Asiantaeth yn caniatáu trwydded i bwerdy Penfro
- Cyhoeddwyd
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wedi gosod safonau llym wrth ganiatáu trwydded amgylcheddol i bwerdy Penfro.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi stop ar asesiad yr asiantaeth oherwydd pryderon am y niwed posibl pwerdy 2000 megawatt RWE nPower.
Yn ôl Cyfeillion y Ddaear Cymru bydd yn "gwastraffu gwres" ac yn "niweidio bywyd gwyllt yn y môr".
Daw'r penderfyniad ddydd Iau ar ôl i wyddonwyr yr asiantaeth gynnal ymchwiliadau sylweddol i effaith y gwaith ar Ardal Cadwraeth Forol Arbennig Sir Benfro.
Fe fydd yr orsaf yn cyflenwi ynni i hyd at 3 miliwn o gartrefi.
Mae gwaith codi'r orsaf wedi bod ers dwy flynedd ac mae disgwyl iddi gael ei chwblhau yn 2012.
Cafodd caniatâd cynllunio ei roi gan Lywodraeth y DU yn 2009.
Daeth yr ymchwil i'r casgliad y byddai peth newidiadau i ardaloedd bach o amgylch y pwerdy, ond fe fyddai'r ardal gyfan yn cael ei gwarchod.
Safonau
Bydd rhaid i'r pwerdy gydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth amgylcheddol berthnasol.
Roedd yr asesiad wedi edrych ar effaith y gwaith ar yr ardal yn ogystal â'r effaith ar ddiwydiant lleol eraill.
Mae'r asiantaeth wedi mynnu'r safonau llymach o ganlyniad i ymgynghoriad blaenorol.
Mae'r rhain yn cynnwys mesurau i warchod bywyd gwyllt a gwarchod y cymunedau lleol o ran sŵn.
Dywedodd Steve Brown, Rheolwr Ardal i Asiantaeth Amgylchedd Cymru, bod y penderfyniad yn dilyn un o'r asesiadau mwya' manwl i'w gynnal yng Nghymru.
"Mae'r ardal yma un o'r llefydd pwysica' a mwy sensitif yn amgylcheddol yng Nghymru ac mae'n rhaid ei warchod o dan y gyfraith.
"Rydym angen cydnabod y mewnbwn gan bobl leol a mudiadau sydd wedi cymryd rhan yn y broses ymgynghoriad hir a gawson ni.
"Rydym wedi ystyried barn y gymuned leol a'r mudiadau ac wedi ymateb i'w sylwadau.
"Wrth gyflwyno'r drwydded, rydym yn credu ein bod ni wedi gwneud yn siŵr bod yr amgylchedd lleol yn cael ei gwarchod ac ar yr un pryd ein bod yn diogelu budd economaidd yr ardal a diogelwch yr ynni."
Roedd 'na 21,000 o asesiadau gwahanol wedi eu derbyn ar effaith y gwaith.
Mae Cyfeillion y Ddaear wedi dadlau y gallai gael ei defnyddio i ddarparu ynni i ddwy derfynell LNG gerllaw.
"Bydd yr orsaf yn cael effaith ddinistriol ar un o safleoedd bywyd gwyllt pwysicaf Ewrop a bydd yn defnyddio technoleg eilradd ac yn taflu'r hyn sy'n cyfateb i 40% o alw trydan Cymru i ffwrdd." meddai cyfarwyddwr y mudiad, Gareth Clubb.