Aberfan: Angen dysgu gwersi
- Cyhoeddwyd
Mae arbenigwr risg wedi dweud nad yw'r gwersi wedi trychineb Aberfan union 45 mlynedd yn ôl wedi eu dysgu yn llawn yn rhyngwladol eto.
Cafodd 144 o bobl, 116 ohonyn nhw yn blant, eu lladd yn nhrychineb Aberfan ar Hydref 21 1966.
Cafodd yr ysgol leol a 18 o dai eu claddu ar ôl i domen lo lithro lawr y mynydd.
Mae trasiedïau tebyg yn dal i ddigwydd mewn llefydd eraill yn y byd yn ôl Yr Athro Dave Petley.
Fe arweiniodd astudiaethau o'r hyn a ddigwyddodd yn Aberfan at newidiadau sylfaenol i'r modd y cafodd gwastraff glo ei reoli ar draws Cymru a gweddill Prydain.
Achosion yn China
Yn ôl Yr Athro Petley, sy'n Gyfarwyddwr Sefydliad Perygl, Risg ac Ystwythder Prifysgol Durham, fe arweiniodd y gwaith ymchwil at well diogelwch o byllau glo.
O ganlyniad, does 'na ddim trychineb ar y raddfa yna wedi digwydd ym Mhrydain ers hynny.
Ond mae achosion yn gyffredin iawn mewn gwledydd datblygedig.
Tair blynedd yn ôl roedd 'na dir lithriad ym mhentref Taoshi yn China a laddodd o leiaf 128 o bobl.
Mae achosion eraill wedi bod yn China ers hynny.
"Mae'n bosib iawn mai trychineb Aberfan yw'r trychineb gwaetha', a'r un mwya amlwg yn y cof yn y DU ers Yr Ail Ryfel Byd," eglurodd Yr Athro Petley.
"Roedd 'na lawer iawn i'w ddysgu gan y cyfuniad o bethau arweiniodd at y trychineb; methiant cyfrifoldeb yr awdurdodau; arwriaeth y timau achub ac ymddygiad annerbyniol rhai wedi'r trychineb.
"Mae 'na sawl peth cadarnhaol wedi deillio o'r trychineb, y mwya wrth gwrs yw gwelliannau dramatig rheolwyr gwastraff y pyllau.
"Ond mae llawer iawn mwy i'w wneud er mwyn sicrhau bod y gwersi yn cael eu derbyn mewn gwledydd eraill."
Gwrthododd ddadleuon gan awdurdodau ar y pryd y gallai digwyddiadau yn Aberfan fod wedi eu rhagweld o ystyried achosion blaenorol.
"Yng Nghymru ac yng ngweddill y DU o leiaf, fe wnaeth y trychineb arwain at newidiadau sylweddol er gwell," ychwanegodd.
"Ond mae hi'n gwbl glir bod angen i wledydd eraill ddysgu mwy o brofiadau Aberfan."