Wrecam a Chasnewydd yng Nghwpan Cymru

  • Cyhoeddwyd
Cwpan CymruFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd y drydedd rownd yn cael ei chynnal penwythnos cyntaf mis Rhagfyr

Tynnwyd yr enwau o'r het ar gyfer trydedd rownd Cwpan Cymru ddydd Llun.

Er bod llawer o sylw i'r ffaith fod Wrecsam a Chasnewydd yn dychwelyd i'r gystadleuaeth eleni wedi bwlch hir - 1995 i Wrecsam a 1992 i Gasnewydd - gêm arall hoeliodd y sylw.

Bydd Bangor - enillwyr y Gwpan am dair blynedd yn olynol cyn y tymor diwethaf - yn croesawu'r deiliaid Llanelli i Ffordd Farrar yn y drydedd rownd.

Cafodd y ddau glwb o Uwchgynghrair Blue Square Bet gemau yn erbyn cymdogion gweddol agos.

Bydd Wrecsam yn herio Airbus UK Brychdyn o Uwchgynghrair Cymru a Chasnewydd yn wynebu cyn bencampwyr Cymru yn y 1990au, Y Barri.

Fe fydd ambell gêm arall rhwng cymdogion agos hefyd gyda GAP Cei Cona yn croesawu Derwyddon Cefn, a dau dîm o Uwchgynghrair Cymru - Port Talbot a Lido Afan - yn wynebu ei gilydd.

Un arall sy'n tynnu sylw yw ymweliad Y Rhyl â'r Drenewydd.

Bydd y gemau'n cael eu chwarae ar benwythnos cyntaf mis Rhagfyr.

Trydedd Rownd Cwpan Cymru yn llawn:-

Y Fflint v Gwasanaeth Sifil Casnewydd

Port Talbot v Lido Afan

Y Seintiau Newydd v Bryntirion

Y Porth v Cambrian a Chlydach

Wrecsam v Airbus UK Brychdyn

Caerfyrddin v Pen-y-bont ar Ogwr

Caersws v Llandudno

Bwcle v Ffynnon Taf

Castell-nedd v West End

Cefn v Aberystwyth

Y Drenewydd v Y Rhyl

Bangor v Llanelli

Prestatyn v Goytre United

Casnewydd v Y Barri

GAP Cei Conna v Derwyddon Cefn

Seintiau Merthyr v Y Bala