Gareth Thomas yn ymddeol o chwarae rygbi
- Cyhoeddwyd

Fe ymunodd Thomas gyda'r Crusaders ddwy flynedd yn ôl
Mae'r chwaraewr rygbi rhyngwladol Gareth Thomas wedi cyhoeddi ei ymddeoliad o'r gêm a hynny yn syth.
Daeth y cyhoeddiad gan Emanuele Palladino o'i gwmni rheoli, Distinct, toc cyn amser cinio ddydd Mawrth.
Roedd y chwaraewr 37 oed wedi ei gynnwys yng ngharfan 13 Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Pedair Gwlad yn erbyn Lloegr dros y penwythnos.
"Gallwn gadarnhau bod Gareth Thomas yn ymddeol o chwarae rygbi clwb a rhyngwladol yn syth," meddai'r datganiad.
"Mae hyn yn ddiwedd gyrfa arbennig iawn...
"Gobaith Gareth yw bod ei lwyddiannau ar, ac oddi ar y cae wedi creu argraff ac yn rhan o hanes."
Fe wnaeth y chwaraewr adael rygbi'r undeb i ymuno gyda chlwb rygbi'r gynghrair Crusaders ddwy flynedd yn ôl.
Amser i ymddeol
Wedi i'r clwb gyhoeddi na fydden nhw'n chwarae yn y Super League y tymor nesaf roedd disgwyl i Thomas symud i Wigan.
Fe wnaeth Thomas gynrychioli'r Llewod yn ogystal.
Yn ôl Thomas, roedd o wedi trafod y penderfyniad gyda'i deulu a chyfeillion agos.
"Dwi wedi gwrando a thrafod y manylion gyda nifer.....Mae fy meddwl yn dweud wrthyf ei bod yn amser i ymddeol.
"Os na allwch chi roi cant y cant....allwch chi ddim gwneud cyfiawnder â'r gamp.
"Mae'n ddiwrnod trist iawn ond dwi'n gwybod bod yr amser wedi dod i mi orffen chwarae.
"Wna i fyth golli fy angerdd tuag at y gamp."
Dywedodd nad yw'n gwybod be ddaw nesa ond ei fod yn barod am her nad yw'n cynnwys rygbi.
'Rhesymau personol'
"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig gyda fi yn fy ngyrfa.
"Mae gen i atgofion a ffrindiau da."
Yn ôl adroddiadau ddydd Llun fe wnaeth Thomas dynnu allan o'r garfan yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn "am resymau personol".

Gorffennodd chwarae rygbi'r undeb gyda Gleision Caerdydd
"Mae gan Gareth broblemau teuluol ar hyn o bryd," meddai hyfforddwr tîm 13 Cymru, Iestyn Harris.
"Fe wnes i gwrdd â Gareth y diwrnod o'r blaen ac mae disgwyl cyhoeddiad pellach yn y dyddiau nesaf."
Dydd Mawrth dywedodd Harris ei fod wedi gweithio gyda Thomas am bron i ddwy flynedd a bod y modd y symudodd o rygbi'r undeb i'r gynghrair yn destament i'w broffesiynoldeb.
"Dwi'n siŵr y bydd yn cael llwyddiant arbennig ym mhopeth y bydd yn ei wneud."
Fe enillodd Thomas ei gap cynta' i Gymru yn erbyn Japan yn 1995 a fo oedd yn gapten pan gipiodd Cymru eu Camp Lawn cynta' mewn 27 mlynedd yn 2005.
Aeth y canolwr / asgellwr ymlaen i arwain y Llewod yn Seland Newydd yn ddiweddarach y flwyddyn honno, ar ôl i'r capten gwreiddiol, Brian O'Driscoll, gael anaf yn y prawf cynta'.
Mae'r chwaraewr, sy'n cael ei adnabod fel 'Alfie' hefyd wedi chwarae i Ben-y-bont, Caerdydd, y Rhyfelwyr Celtaidd, ac wedi treulio tair blynedd yn Ffrainc gyda Toulouse - ble enillodd o Gwpan Heineken yn 2005 - cyn dychwelyd i Gymru i chwarae i Gleision Caerdydd.
Cam anarferol a dewr
Fe symudodd Thomas o Rygbi'r Undeb i'r Gynghrair ym mis Mawrth 2010, ar ôl ennill 100 o gapiau i Gymru.
Ymunodd â'r Crusaders, ac enillodd ei gap cynta' gyda Rygbi Cynghrair Cymru'r mis Hydref canlynol, gan sgorio yn ystod y golled 13-6 yn erbyn Yr Eidal.
Roedd Thomas yn gapten pan gurodd Cymru Ffrainc yng Nghwpan Ewrop, gan sicrhau lle i Gymru ym Mhencampwriaeth y Pedair Gwlad yn erbyn Lloegr, Awstralia a Seland Newydd.
Oddi ar y cae, datgelodd Thomas ym mis Rhagfyr 2009 ei fod yn hoyw - cam anarferol a dewr i bersonoliaeth chwaraeon.
Roedd bywyd Thomas wedi tynnu sylw'r seren Hollywood, Mickey Rourke, sy'n awyddus i actio rhan y chwaraewr rygbi mewn ffilm.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2011