Medal efydd: Cymru'n colli i Awstralia
- Cyhoeddwyd
Cymru 18-21 Awstralia
Colli oedd hanes Cymru yn eu gêm olaf yng Nghystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd yn erbyn Awstralia.
Y tîm o Hemisffer y De felly orffennodd yn drydydd wrth i Gymru fod o dan bwysau am yr 80 munud mewn gêm nad oedd yn glasur nac yn dangos fflach y Crysau Cochion yn ystod y bencampwriaeth.
Hwn oedd perfformiad mwya siomedig Cymru yn y gystadleuaeth.
"Ar y lefel hon mae'n rhaid cymryd cyfleoedd," meddai'r hyfforddwr, Warren Gatland, wrth gynhadledd newyddion.
"Yn anffodus, mewn gemau mawr mae ein cicio ni wedi bod yn siomedig.
"Yn y gorffennol mae ein cicwyr wedi llwyddo 80% o'r amser ... mae'n bwysig a'r tro hwn y cicio oedd y rheswm pam y collon ni'r gêm."
Sgoriodd Awstralia a Chymru ddau gais yr un, y cais cyntaf i Shane Williams a chais cysur i Leigh Halfpenny wedi 80 munud.
Berrick Barnes a Ben McCalman gafodd geisiadau Awstralia ond roedd cicio James O'Connor yn fwy cywir na chicio Cymru.
Methu manteisio
Fe reolodd Awstralia'r gêm o'r cychwyn cynta er gwaetha anafiadau a methu manteisio wnaeth y Crysau Cochion am ran fwyaf y gêm.
Tri chais oedd wedi cael eu sgorio yn erbyn Cymru yn y pum gêm ddiwethaf.
Ond llwyddodd Awstralia i groesi ddwywaith ddydd Gwener.
Yn ystod yr hanner cyntaf roedd Awstralia'n rheoli'r sgrym ac fe arweiniodd hynny at gais cyntaf y gêm wedi 13 munud i Berrick Barnes cyn i O'Connor drosi'r cais.
Funudau yn gynharach roedd Shane Williams wedi cael triniaeth ar yr ystlys ar ôl cael ei daflu i'r awyr mewn tacl.
Hanner ffordd drwy'r hanner cyntaf llwyddodd James Hook gyda chic gosb gan roi'r pwyntiau cyntaf i Gymru.
Ddim yn llwyddiannus
Methodd Leigh Halfpenny â chic gosb i Gymru yn yr hanner cyntaf.
Methodd Hook â chic gosb arall bedwar munud wedi dechrau'r ail hanner - a chyda throsgais wedi i Shane Williams gael cais cyntaf Cymru.
Er bod Cymru ar y blaen o 8-7 doedd cicio Hook ddim yn llwyddiannus a daeth Stephen Jones ar y cae yn ei le am yr hanner awr olaf.
Dwywaith o fewn munudau fe lwyddodd O'Connor â chiciau cosb i roi mantais i Awstralia o 13-8.
Barnes gafodd gic adlam Awstralia i fynd ymhellach ymlaen 16-8.
Daeth Cymru yn ôl 16-11 gyda Stephen Jones yn llwyddo gyda chic gosb.
Funudau cyn diwedd y gêm daeth Awstralia yn agos at gael ail gais gan Adam Ashley-Cooper cyn i'r bêl gael ei tharo ymlaen mewn tacl wych gan Jamie Roberts.
Ond llwyddodd Ben McCalman gyda chais bum munud cyn diwedd y gêm er bod O'Connor yn methu â throsi. 21-11 i Awstralia.
Cais cysur
Ond roedd 'na gais gysur i Gymru wrth i Leigh Halfpenny groesi wedi 80 munud cyn i Jones drosi.
Ond doedd hynny ddim yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth. Dychwelyd adref yn bedwerydd yn y byd y bydd Cymru.
Roedd Warren Gatland wedi gwneud sawl newid yn yr ail hanner i'r 15 oedd ar y cae ond efallai ychydig yn rhy hwyr.
Yn ogystal â'r cefnogwyr yn Seland Newydd roedd miloedd yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd yn gwylio'r gêm ar sgrin fawr.
Ond dim ond 16,246 oedd yno tra oedd 61,500 yno ddydd Sadwrn ar gyfer y gêm yn erbyn Ffrainc.
Y disgwyl ddydd Gwener oedd y byddai'r gêm yn adlais o'r hyn ddigwyddodd yn 1987 pan lwyddodd Cymru i guro Awstralia am y trydydd safle ym Mhencampwriaeth Cwpan Rygbi'r Byd cyntaf yn Seland Newydd.
Ond doedd 'na ddim cyfle i ail-adrodd hanes.
Tîm Cymru v Awstralia; Eden Park, Auckland; Dydd Gwener, Hydref 21.
Olwyr: - Leigh Halfpenny (Gleision); George North (Scarlets), Jonathan Davies (Scarlets), Jamie Roberts (Gleision), Shane Williams (Gweilch); James Hook (Perpignan), Mike Phillips (Bayonne);
Blaenwyr :- Gethin Jenkins (Gleision, capt), Huw Bennett (Gweilch), Paul James (Gweilch), Bradley Davies (Gleision), Luke Charteris (Dreigiau), Dan Lydiate (Dreigiau), Toby Faletau (Dreigiau), Ryan Jones (Gweilch);
Eilyddion: Lloyd Burns (Dreigiau), Ryan Bevington (Gweilch), Alun-Wyn Jones (Gweilch), Andy Powell (Sale Sharks), Lloyd Williams (Gleision), Stephen Jones (Scarlets), Scott Williams (Scarlets).