Y Gleision am i Shaun Edwards yn ymuno â nhw
- Cyhoeddwyd
Wedi i gytundeb Shaun Edwards ddod i ben gyda thîm Cymru a Wasps mae 'na gryn drafod beth fydd yn ei wneud nesa.
Mae'r Gleision wedi awgrymu bod 'na le iddo gyda'r rhanbarth.
Yn ôl Peter Thomas, y cadeirydd, mae ganddyn nhw ddiddordeb mawr mewn arwyddo Edwards fel hyfforddwr amddiffyn rhan amser i weithio ochr yn ochr efo Gareth Baber a Justin Burnell.
Fe fyddai hynny yn golygu dwy neu dair sesiwn ymarfer bob wythnos ac ar ddiwrnod gêm.
Llesol
Mae Mr Thomas eisoes wedi siarad gydag Undeb Rygbi Cymru i weld a oes modd trefnu rhywbeth ar y cyd.
Rhwng Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a gemau'r haf a hydref, meddai, tua phedwar mis o waith y flwyddyn sydd gan hyfforddwyr y tîm cenedlaethol.
Dywedodd y dylai pob hyfforddwr gael eu clustnodi ar gyfer y rhanbarthau am weddill y flwyddyn ac y byddai hyn yn llesol i'r rhanbarthau a'r hyfforddwyr.
Ac fe fyddai'n "cryfhau'r cysylltiau gyda'r tîm cenedlaethol".
Er iddo ofyn i'r undeb drafod y mater o ddifri, yn y pen draw, penderfyniad i fwrdd rheoli'r Gleision fydd penodi Edwards.
Fe fyddan nhw'n cyfarfod ddiwedd mis Tachwedd ac mae Shaun Edwards yn eitem ar yr agenda.