Dyn 21 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad un cerbyd

Digwyddodd y gwrthdrawiad ger cyffordd dau ar yr A48
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 21 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr M48 ddydd Sadwrn.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad ger cyffordd dau tua 2:30.
Un car yn unig oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad - sef Audi S1 Quattro - a bu farw'r gyrrwr, oedd o Ddyfnaint, yn y fan a'r lle.
Fe wnaeth yr heddlu, y gwasanaeth ambiwlans a gwasanaeth Tân ac Achub de Cymru fynychu safle'r gwrthdrawiad.
Er nad yw'r corff wedi ei adnabod yn ffurfiol eto, mae teulu'r dyn wedi cael gwybod ac yn derbyn cymorth gan arbenigwyr.
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.