Gwobr Dug Caeredin: Annog pobl ifanc i fentro
- Cyhoeddwyd
Ers sefydlu cynllun Gwobr Dug Caeredin, mae dros ddwy filiwn o wobrau wedi eu rhoi i bobl ifanc yn y DU am waith gwirfoddol, datblygu sgiliau, gweithgaredd corfforol a mynychu teithiau antur.
Dywedodd y Tywysog Philip iddo gael yr ysbrydoliaeth ar gyfer y cynllun wrth gerdded yn Yr Alban pan oedd yn ei arddegau.
Roedd y daith honno yn rhan o wobr o'r enw Bathodyn Moray - rhagflaenydd cynllun Gwobr Dug Caeredin.
Un syml oedd y syniad; os ydy person ifanc yn gallu llwyddo mewn un gweithgaredd, gall y teimlad hwnnw o lwyddiant ledu i nifer o weithgareddau eraill.
Roedd y cynllun yn annog pobl ifanc i goncro eu hofnau a'r pethau sydd yn eu dal yn ôl, gan ddringo mynyddoedd, disgyn i geudyllau ac weithiau mentro trwy'r jyngl.
Cynllun chwyldroadol
Fe wnaeth diddordeb y Dug yn y ganolfan Outward Bound gyntaf yn Aberdyfi, a sefydlwyd yn 1941, hefyd ei ysbrydoli i greu Gwobr Dug Caeredin.
Roedd egwyddorion y wobr yn seiliedig ar egwyddorion ac athroniaeth y ganolfan yn Aberdyfi, a'r nod oedd datblygu gwytnwch morwyr ifanc i wasanaethu yn y Llynges.
Cafodd y Dug ei ysbrydoli gan arloeswr y ganolfan, Kurt Hahn, yr addysgwr chwyldroadol ddihangodd rhag y Natsïaid yn Yr Almaen, gan symud i'r Alban a sefydlu Ysgol Gordonstoun.
Blodeuodd y tywysog ifanc yn yr ysgol gyda'i gweithgareddau amrywiol a'i chyfundrefn heriol.
Yn ddiweddarach, argyhoeddwyd Philip o werth addysgu mwy na'r meddwl yn unig.
Roedd Mr Hahn eisoes wedi dyfeisio Bathodyn Moray a Bathodynnau Sirol, ac fe ddaeth y rhain yn sail i gynllun Gwobr Dug Caeredin.
Pan gychwynnodd yn 1956, roedd y cynllun yn cael ei ystyried yn un chwyldroadol.
Ond yng ngoleuni'r pwyslais ar yr agwedd gorfforol, fe wnaeth un o weinidogion y llywodraeth gyhuddo'r Dug o geisio ail-greu mudiad Ieuenctid Hitler.
Dim ond bechgyn oedd yn cael cymryd rhan yn y cynllun yn y dyddiau cynnar. Yn ddiweddarach crëwyd adain ar wahân i ferched o'r enw Design for Living.
Ond roedd y cynllun yn llwyddiant o'r cychwyn cyntaf. O fewn blwyddyn, roedd dros 7,000 o fechgyn wedi ymuno.
O fewn pum mlynedd roedd ymddiriedolaeth elusennol wedi ei ffurfio gydag ysgolion ym mhob rhan o Brydain yn cymryd rhan.
Erbyn yr 1960au hwyr roedd dynion a merched 14 i 21 oed yn rhan o'r un cynllun, ac erbyn yr 80au roedd partneriaethau gyda byd busnes yn gynyddol bwysig.
'Etifeddiaeth enfawr'
Ar adeg pan oedd diweithdra ymysg pobl ifanc yn uchel, roedd y Dug yn gadarn o'r farn y dylai pobl ifanc ymroi i'w gynllun yn hytrach na mynegi eu teimladau mewn modd dinistriol.
Fe gychwynnodd ffrae drwy awgrymu na ddylai'r rhai oedd yn ddi-waith gwyno am eu hamser hamdden sbâr.
Ond os oedd ei safbwyntiau'n ymddangos yn ansensitif i rai, roedd ei waith yn ddiflino.
Mae miliynau wedi elwa o'r cynllun, ac mae rhai cyfatebol wedi'u creu ar draws y byd.
Dywedodd y Fonesig Tanni Grey Thomson, sydd wedi bod yn ymddiriedolwr Gwobr Dug Caeredin am bum mlynedd, ei fod "wedi cael effaith enfawr ar fywydau pobl ifanc".
"Ei frwdfrydedd oedd gwneud i bobl deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn bwysig," meddai.
"Mae'r gwobrau wedi bod yn mynd ers 65 mlynedd - mae'r hirhoedledd yn anhygoel, ac mae cenedlaethau wedi newid dros yr amser hwnnw ond mae'r gwobrau mor addasadwy i'r heriau i bobl ifanc heddiw.
"Mae'n etifeddiaeth enfawr."
Ychwanegodd Ian Gwilym, uwch-reolwr cysylltiadau Gwobr Dug Caeredin wrth raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru bod "yr effaith bositif mae e wedi cael ar bobl ifanc yn fendigedig".
"Mae miloedd o bobl ifanc Cymru wedi cwrdd â fe, a beth sydd yn amlwg i fi yw'r diddordeb mae'r Dug wedi'i ddangos mewn pobl ifanc, wastad gydag egni mawr a wastad gyda gwên fawr a thynnu coes pobl ifanc."
'Pobl ifanc yr un peth'
Er i'r niferoedd gynyddu ar raddfa enfawr, parhaodd hanfodion y cynllun yn syml.
Mae disgwyl i bobl ifanc gyrraedd y nod mewn pedair adran - gweithgaredd corfforol, datblygu sgiliau, gwasanaeth gwirfoddol a theithiau antur.
Yn ystod dathliadau pen-blwydd y wobr yn 50 oed yn 2006, dywedodd y Dug fod y cynllun yr un mor berthnasol ag erioed.
"Mae pobl ifanc yr un peth drwy'r blynyddoedd," meddai.
"Mae'r amgylchiadau maen nhw'n byw ynddyn nhw wedi newid, ond mae'r egwyddor o ddysgu am yr hyn sy'n digwydd yn y byd yn union yr un fath."
Dros hanner canrif ers ei sefydlu, mae cynllun y Dug wedi annog miloedd o bobl ifanc i ddatblygu sgiliau newydd, diolch i'r weledigaeth a gafodd y Tywysog Philip ifanc wrth gerdded bryniau'r Alban.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2021