'Gorbryder fy mab yn mynd trwy'r to tra'n aros am asesiad'

Bachgen gyda'i gefn at y camera yn gwisgo clustffonauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 7,154 o blant yn aros am asesiad niwroddatblygiadol yn y gogledd ym mis Mehefin

  • Cyhoeddwyd

Mae mam o Wynedd wedi sôn am ei thorcalon wrth iddi aros i'w mab ifanc, sy'n dioddef o orbryder difrifol, gael asesiad awtistiaeth ac ADHD.

Mae hi'n dweud iddo fod ar restr aros niwroddatblygiadol ers dros dair blynedd.

Roedd dros 7,000 o blant yng ngogledd Cymru yn aros am asesiad yn gynharach eleni.

Mae ceisiadau ar gyfer asesiadau wedi dyblu ers cyn y pandemig, meddai Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ac mae o "bryder cenedlaethol".

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn deall pa mor anodd y gall amseroedd aros hir fod i blant a theuluoedd.

Dydy'r BBC ddim am adnabod y fam na'r mab er mwyn eu gwarchod.

Yn ddiweddar, dywed y fam bod sefyllfa ei mab wedi gwaethygu.

"Mae ei orbryder o wedi mynd drwy'r to," meddai.

"Mae o'n overwhelmed gyda'r sefyllfa ac mae'n ffeindio hi'n anodd iawn i ymdopi gyda bob dim sydd yn newydd iddo fo."

Dywedodd bod hynny wedi cael effaith ar ei fywyd personol hefyd.

"Ffwtbol ydy ei fywyd o, ond ar hyn o bryd mae o'n stryglo i fynd ar y cae."

Y fam yn siarad gyda Gareth Pennant
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r fam wedi rhannu ei stori â gohebydd rhaglen Newyddion S4C, Gareth Pennant

Gan nad ydy o wedi cael asesiad, mae ei rieni yn ansicr beth sy'n achosi'r gorbryder.

"Dwi ddim yn gwybod sut i'w helpu fo… ar hyn o bryd fel rhieni 'dan ni yn winging it."

Dywedodd bod y sefyllfa yn "dorcalonnus" a'i bod fel mam yn ei ffeindio hi'n anodd iawn ymdopi o ddydd i ddydd.

'Dim dewis' ond talu am asesiad preifat

Mae cais rhyddid gwybodaeth yn dangos fod 7,154 o blant yn aros am asesiad niwroddatblygiadol yn y gogledd o fewn Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ym mis Mehefin.

Mae'r term niwroddatblygiadol yn cynnwys nifer o gyflyrau, fel awtistiaeth, ADHD, dyslecsia a dyspracsia.

Roedd mab y fam o Wynedd yn rhif 350 ar y rhestr fis Mehefin - a 319 erbyn hyn.

Bellach mae hi a'i gŵr wedi talu am asesiad preifat.

"Dydyn ni ddim yn gyfoethog o bell ffordd… ond roedden ni'n teimlo bod dim dewis gennym ni," meddai'r fam.

"Mae o'n hollol wrong bod rhaid i ni wneud hynny a dydy o ddim yn deg."

Mabon ap Gwynfor, Aelod o'r Senedd Plaid Cymru yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd, yn edrych yn syth i'r camera tra'n sefyll yn yr awyr agored gyda chae, afon a choed yn y cefndir
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r AS Mabon ap Gwynfor wedi codi pryderon, gan ddweud bod y sefyllfa i deuluoedd yn "argyfyngus"

Ym mis Ionawr dywedodd y gweinidog iechyd meddwl Sarah Murphy fod 20,770 o blant yn aros am asesiad yng Nghymru ym mis Medi 2024.

Dywedodd y llywodraeth fod y niferoedd yn parhau'n fras gywir.

Mae AS Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor, wedi codi pryderon am y sefyllfa.

Dywedodd yr aelod dros Ddwyfor Meirionnydd bod y sefyllfa yn "gwbl argyfyngus" i'r plant sy'n aros am asesiad a'u teuluoedd.

"Does 'na ddim digon o fuddsoddiad wedi mynd mewn i sicrhau bod digon o gefnogaeth seicolegol ar gael ar gyfer asesiadau," meddai.

"Does ganddon ni ddim y gweithlu i wneud y gwaith angenrheidiol yma… na dealltwriaeth lawn o'r cyflwr."

Mwy o alw ac anghenion yn cymhlethu

Dywedodd Tehmeena Ajmal, prif swyddog gweithredu Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, bod nifer y ceisiadau niwroddatblygiadol wedi dyblu bron, o'i gymharu â chyn y pandemig.

"Er y croesawir bod mwy o ymwybyddiaeth ynghylch materion niwroamrywiaeth plant, mae'n her bodloni'r galw am yr asesiadau y gofynnir amdanynt," meddai.

"Rydym hefyd yn gweld anghenion plant yn mynd yn fwy cymhleth, sy'n ychwanegu at yr amser y mae'n ei gymryd i glinigwyr ddeall anghenion plentyn ac ymateb iddynt."

Ychwanegodd bod hwn yn fater sy'n cael effaith ar bob bwrdd iechyd, a'i fod yn "bryder cenedlaethol" ac yn "flaenoriaeth allweddol".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gweithio i leihau amseroedd aros mewn ymateb i'r galw cynyddol ac rydym wedi buddsoddi'n sylweddol i wella'r gwasanaethau hyn ochr yn ochr â chynyddu cymorth cyn-ddiagnostig.

"Ym mis Mehefin, ailgyfeiriwyd £5.6m i ddileu aros tair blynedd am asesiadau plant erbyn mis Mawrth 2026."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.