Dulliau newydd i atal pla coed

  • Cyhoeddwyd
Gwiddonyn mawr y pinwyddFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Gwiddonyn mawr y pinwydd yw'r pla unigol pwysicaf mewn planhigfeydd yn Ewrop

Mae dulliau naturiol newydd o atal y pla mwyaf dinistriol yng Nghymru sy'n effeithio ar goed yn dechrau gweithio, fel y dengys arbrofion maes mewn coedwigoedd uwchdirol ger Tregaron.

Hylobius abietis - gwiddonyn mawr y pinwydd - yw'r pla unigol pwysicaf mewn planhigfeydd yn Ewrop ac mae pryderon y gall newid yn yr hinsawdd gynyddu poblogaethau'r pryfyn hwn.

Ond yn awr mae ymchwilwyr y prosiect IMPACT yn Aberystwyth wedi darganfod bod cyfuniad o elynion naturiol y pla - sef nematodau microsgopig a ffyngau - yn arf grymus yn y frwydr yn erbyn yr Hylobius.

"Gall Hylobius ladd hyd at hanner y coed ifanc a blannwyd," meddai'r Athro Hugh Evans, Pennaeth Ymchwil Coedwig yng Nghymru, a chydlynydd y prosiect, a ariennir yn rhannol gan y Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd (ERDF) drwy Raglen Iwerddon-Cymru (INTERREG 4A), gydag arian cyfatebol gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru.

'diogelu coed ifanc'

"Mae'r canlyniadau diweddaraf o'r arbrofion yng Nghwm Berwyn yn awgrymu y gellir defnyddio cyfuniad o gyfryngau naturiol entomopathogenig i ymosod ar a lladd larfâu, chwilerod ac oedolion ifanc yr Hylobius, gan leihau'r boblogaeth o 40 y cant o leiaf."

Mae ymchwilwyr IMPACT wedi cael rhagor o'r nematodau microsgopig hyn sydd eisoes yn rhan o arfogaeth Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn ei frwydr yn erbyn y gwiddon.

"Drwy adeiladu ar waith arloesol ein partneriaid ym Mhrifysgol Abertawe, dan arweiniad yr Athro Tariq Butt, y Coleg Gwyddoniaeth, rydym yn arbrofi gyda ffyngau sy'n lladd pryfed ochr yn ochr â'r nematodau, ar grynodiadau is, yn hytrach na'u defnyddio ar wahân," meddai'r Athro Evans.

"Mae'r canlyniadau'n hynod o addawol ac maent yn rhoi rheolaeth naturiol effeithlon, gan leihau ymhellach yr angen am ddefnyddio cemegion i ddiogelu coed ifanc."

Mae Ymchwil Coedwig yng Nghymru yn ymchwilio i fesurau rheoli pla gwell drwy IMPACT gyda phartneriaid o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Genedlaethol Iwerddon ym Maynooth.

Y flaenoriaeth i'r tîm Rheolaeth Integredig dros Blâu Coedwig i Ymdrin â Thueddiadau Hinsawdd (IMPACT) yw asesu sut y bydd newid hinsawdd yn effeithio ar y difrod a achosir gan blâu coedwig a choetir.

"Wrth i'r hinsawdd fynd yn gynhesach a gwlypach, bydd yr amodau yn gwella i Hylobius, ac mae'n bwysig felly fod gennym reoliadau mwy effeithiol fyth," meddai.

Mae gwyddonwyr IMPACT yn disgwyl y bydd tywydd eithafol yn y dyfodol - sychder, llifogydd, tymereddau uwch ac is - yn rhoi coetiroedd dan bwysau cynyddol.

Mae'r pwysau cynyddol yn lleihau amddiffynfeydd y coed, gan eu gwneud yn fwy agored i ymosodiadau gan blâu pryfed megis gwiddon mawr y pinwydd, chwilod rhisgl, chwilod tyllu coed ynghyd ag amrywiaeth fawr o fwydwyr gwreiddiau a dail, a bydd hyn oll yn effeithio ar dwf y goeden ac ambell waith yn arwain at ei thranc.

Yr allwedd fydd rheolaeth fiolegol wedi'i hymgorffori mewn dulliau monitro newydd, gan ganolbwyntio'n arbennig ar gyfryngau rheoli microbaidd - ffyngau, bacteria, firysau a nematodau parasitig.

Mae gan y bartneriaeth IMPACT eisoes brofiad helaeth o ddefnyddio'r cyfryngau hyn ac mae'n disgwyl y bydd yn gallu darparu technoleg well ar gyfer unrhyw ddefnyddwyr tir y mae eu coed mewn perygl o gael eu heintio gan blâu.