Cryfhau'r cysylltiad gyda China

  • Cyhoeddwyd
ChongqingFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae poblogaeth dinas Chongqing a'r ardal o'i chwmpas dros 30 miliwn

Cafodd cytundeb newydd ei arwyddo i gryfhau'r cysylltiad rhwng Cymru ag un o ddinasoedd diwydiannol mwyaf China.

Mae'r Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a maer dinas Chongqing wedi arwyddo memorandwm o gytundeb ddydd Llun.

Bydd y ddwy lywodraeth yn rhannu arbenigedd mewn ystod eang o feysydd diwydiannol, cymdeithasol a diwylliannol.

Mae Mr Jones yn arwain dirprwyaeth yn China i hybu busnesau Cymru ac addysg uwch ar hyn o bryd.

Mae Chongqing yn un o bedair ardal weinyddol yn China, ac mae ganddi boblogaeth o dros 30 miliwn.

Henebion

Eisoes mae Cymru wedi meithrin cysylltiadau gyda'r ardal, ac yn gynharach eleni daeth benthyciad o henebion gwerthfawr o Chongqing i'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd i'w harddangos.

Ym mis Mawrth eleni, fe gynhaliwyd wythnos Cymru yn Chongqing i hybu busnesau.

Mae'r cytundeb diweddaraf yn ymrwymo Cymru a Chongqing i barhau i rannu arbenigedd ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, diwylliant, iechyd, addysg, amaeth, datblygu economaidd, rheoli coedwigaeth, trefn lywodraethol a thwristiaeth.

"Mae'r cytundeb newydd yma yn gam arall ymlaen yn y berthynas sy'n datblygu, ac sydd wedi gweld y ddau yn dysgu oddi wrth ein gilydd mewn meysydd mor wahanol a datblygu economaidd, addysg a diwylliant," meddai Mr Jones.

"Rydym am i'r cydweithio agos yma barhau er budd Cymru a Chongqing, ac rwy'n edrych ymlaen at flynyddoedd o bartneriaeth i gryfhau'r cysylltiad agos yna."

Llanarthne

Bu'r Prif Weinidog hefyd yn ymweld ag 8fed Dangosiad Gardd Rhyngwladol China lle mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Llanarthne yn cynrychioli'r DU gyda gardd arbennig.

Ychwanegodd Mr Jones bod y digwydd anferth yma yn "blatfform gwych i arddangos Cymru i gynulleidfa ryngwladol".

"Mae'r Expo yn Chongqing ar safle sydd dros 2km sgwar, ac yn wahanol i ddigwyddiadau tebyg yn y DU mae'n un parhaol felly fe fydd cynrychiolaeth o Gymru yn y ddinas am flynyddoedd i ddod."