'Colli hyder' mewn bandio ysgolion
- Cyhoeddwyd
Mae pennaeth ysgol uwchradd yng Ngwynedd yn honni fod dull newydd o gategoreiddio perfformiad - bandio - yn amherffaith.
Dywedodd Neil Foden, pennaeth Ysgol Friars ym Mangor, fod hyder yn y system fydd yn dechrau ym mis Rhagfyr eisoes wedi ei golli.
"Dyw ysgolion ddim yn deall y system, a'r argraff rydym yn ei gael yw nad yw gweision sifil yn ei ddeall chwaith felly pa obaith sydd i rieni?" gofynnodd.
Dywedodd llywodraeth Cymru fod bandio yn rhoi darlun clir i rieni am berfformiad ysgol.
Maen nhw'n dweud fod bandio yn defnyddio data cenedlaethol ar berfformiad ysgol i osod ysgolion mewn grwpiau sy'n dangos gwelliant o gymharu ag ysgolion eraill yng Nghymru.
Mae bandio yn defnyddio pedwar math o ddata:
Rhai canlyniadau TGAU
Faint sy'n gymwys i gael cinio ysgol yn rhad ac am ddim
Record presenoldeb
Cynnydd dros gyfnod o flynyddoedd.
Mae Ysgol Friars yn dyddio nôl i'r 16eg ganrif, ond mae'r ysgol fodern wedi cael blwyddyn ardderchog gydag 80% o ddisgyblion yn llwyddo i gael graddau A i C mewn arholiadau safon uwch.
Ond dywed Mr Foden y gallai bandio fod yn gamarweiniol, ac na fydd efallai yn adlewyrchu gwir berfformiad ysgol.
"Mae'r system yma yn ffordd amherffaith o fesur ysgolion," meddai.
'Camarweiniol'
"Er enghraifft, pe bai ni'n gallu recriwtio saith o blant ychwanegol o gartrefi difreintiedig sy'n gymwys i gael cinio ysgol yn rhad ac am ddim, er nad ydym wedi gwneud dim i wella ein perfformiad ein hunain fe fyddem bron yn sicr yn codi yn y tabl.
"Byddai ein perfformiad yn sydyn yn edrych yn well.
"Yn amlwg nid yw hynny'n sefyllfa iach. Gallai fod yn gamarweiniol."
Bydd y system newydd yn weithredol ym mis Rhagfyr, ond mae ysgolion eisoes wedi cael gwybod dros dro ym mha fandiau y byddan nhw.
Mae llywodraeth Cymru yn mynnu fod bandio yn wahanol iawn i dablau ysgolion.
Ond pryder Plaid Cymru yw mai dyna fel y bydd y cyhoedd yn ei gweld hi.
"Nid yw Plaid Cymru am weld ein hysgolion yn cael eu gor-reoli," meddai llefarydd y blaid ar addysg.
"Mae'r gweinidog Llafur yn ceisio enwi a chodi cywilydd ar ysgolion y mae o'n ystyried sydd yn tan-berfformio, ond y cyfan wnaiff hyn yw eu tanseilio ymhellach.
"Mae'r gweinidog addysg ei hun wedi cyfadde' fod tablau ysgolion yn 'or-syml' a 'dinistriol' ond eto mae'r dal i'w sefydlu yng Nghymru o dan enw arall.
'Rhan allweddol'
"Mae'r hyn y mae'r gweinidog wedi cyhoeddi hyd yma ond yn pwysleisio'r bwlch rhwng ysgolion 'da' ac ysgolion 'drwg' heb ddatrys y rhesymau am y methiant."
Dywedodd llywodraeth Cymru y byddai bandio yng nghalon yr agenda i wella ysgolion a'i fod yn "rhan allweddol" o'i rhaglen lywodraethu.
"Nid mater o labelu, enwi a chodi cywilydd a chreu tabl amrwd yw hwn," meddai llefarydd ar ran llywodraeth Cymru.
"Mae'n fater o osod ysgolion mewn grwpiau er mwyn adnabod pa rai sydd angen ein cefnogaeth a pha rai y gallwn ddysgu ohonynt.
"Mae'r wybodaeth bandio dros dro sydd eisoes wedi eu creu wedi bod yn ddefnyddiol dros ben wrth ddangos pa ysgolion sydd yn tan-berfformio.
"Yn y tymor hir bydd bandio, ynghyd â'r newidiadau eraill yr ydym yn eu gwneud, yn ein cynorthwyo i wneud gwelliannau effeithiol i'n system addysg"