Llun mochyn cwta yn ennill gwobr ffotograffiaeth
- Cyhoeddwyd

Cymerwyd y llun a ennillodd y wobr yn Sioe Frenhinol Cymru
Mae llun o ferch 13 mlwydd oed yn dal mochyn cwta wedi ennill gwobr ffotograffiaeth Taylor Wessing eleni.
Derbyniodd Jooney Woodward wobr o £12,000 am ei phortread o Harriet Power a'i mochyn cwta Gentleman Jack.
Tynnwyd y llun yn adran feirniadu moch cwta yn Sioe Frenhinol Cymru.
Cyflwynwyd y wobr i Jooney Woodward, 32, yn yr Oriel Bortreadau Genedlaethol yn Llundain nos Fawrth.
Derbyniodd y pedwar ffotograffydd arall ar y rhestr fer wobrau o £500 i £2500.
Defnyddiodd Ms Woodward olau naturiol i gymryd ei lluniau o Harriet Power, stiward yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd.
Yn ôl yr artist, mae ei gwaith "yn dathlu pobl a lleoedd fel y maent yn ymddangos bob dydd."
Mae Ms Woodward eisoes wedi arddangos ei gwaith yn oriel Moma Cymru ym Machynlleth.