Lerpwl 0 Abertawe 0
- Cyhoeddwyd
Teithiodd tîm Brendan Rodgers i Anfield i wynebu Lerpwl ddydd Sadwrn gan ennill eu hail bwynt oddi cartref y tymor hwn.
Brwydrodd yr Elyrch yn ddewr ond dim ond arbediad gwych gan gôl geidwad Abertawe, Michel Vorm, a rwystrodd Lerpwl rhag ennill y gêm wrth iddo arbed ergyd Glenn Johnston o 20 llath.
Dylai Andy Carroll wedi sgorio i Lerpwl yn gynnar yn yr ornest ond fe darodd y croesfar.
Mewn gêm gyffrous gallai Mark Gower wedi ennill tri phwynt i'r Elyrch ond fe wastraffodd gyfle euraid yn ystod munudau ola'r gêm.
Manchester United
Mae Lerpwl wedi cael dechrau da i'r tymor, ac yn chweched yn y tabl ar nos Sadwrn.
Eu huchelgais mae'n debyg yw gorffen ymhlith y pedwar uchaf er mwyn sicrhau lle yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf.
Mae'n debyg mai uchelgais Abertawe yw aros yn yr Uwchgynghrair am dymor arall, ond fe fyddai hynny'n gamp llawn cystal.
Roedd Abertawe yn aros yn y degfed safle yn Uwch Gynghrair Lloegr nos Sadwrn.
Bydd yr Elyrch yn croesawu Manchester United i Stadiwm Liberty yn eu gêm nesaf yn yr Uwchgynghrair ar Dachwedd 19 (5.30pm)
Lerpwl: Reina, Johnson, Jose Enrique, Agger, Skrtel, Henderson (Kuyt 46), Downing, Lucas, Adam, Suarez, Carroll (Bellamy 74).
Eilyddion: Doni, Coates, Kelly, Maxi, Spearing, Kuyt, Bellamy
Abertawe:Vorm, Williams, Taylor, Monk, Rangel, Britton, Dyer, Routledge (Sinclair 74), Allen, Gower (Augustien 90+2), Graham.
Eilyddion: Tremmel, Moras, Sinclair, Augustien, Richards,Lita, Moore.
Torf: 45,013
Tabl Uwchgynghrair Barclays
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2011