Technoleg yn datrys dirgelwch

  • Cyhoeddwyd
Hugh Owen ThomasFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Hugh Owen Thomas: Tad llawdriniaeth orthopedig

Cafodd dau fachgen bach eu golchi ar draeth ar Ynys Môn un noson stormus yn y ddeunawfed ganrif.

Eu disgynyddion greodd argraff ar y byd meddygol oherwydd y ddawn o osod esgyrn.

Erbyn hyn, mae technoleg DNA wedi dechrau datrys dirgelwch, o ble daeth y bechgyn, yr unig ddau i oroesi llong-ddrylliad oddi ar Ynys y Fydlun yng ngogledd-orllewin yr ynys rhwng 1743 a 1745.

Bu farw un o'r brodyr ond aeth y llall i fyw i fferm Maes y Merddyn Brych ger Llanfair yng Nghornwy lle ddechreuodd amlygu'r ddawn o osod esgyrn.

Cwestiynu

Doedd y bachgen, Evan Thomas, ddim yn siarad Cymraeg na Saesneg a'r gred ar y pryd oedd ei fod yn dod o Sbaen.

Ond mae dadansoddiad DNA o un o ddisgynyddion Evan Thomas, Thomas Dafydd Evans, yn cwestiynu'r rhagdybiaeth fod y bechgyn wedi dod o Sbaen.

Dywedodd cyfarwyddwr y prosiect, John Rowlands: "Rydyn ni wrthi'n dadansoddi 300 gigabeit o ddata DNA sy'n cyfateb i 300 copi o holl lyfrau'r Encyclopaedia Britannica.

"Mae'r prosiect eisoes wedi casglu ei fod yn debygol bod Evan Thomas wedi dod o ddwyrain Ewrop.

"Nid oedd yn dod o Brydain ac mae'n debygol nad yn dod o Sbaen."

Cafodd Evan Thomas a'i frawd eu golchi i'r lan ar rafft cyn i smyglwr lleol o'r enw Dannie Luci ddod o hyd iddyn nhw.

Prifysgol

Bu farw brawd Evan Thomas ond fe gafodd Evan ei fabwysiadau gan feddyg lleol ac fe fyddai'n mynd gyda'r meddyg i helpu gosod esgyrn os oedd claf wedi cael damwain.

Trosglwyddodd Evan y sgiliau i'w fab, Richard ap Evan ac ymlaen i'w wŷr, Ifan Tomos a symudodd i Lerpwl lle daeth yn amlwg iawn fel gosodwr esgyrn.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Dyfeisiodd Hugh Owen Thomas sblint arbennig

Anfonodd Ifan Tomos ei bum mab i astudio meddygaeth yn y brifysgol.

Dyfeisiodd un ohonyn nhw, Hugh Owen Thomas, sblint arbennig ac mae'n cael ei gydnabod yn dad llawdriniaeth orthopedig.

Ei nai ef, Syr Robert Jones, sefydlodd Ysbyty Orthopedig Robert Jones ac Agnes Hunt yn Gobowen.

Fe oedd y dyn cyntaf yn y byd i ddefnyddio Pelydr X i wneud diagnosis o dorasgwrn.

Erbyn hyn mae wyth cenhedlaeth o ddisgynyddion Evan Thomas wedi bod yn osodwyr esgyn.

Gwrthryfel Jacobiad

Ond yn ôl Thomas Dafydd Evans, mae'r traddodiad teuluol o osod esgyrn yn debyg o ddod i ben cyn bo hir.

"Mae fy chwaer yn radiolegydd ac mae fy nghyfnither yn ddoctor yn Awstralia ond nhw yw'r disgynyddion olaf sydd yn feddygon am fy mod i yn brifathro sydd wedi ymddeol," meddai Mr Evans.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Robert Jones sefydlodd Ysbyty Orthopedig Robert Jones ac Agnes Hunt yn Gobowen

"Mae chwedlau'r teulu yn dweud bod Evan Thomas wedi dod o Sbaen ond rwy'n credu bod y ddamcaniaeth oherwydd ei groen tywyll ac oherwydd bod cymaint o longau o Sbaen yn hwylio heibio Ynys Môn ar y ffordd i'r Alban i gymryd rhan yn y gwrthryfel Jacobyddol."

Ni fydd dadansoddiad llawn o'r DNA ar gael tan y flwyddyn nesaf ond mae Mr Rowlands yn ffyddiog y bydd y canlyniadau yn dangos o ble daeth Evan Thomas.