unrhyw bobl oedd yn yr ardal yn ystod yr amseroedd allweddol hyn.
"Gan fod cyhuddiadau bellach wedi'u hawdurdodi, hoffwn hefyd bwysleisio na ddylid postio unrhyw beth ar-lein a allai gael effaith ar achosion llys yn y dyfodol, neu danseilio'r broses gyfreithiol."
Cafodd Ms Shellis ei disgrifio gan ei theulu fel "merch, chwaer, mam a modryb gariadus, a bydd pawb yn ei cholli'n fawr".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
