Ateb y Galw: Carwyn Blayney

- Cyhoeddwyd
Mae'r digrifwr Carwyn Blayney, enillydd gwobr Welsh Unsigned Stand Up of the Year 2024, newydd berfformio yng Ngŵyl Gomedi Aberystwyth.
Mae o wedi bod ar daith yn cefnogi Elis James ac yn ddiweddar bu'n cyd-gyflwyno rhaglen Ar Led ar S4C. Ar 15 Hydref fe fydd yn recordio rhaglen banel gomedi What Just Happened? i BBC Radio Wales yng nghanolfan Chapter, Caerdydd.
Ond cyn hynny, mae o'n ateb cwestiynau Cymru Fyw.
Beth yw eich atgof cyntaf?
Rwy'n cofio tipyn o bethau bach randym o fod yn fabi. Rwy'n cofio defnyddio bocs i gyrraedd y tŷ bach, rwy'n cofio cropian i fyny'r grisiau a llefain pan o'n i'n cyrraedd y top...
Fi hefyd yn cofio bod yn fabi yn eistedd ar gefn ride-on-lawnmower yn Ffrainc a meddwl "J'aime beaucoup la France. Peut-être je suis un bébé Français?"
Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?
Gardd fy rhieni. Mae fy rhieni yn arddwyr arbennig, ac mae'r lle yn edrych mor bert. Mae 'na ardal fwyta lle mae gen i fy ffwrn pizza, a fy hoff weithgaredd yn y byd yw cael pryd o fwyd mas tu fas.
Unrhyw bryd fi nôl yng Nghymru fe ga'i rhywbeth – brecwast, coffi, pizza home-made – mas tu fas. Hyd yn oed yn y glaw. Y peth gorau am gael coffi yn y glaw yw bod eich mwg yn ail-lenwi ei hun yn awtomatig.

Noson pizza gyda Carwyn a Simon
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.
Hay-fever gwael eleni.
Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?
Ar noson olaf gŵyl gomedi Machynlleth eleni, fe wnes i a fy ffrindiau cwpla penwythnos arbennig iawn trwy ddringo fyny'r bryn i'r arwydd Machynlleth a chael ychydig o wisgi wrth i'r haul fachlud.

Carwyn gyda Gwydion, Steffan a Georgia
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?
Mae fy ffrind i Cennydd yn cofio rhyw adeg ym mlwyddyn 2 pan wnes i wthio fe mewn i wal ar y diwrnod pan roedden ni'n cael ffotos ysgol. Felly yn y ffotos roedd ganddo gleisiau dros ei wyneb.
Fi ddim yn cofio gwneud hyn, ond mae e (a'i fam) yn benderfynol bod e wedi digwydd, a dydyn nhw ddim yn gadael i fi anghofio am y peth.
Felly Cennydd (a Meinir) – fi wir yn sori. Mae bron 30 mlynedd wedi mynd heibio, oes unrhyw siawns gallwch chi faddau i mi am y peth?!
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?
Pan roeddwn i'n gweithio i Gwmni Theatr Arad Goch, roedd 'na un prynhawn lle ges i ddim gwaith wedi ei wneud o gwbl, achos y bore hwnnw fe wnes i alw fy nghyd-weithiwr yn "mam". Fel plentyn ysgol gynradd yn galw "miss" yn "Mam"... ond y gwahaniaeth mwya' fan hyn yw... roeddwn i'n 26 ar y pryd.

Carwyn gyda'i gyn-gydweithwyr yng Nghwmni Theatr Arad Goch, Nia ac Ann
Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
Rwy'n llefain yn aml, ar bob math o bethau. Rwy'n credu bod e'n beth da gallu cael gwd llefad.
Y noson cyn i fi sgwennu hwn fe wnes i lefain wrth wylio diwedd y ffilm Planes, Trains and Automobiles. Felly i ateb eich cwestiwn - tua 10 awr yn ôl.
Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?
Weithiau, os nad ydw i'n gallu meddwl am ateb da i rywbeth, 'na'i jyst gofyn cwestiwn nôl iddyn nhw. Ydy hynny yn cyfri fel arfer drwg?

Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
Hoff ffilm yw The Jungle Book. Y gwreiddiol o'r 60au (wrth gwrs. 'Sneb wir yn hoffi y remakes newydd ma', oes e?). Mae pob un cân yn bop llwyr, mae'n ddoniol, a dim ond awr a chwarter – yr hyd berffaith i ffilm.
Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Wel, pan roeddwn i'n fy 20au, roeddwn i arfer byw yn America yn cyd-redeg cwmni meth gyda fy cyn-athro cemeg, Mr White. Fe ddechreuon ni mewn RV, cyn tyfu i weithio o dan olchdy diwydiannol.
Roeddwn ni eitha' llwyddiannus, credu bod tua $70 miliwn dal yn cuddio yn New Mexico rhywle.
Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?
Bob hyn a hyn fi'n cael urge i neud pryd o fwyd cyfan allan o siocled. Fel... M&Ms yn lle pys, Double Decker i fod fel darn o lasagne, Fererro Rocher yn lle tatws a chwpwl o Flakes i edrych fel moron.
Credu bydde hwnna yn ffordd ddiddorol o wario fy 24 awr olaf.
Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?
Mel Brooks. Eicon o'r byd comedi.
Ro'n i'n gwylio ei ffilmiau pan ro'n i'n tyfu lan, ac erbyn hyn mae gen i fwy a fwy o barch at ei waith – yn profi bod modd i gomedi da gael engine pwysig o dan yr hiwmor.

Mel Brooks yn 2017
Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?
Mae fy nhad yn arlunydd arbennig o dda, ac mae un o'i luniau – golygfa hydrefol o heol ym Mhontsian – fel cefndir ar fy laptop i. Lle bynnag fi'n gweithio, boed mewn caffi yn Llundain, trên ar y ffordd i gig, neu set rhyw gynhyrchiad, rwy'n gweld pwt fach o adref cyn dechrau fy ngwaith.
Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Bydden i wrth fy modd yn cael un diwrnod o fod mewn corff unrhyw un sydd ddim yn colour-blind. Jyst i weld beth mae'n teimlo fel i allu chware gêm o snwcer heb godi embaras, neu brynu dillad heb orfod gofyn i rywun: "Sori... Pa liw yw hwn?"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd13 Ionawr
- Cyhoeddwyd28 Awst