Babi naw mis oed wedi marw yn dilyn ymosodiad ci

Mae presenoldeb yr heddlu wedi bod yn amlwg yn Rogiet ddydd Llun wrth i'r ymchwiliad i'r digwyddiad nos Sul barhau
- Cyhoeddwyd
Mae babi naw mis oed wedi marw yn dilyn ymosodiad ci yn Sir Fynwy.
Dywedodd Heddlu Gwent nos Sul eu bod wedi "derbyn adroddiad o ymosodiad gan gi" mewn tŷ ar stryd Crossway ym mhentref Rogiet, ger Cil-y-coed tua 18:00.
Fe gafodd swyddogion heddlu a pharafeddygon y Gwasanaeth Ambiwlans eu hanfon i'r cyfeiriad, ble y cadarnhawyd bod bachgen naw mis oed wedi marw yn y fan a'r lle.
Fe gafodd y ci, oedd yn eiddo i aelod o'r teulu, ei symud o'r eiddo, ac mewn datganiad yn hwyr brynhawn Llun fe gadarnhaodd yr heddlu bod y ci bellach wedi cael ei ddifa gan filfeddyg.
Dywed y llu bod neb wedi cael ei arestio, a bod ymholiadau'n parhau i gadarnhau brîd y ci ac "i ddeall amgylchiadau'r digwyddiad trasig yma".
Ychwanegodd y datganiad fod swyddogion arbenigol yn rhoi cefnogaeth i deulu'r plentyn.
Tawel iawn ar y stryd ben bore Llun
Erbyn 22:00 nos Sul roedd y rhan fwyaf o gerbydau'r Gwasanaeth Ambiwlans a'r heddlu wedi mynd, ac yn eu lle roedd timau archwilio manwl wedi cyrraedd.
Yn natganiad cychwynnol y llu yn cadarnhau'r farwolaeth, dywedodd y Prif Uwch-arolygydd John Davies: "Rydym yn deall y bydd yna bryderon ynghylch y digwyddiad yma, ond mae swyddogion yn bresennol ac fe fyddan ni gwneud rhagor o ymholiadau wrth i'r ymchwiliad fynd yn ei flaen.
"Os oes gyda chi bryderon neu wybodaeth, dewch atom er mwyn siarad â ni."
Dywedodd gohebydd BBC Cymru, Alun Thomas, ben bore Llun fod swyddogion heddlu yn dal ar ddyletswydd y tu fas i dŷ yn Crossways.
"Mae hi'n dawel iawn ar y stryd fore Llun, yn wahanol iawn i'r olygfa nos Sul pan roedd nifer o gerbydau'r heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans yma.
"Mae Rogiet yn bentre' tawel ger Cil-y-Coed nid nepell o'r pontydd dros Afon Hafren.
"Mae nifer sy'n byw yma yn teithio i'w gwaith ym Mryste, gyda'r ardal wedi dod yn fwy apelgar ers i'r tollau dros y pontydd gael eu dileu rai blynyddoedd yn ôl."
'Teimlad dwys o sioc'

Cafodd apêl ei sefydlu fore Llun gyda'r nod o godi arian ar gyfer angladd y bachgen ac o fewn ychydig oriau roedd y targed o £3,500 wedi ei gyrraedd
Dywedodd y Cynghorydd Peter Strong wrth y BBC fod y "pentref mewn galar heddiw".
"Mae o'n deimlad dwfn a dwys o sioc y gallai rhywbeth fel hyn ddigwydd yng nghanol ein cymuned dawel ni."
Ychwanegodd fod "colli babi yn yr amgylchiadau hyn yn ofnadwy", ac na allai "hyd yn oed ddechrau dychmygu'r galar y mae'r teulu'n ei deimlo'r bore yma".
Diolchodd Mr Strong i'r gwasanaethau brys, gan ganmol ysbryd cymunedol yr ardal, a gofyn i bobl roi llonydd i'r teulu.

Mae'r farwolaeth wedi llorio'r gymuned leol, medd Katherine Close o fenter Rogiet Community Junction
Mae'r farwolaeth wedi ysgwyd pawb, yn ôl un o ymddiriedolwyr y fenter gymunedol Rogiet Community Junction, sy'n rhedeg siop a chaffi yn y pentref.
"Mae'n wirioneddol drasig," dywedodd Katherine Close. "Rwy'n teimlo dros y teulu am yr hyn maen nhw'n mynd trwyddo, a dros y stryd i gyd yn wir achos ry'n ni'n gymuned glos ac fe fydd yn eu llorio."
Mae'r caffi, meddai, yn cynnig "lle diogel i bobl ddod a siarad", cael "ysgwydd i grio arno" neu "gefnogaeth i'r rhai sydd ei angen".
Mewn pentref "lle ry'ch chi'n nabod pawb", ychwanegodd bod "ein drysau wastad ar agor i bobl sydd angen dod i mewn a siarad".
Dywedodd y dirprwy brif weinidog, Huw Irranca-Davies AS, bod ei feddyliau gyda'r teulu sydd wedi eu heffeithio.
"Mae'n drasiedi enfawr, ac mae pawb ohonom ni yn meddwl am y teulu," meddai.