Protest yn erbyn newidiadau budd-dal
- Cyhoeddwyd
Fe orymdeithiodd bron i 1,000 o bobl yng Nghaerdydd mewn protest yn erbyn newidiadau i daliadau budd-dal pobl anabl.
Bu gorymdeithiau tebyg mewn dinasoedd eraill ym Mhrydain, gan gynnwys Llundain, Caeredin, Leeds, Nottingham a Manceinion.
Yn ôl Llywodraeth Prydain mae'r system bresennol yn annigonol a bydd y newidiadau yn sicrhau bod budd-daliadau yn mynd i'r bobl sydd eu gwir angen.
Cafodd y gorymdeithiau eu trefnu gan Gyngor Pobl Anabl y Deyrnas Unedig a Chonsortiwm budd-daliadau Anabledd.
Dywedodd prif weithredwr Anabledd Cymru Rhian Davies: "Mae pobl yn teimlo yn gryf am hyn, maen nhw'n flin iawn.
"Mae llawer iawn o bobl eisoes wedi gorfod wynebu paneli asesu lwfans cyflogaeth a chefnogaeth," meddai.
"Mae llawer o bobl yn cael llythyrau oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau - ac maen nhw'n poeni am eu lwfansau.
"Mae pobl yn wirioneddol ofn beth fydd yn digwydd pe bai nhw'n colli eu budd-daliadau neu wasanaeth cefnogaeth."
Roedd yr ymgyrchwyr yn galw ar y llywodraeth i sicrhau na fydd newidiadau i'r drefn bresennol - sy'n caniatáu i nifer o bobl fyw bywyd annibynnol - yn rhoi'r anabl mewn sefyllfa waeth.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau: "Mae'r llywodraeth wedi ymroi yn llwyr i gefnogi pobl anabl ac rydym yn gwario mwy na £40bn y flwyddyn ar bobl anabl a gwasanaethau ar eu cyfer.
"Ond dyw'r drefn lwfansau presennol ddim wastad yn cyrraedd y bobl hynny sydd eu gwir angen.
"Oherwydd hynny byddwn yn cyflwyno taliadau newydd fydd yn sicrhau fod pobl yn derbyn y lefel cywir o gefnogaeth."