Bygythiad i'r llwybr arfordirol?

  • Cyhoeddwyd
Bae CeredigionFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Llwybr Arfordir Ceredigion ei agor yn 2008

Mae swyddogion wedi gwadu awgrym na fydd modd cwblhau llwybr arfordirol Cymru gyfan oherwydd pryderon y bydd yn amharu ar breifatrwydd cymuned o deithwyr.

Ers 2007 mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £2 miliwn y flwyddyn i lwybr 870 milltir fydd yn dilyn arfordir Cymru o Went i Sir y Fflint.

Y gobaith yw cwblhau'r llwybr y flwyddyn nesaf.

Ond mae'r gwaith ar ddarn hanner milltir o'r llwybr yn Rover Way ger Caerdydd wedi mynd i drafferthion wedi i grŵp o tua 80 o deithwyr fynegi pryder y byddai'r llwybr yn amharu ar eu preifatrwydd.

'Datrys problemau'

Dywedodd Cyngor Caerdydd eu bod yn ymwybodol o'r broblem, ac yn ceisio cyrraedd "cyfaddawd hapus".

"Mae'r cyngor yn ystyried y materion yma ac yn bwriadu cyflwyno dewisiadau fydd yn cwrdd â gofynion trigolion safle Rover Way," meddai llefarydd ar ran y cyngor.

"Mae'r llwybr sydd wedi ei ddewis eisoes wedi ei sefydlu yn anffurfiol, a dyma'r un mwyaf amlwg i gael yn llwybr ffurfiol sy'n rhoi golygfa ddi-dor o'r môr.

"Mae'r cyngor fodd bynnag yn sensitif i anghenion trigolion Rover Way, ac rydym yn gobeithio datrys y problemau fel gall y cynllun symud ymlaen."

Yn flaenorol roedd y cyngor wedi ceisio datrys y broblem drwy godi sgrin 16 troedfedd o amgylch y safle.

Ond dywedodd y teithwyr sy'n byw ar y safle y byddai hynny "yn debyg i garchar" ac wedi galw am symud y llwybr i ffwrdd o'r arfordir ac yn bell o'u cartrefi.

Llwybr Arfordir CeredigionFfynhonnell y llun, BBC news online
Disgrifiad o’r llun,

Y nod yw agor Llwybr Arfordir Cymru gyfan erbyn gwanwyn 2012

Dywedodd Tim Wilson o Gynllun Sipsiwn a Theithwyr Caerdydd: "Mae'r llwybr yn uwch na'r safle ac fe fyddai'r cyhoedd felly yn edrych i lawr ar bobl yn eu carafannau."

Ond mae cerddwyr wedi dweud na ddylai teithwyr gael penderfynu cyfeiriad y llwybr.

"Mae pafin y tu allan i fy nghartref i - sut bod hyn yn wahanol?" meddai Gwyn Lewis o Gymdeithas Cerddwyr Caerdydd.

"Fedrwch chi ddim rheoli pwy sy'n cerdded y tu allan i'ch tŷ a fyddech chi ddim yn disgwyl medru gwneud hynny - mae'n rhan o fyw mewn cartref normal.

"Fyddwn i ddim yn disgwyl i gannoedd o bobl gerdded ar hyd y rhan yna o'r llwybr beth bynnag - nid dyma'r rhan fwyaf prydferth o arfordir Cymru.

"Ond fe fyddai'n biti garw pe na bai'r llwybr arfordirol yn cael ei gwblhau - bydd unrhyw un sydd arno yn edrych allan i'r môr nid i mewn i'r gwersyll."

Hyderus

Cyngor Cefn Gwlad Cymru sy'n cydlynu'r llwybr arfordirol.

"Rydym yn gobeithio agor y llwybr yn gyflawn ym mis Mai (2012). Fe fydd yn 1,400km o hyd ac mae 1,350km eisoes yn barod," meddai llefarydd.

"Rydym yn falch o ddweud bod mwyafrif llethol y bobl fu'n rhan o'r cynllun wedi bod yn gydweithredol dros ben ac fe fydd yn dipyn o gamp."

Dywedodd Llywodraeth Cymru hefyd eu bod yn hyderus y byddai'r llwybr yn agor ym mis Mai.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol