Dolgarrog: Cofio'r teuluoedd ganrif wedi trychineb a ddylai fod wedi ei osgoi

Fe wnaeth John MacKenzie (canol, yn 1994 gyda'i ŵyr) oroesi trychineb Dolgarrog ond bu farw ei chwaer Mona (chwith) ei fam Catherine a'i nain Margaret Sinnott (dde)
- Cyhoeddwyd
Union ganrif yn ôl, lladdwyd 10 oedolyn a chwech o blant wedi i system argaeau Dolgarrog fethu. BBC Cymru Fyw fu'n siarad hefo teuluoedd rhai o'r bobl gafodd eu heffeithio gan drychineb fyddai wedi gallu cael ei osgoi.
Toc cyn 21:00 ar nos Lun, 2 Tachwedd, 1925, aeth John MacKenzie gyda'i dad a'i frodyr i weld ffilm yn y theatr yn eu pentref, Dolgarrog. Does neb yn gwybod erbyn heddiw beth oedd y ffilm, ond fe achubodd fywyd y bachgen ifanc a nifer fawr yn ei gymuned.
Ers dyddiau roedd glaw trwm wedi bod yn disgyn yn Nyffryn Conwy ond doedd 'na ddim rhybudd i bobl y pentref o'r hunllef oedd yn eu hwynebu.
Yr arwydd cyntaf bod rhywbeth o'i le i'r rhai oedd yn gwylio'r ffilm y noson honno oedd y golau yn diffodd. Yna sŵn erchyll yn dod o'r tu allan.
Aeth y bachgen 11 oed allan gyda gweddill y gynulleidfa i ganol trychineb wrth i lif enfawr o ddŵr fynd drwy'r pentref. Roedd argae'r gronfa ddŵr uwchlaw wedi methu.
Hyrddiwyd cerrig anferth a choed i lawr y dyffryn gan chwalu eiddo a bywydau.
Fe gafodd rhai pobl eu hachub drwy ffenestri eu tai, ac roedd cloch yr eglwys i'w chlywed yn canu wrth gael ei sgubo i ffwrdd gan y llif.

Dolgarrog ar ôl y drychineb
Dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf byddai dodrefn, anifeiliaid marw a chyrff pobl yn cael eu canfod filltiroedd i ffwrdd yn is i lawr y dyffryn.
Lladdwyd 16 o'r gymuned y noson honno - 10 o oedolion a chwech o blant.
Ymysg y meirw oedd chwaer fach pump oed John MacKenzie, ei fam a'i nain.
Er i'r bachgen oroesi, roedd ei golled yn enfawr ac fe effeithiodd arno weddill ei oes, meddai ei ferch Margaret Roberts.
"Ddaethon nhw allan o'r adeilad i ganol hyn i gyd - mae'n rhaid ei fod yn ofnadwy ac yn drawmatig," meddai Margaret, sy'n byw ym Mhorthaethwy.
"Aeth o i mewn i'r sinema a phan ddaeth o allan roedd o wedi colli ei chwaer, ei fam a'i nain - jest fel yna - alla i ddim credu hynny," meddai ei ferch arall Heather Davis, o Landrillo-yn-Rhos.

Lwc achubodd ei fywyd a nifer eraill o'r gymuned gan fod yr adeilad lle cafodd y ffilm ei dangos tu hwnt i lif mwyaf nerthol y dŵr.
Roedd yr un yn wir am ei gartref, ond yn anffodus roedd ei fam a'i chwaer wedi mynd i ymweld â'i nain oedd yn byw yng nghanol y pentref, ac fe gafodd y dair eu lladd.
Chafodd corff ei nain, Margaret Simott, ddim ei ganfod tan 10 mis yn ddiweddarach.

John MacKenzie - oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Jack (chwith) gyda'i chwaer Mona a'i frawd Allan. Ar y dde mae eu cartref nhw, gyda dim ond rhan ohoni wedi ei difrodi gan y llif
"Ti'n mynd trwy'r 'beth os' yn dy feddwl," meddai Margaret.
"Beth os fydden nhw heb fynd i'r sinema'r noson honno, beth os fydden nhw heb fynd i weld teulu - fyddai ei fam a'i chwaer wedi byw, a byddai ein nain ni wedi byw."
Yr hyn sy'n dwysau'r emosiwn iddyn nhw ydi'r ffaith y dylai'r trychineb fod wedi ei osgoi.
Er mai 2 Tachwedd, 1925, yw'r dyddiad sy'n cael ei gofio mae gwraidd y cyfan yn mynd yn ôl ymhell cyn y noson honno.

Mae rhai o'r cerrig mawr gafodd eu cario yn y llif i'w gweld hyd heddiw yn Nolgarrog
Fe adeiladwyd argae Llyn Eigiau ar gyrion mynyddoedd y Carneddau, uwchlaw Dyffryn Conwy, ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf.
Y bwriad oedd cynhyrchu trydan rhad ar gyfer ffatri alwminiwm newydd yno. Erbyn i'r gwaith gael ei gwblhau yn 1911 roedd 200 o ddynion yn cael eu cyflogi yn y ffatri.
Gyda'r galw am alwminiwm a thrydan yn cynyddu wedi'r Rhyfel Mawr, yn 1924 agorwyd argae Coety yn is i lawr y dyffryn, rhwng Llyn Eigiau a phentref Dolgarrog.
Byddai pwerdy'r Aluminium Corporation of Dolgarrog nawr yn gallu cyflenwi trydan i'r ffatri a'r ardaloedd lleol.

Fe gafodd rhan o argae Llyn Eigiau ei ddymchwel gyda ffrwydriadau wedi'r drychineb er mwyn ymchwilio i'r hyn ddigwyddodd
Mae David Greatrex, o Landysul, yn adnabod yr ardal yn dda.
Yn ystod ei yrfa fel peiriannydd sifil roedd o'n gyfrifol am ddiogelwch cronfeydd dŵr yng ngogledd orllewin Cymru.
Un o'r cronfeydd hynny oedd Llyn Dulyn a phan fyddai'n teithio yno byddai'n mynd heibio i Lyn Eigiau ac yn cael ei atgoffa o'r trychineb.
"Y gair am beth ddigwyddodd ydi esgeulustod ac mae'n warthus bod dim byd wedi ei wneud i'w osgoi," meddai.
"Mae'n bwysig gwybod beth sydd wedi digwydd a deall y sefyllfa a dysgu o gamgymeriadau gwirioneddol y gorffennol."

Dywedodd bod 13 o fethiannau argaeau cronfeydd dŵr wedi digwydd ym Mhrydain rhwng 1799 a thrychineb Dolgarrog, gyda 411 o farwolaethau.
Er hyn, yn 1925 doedd 'na dal ddim adran o fewn y llywodraeth oedd yn gyfrifol am eu diogelwch a doedd neb yn arolygu'r argaeau. Roedd hyn yn groes i'r sefyllfa gyda phyllau glo, rheilffyrdd, agerlongau a chwareli.
Doedd y gwersi o drychinebau blaenorol dros gyfnod o 130 o flynyddoedd heb eu dysgu, meddai David Greatrex.
A dim ond 12 mis cyn Dolgarrog fe fu bron i drychineb ddigwydd yn y dyffryn drws nesaf i Lyn Eigiau pan wnaeth cronfa ddŵr Llyn Cowlyd orlifo ar ôl glaw trwm. Roedd yn rhaid gwneud gwaith brys i atal yr argae rhag cwympo, ddiwedd 1924.
"Wrth ddylunio ac adeiladu Llyn Coedty, mae'n ymddangos na ddysgodd ymgynghorwyr Coedty unrhyw wersi o drychineb wnaeth bron â digwydd yng Nghowlyd ac ni chyfarwyddwyd unrhyw waith amddiffynnol ychwanegol ar gyfer argae Coedty," meddai.

Mae cronfa Eigiau ar y chwith ar y map a chronfa Coedty ar y dde - ac Afon Porth-llwyd yn cysylltu'r ddau
Roedd diffygion sylfaenol yng ngwaith argaeau Dolgarrog.
Roedd argae Llyn Eigiau wedi ei adeiladu gyda choncrit o ansawdd gwael iawn ac roedd y sylfeini yn rhy fas. Doedd yna ddim sianel chwaith i ddargyfeirio unrhyw orlif o Lyn Eigiau - felly roedd y cyfan yn mynd yn syth i Lyn Coedty, yr argae llawer llai oedd islaw.
Ar 2 Tachwedd, 1925, roedd lefel y ddwy gronfa yn uchel iawn ar ôl i 26 modfedd o law ddisgyn mewn pum diwrnod.
Oherwydd diffygion yn y sylfeini, roedd dŵr eisoes wedi bod yn dianc o dan argae Llyn Eigiau ac wedi troi'n sianel lydan oherwydd pwysau'r holl law.
Cynyddu wnaeth y llif - a mynd yn syth i Lyn Coedty. Fe wnaeth y gronfa orlifo gan achosi i'r argae gwympo'n sydyn a gyrru ton enfawr o ddŵr - mor uchel â thŷ deulawr - i lawr y dyffryn a thuag at gymuned Dolgarrog.
"Byddai'r all-lif uchel o dan argae Llyn Eigiau, ar ei ben ei hun, wedi achosi difrod cymharol gyfyngedig yn Nolgarrog," meddai David.
"Roedd marwolaeth y 16 o bobl a laddwyd ar 2 Tachwedd 1925 yn bennaf oherwydd cwymp sydyn argae Llyn Coedty."

Pobl yn ceisio croesi'r dŵr rhwng y cerrig mawr yn Nolgarrog
Tai ym Machno Terrace gafodd eu taro gyntaf, gan ladd naw person oedd yn byw yno, yna'r Eglwys, Tŷ'r Eglwys, y siop fferins a siop y cigydd.
Pan gyrhaeddodd y dŵr y gweithfeydd alwminiwm ffrwydrodd y ffwrnesi o achos grym y llif ond llwyddwyd i achub yr holl weithwyr - tua 200 ohonynt.
Un o'r rhai oedd yn gweithio yn y pwerdy'r noson honno oedd taid Ruth Hancock, Jack Hancock, oedd wedi symud i'r ardal oherwydd y gwaith.

Jack Hancock (chwith) gyda'i gyd-weithiwr yn y pwerdy yn 1921
Gyda'i wraig feichiog gartref, roedd y peiriannydd 29 oed yn dod tuag at ddiwedd ei shifft pan ddaeth y don.
Wrth i'r dŵr lifo i mewn at y tyrbinau a'r pwerdy, fe wnaeth o a'i gyd-weithiwr aros yno er gwaetha'r peryg er mwyn troi'r tyrbinau i ffwrdd cyn ffoi am eu bywydau drwy bum troedfedd o ddŵr.
Fe gafodd flwch sigarét gan ei gyflogwr am ei ddewrder.

Engrafiad ar y blwch sigarét gafodd Henry Hancock - oedd yn cael ei adnabod fel Jack - gan ei gyflogwr am ei ddewrder
Dywedodd ei wyres Ruth, gafodd ei magu am gyfnod ganddo ac sydd bellach yn byw yn y Peak District, nad oedd o byth yn siarad am y digwyddiad.
"O'i 'nabod o, fel oeddwn i pan o'n i'n blentyn, dwi ddim yn synnu ei fod wedi gwneud beth wnaeth o - roedd o bob tro'n berson fyddai'n cadw ei ben mewn argyfwng ac yn gwneud beth oedd o'n teimlo oedd angen ei wneud," meddai.

Wrth i 350 biliwn litr o ddŵr fynd drwy'r pentref fe gollodd o leiaf 50 o drigolion eu cartrefi a'u holl eiddo, ac roedd maint y golled i rai teuluoedd yn aruthrol.
Fe gafodd Helen Clark ei magu ym Mochdre, ger Bae Colwyn, a phan oedd hi'n iau roedd hi'n aml yn mynd i weld gweddill y teulu yn Nolgarrog lle magwyd ei mam, Emily Gwenfron Evans, ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf.
Roedd Emily yn wyth oed pan ddaeth y llif yn 1925 ac fel cymaint o'r gymuned, fe wnaeth hi oroesi oherwydd ei bod hi'n ddigon hen i fynd i weld y ffilm gyda'i thad a'i brodyr.
Ond roedd gweddill ei theulu gartref ym Machno Terrace.
Lladdwyd tri o'i chwiorydd, Ceridwen, oedd yn bump oed, Bessi, tair oed, a Gwen, pedwar mis oed, ynghyd â'u mam Susannah Evans. Byddai pedair wythnos yn mynd heibio tan iddyn nhw ddod o hyd i gyrff Susannah a'i babi Gwen, a hynny mewn cors ar gyrion y pentref.

Doedd dim cyfarpar arbenigol i helpu'r gwaith o achub a chlirio'r difrod yn Nolgarrog yn 1925
Dywedodd Helen, sydd bellach yn byw yn Ninbych-y-pysgod, na chlywodd ei mam yn siarad lawer am y cyfnod.
"Dwi'n meddwl ei hagwedd hi oedd, mae o wedi digwydd a 'dan ni'n gorfod cario 'mlaen - ac i fod yn deg, fel yna oedd pethau yn y cyfnod," meddai.
"Roedd eitha' lot o blant fel hi wedi colli eu mamau, a doedd dim cwnsela yn yr ysgol na help i'r plant fel byddai'r dyddiau yma, felly doedd o jest ddim yn rhywbeth oedd pobl yn drafod.
"Dwi'n cofio siarad efo fy ewythr, ei brawd hŷn hi, yn ei hangladd hi a fo'n dweud bod y noson honno wedi aros gyda nhw drwy gydol eu bywydau, ond y byddai o'n ddiolchgar am byth eu bod nhw wedi mynd i'r sinema'r noson honno."

Emily Gwenfron Evans gyda'i gŵr a'u genethod Helen Clarke (ar y chwith) a Linda Fox (ar y dde) yn 1987
Fe fydd Helen yn teithio i Ddolgarrog, lle mae rhai o'r cerrig anferth gafodd eu cario gan y llif yn dal i'w gweld, ar gyfer gwasanaeth coffa sy'n cael ei gynnal ar 2 Tachwedd 2025, union ganrif wedi'r trychineb.
Meddai: "Dwi'n meddwl bod o'n bwysig cofio bod hyn wedi digwydd yn y gymuned fechan yma - does 'na ddim llawer o bobl wedi clywed amdano.
"Pan dwi'n dweud bod fy nain wedi marw yn nhrychineb argae Dolgarrog, hyd yn oed y bobl sy'n gwybod lle mae Dolgarrog, dydyn nhw ddim yn gwybod beth ddigwyddodd felly mae'n bwysig codi ymwybyddiaeth.
"Ar lefel bersonol mae'n rhan o gydnabod y dinistr a'r effaith ar bobl, a rhywbeth ddigwyddodd yn fy nheulu i."

Fe wnaeth Susannah Evans - nain Helen Clarke - golli ei bywyd yn y drychineb
Er gwaetha'r ffaeleddau gydag adeiladu a chynllunio'r argae a'r diffyg goruchwylio, chafodd neb erioed eu canfod yn gyfrifol na'u cosbi am yr hyn ddigwyddodd.
Fe gafodd cwest i'r digwyddiad ei gynnal ym mis Rhagfyr 1925 pan ddaeth y Crwner J Pentir Williams, i'r casgliad "there had been gross, even criminal neglect, but at this distance of time they could not say by whom".
Bum mlynedd yn ddiweddarach, fe gafodd deddf gwlad ei basio i oruchwylio adeiladu ac arolygu argaeau i wneud yn siŵr bod y cyhoedd yn ddiogel ac na fyddai trychineb o'r fath byth yn digwydd eto.

Mae Margaret Roberts, sydd hefyd yn mynd i'r gwasanaeth coffa gyda'i chwaer Heather, yn meddwl ei bod yn bwysig cofio'r effaith ar unigolion a'r dioddefaint fyddai wedi gallu cael ei osgoi.
Er bod eu tad, John, yn ffodus i beidio colli ei fywyd, fe gafodd ei effeithio drwy gydol ei oes.
Gan mai dim ond 11 oed oedd o adeg y trychineb roedd yn rhy ifanc i weithio. Gyda'i fam wedi marw a'i dad a'i frawd hŷn yn gorfod gweithio, roedd yn rhaid iddo symud i ffwrdd o'r ardal.
Aeth o gefn gwlad Dyffryn Conwy i fyw at berthnasau yn Llundain - rhywle roedd o'n ei gasáu.

John MacKenzie, ail o'r chwith yn y rhes ganol yn ysgol Buckingham Gate Central School, Llundain, yn 1925/26
Ar ôl blwyddyn aeth i fyw at berthynas arall yn Yr Alban, cyn dychwelyd i ardal Dolgarrog pan oedd o'n ddigon hen i weithio.
Bu'n byw a gweithio yn Nolgarrog, cyn priodi a symud i Lanrwst a Chyffordd Llandudno.
Dywed ei blant nad oedd o'n siarad llawer am y trychineb ond bod yr effaith arno yn dod i'r wyneb o dro i dro.

John Evans gyda'i ŵyr a'i ferch Margaret yn 1994
Cofiodd Margaret: "Fy hoff liw oedd piws a ro'n i'n gwisgo lot o biws pan o'n i yn fy arddegau - ac roedd o'n ei gasáu. Roedd o'n dweud ei fod o'n ei atgoffa o'r piws roedd o'n ei gofio o'r angladdau."
"Dwi ddim yn meddwl ei fod o'n hoffi mynd ar wyliau achos doedd o ddim eisiau gadael y tŷ," meddai Heather. "Roedd y cyfan wedi ei adael yn teimlo'n fregus. Dwi'n meddwl roedd o'n byw mewn ofn o drychineb."
Wrth i gymuned ddod at ei gilydd i gofio, mae'r digwyddiad yn atsain ganrif yn ddiweddarach.
Meddai Margaret: "Dwi'n meddwl bod hyn yn helpu rhywun i gydymdeimlo ac uniaethu efo trychinebau heddiw - mae'n gwneud i rywun feddwl beth mae'r bobl ar y teledu yn mynd drwyddo, a sut wnaiff o effeithio eu bywydau.
"Mae o yn poeni fi bod hyn wedi digwydd i fy nhad a'r holl bobl eraill - a chawson ni byth y cyfle i gyfarfod ein nain. A dwi yn flin os oedd 'na esgeulustod ac mai dyna'r rheswm dros y trychineb."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd13 Medi 2019

- Cyhoeddwyd1 Hydref

- Cyhoeddwyd2 Hydref
