Pêl-droed yn 'cadw atgofion yn fyw' i fasgot â dementia

Joe Ledley a Chris Griffiths yn sefyll ar gae pêl-droed Clwb Dinas Caerdydd.Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Treuliodd Chris ddiwrnod gyda'r cyn-chwaraewr rhyngwladol Joe Ledley cyn camu i'r cae ddydd Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae pêl-droed yn fodd o "gadw atgofion yn fyw" i deulu un dyn sydd â dementia a fydd yn camu i gae Wembley gyda thîm Cymru nos Iau.

Bydd dimau Cymru a Lloegr fasgotiaid anarferol ar gyfer y gêm gyfeillgar, wrth ddangos eu cefnogaeth i bobl sy'n byw gyda dementia.

Fel rhan o'r ymgyrch, mae 22 o gefnogwyr sy'n byw gyda'r cyflwr wedi'u henwebu i gerdded i'r cae ochr yn ochr gyda'r chwaraewyr.

Un ohonynt fydd Chris Griffiths o Gaerdydd, a gafodd ddiagnosis dementia ym mis Gorffennaf 2023.

Er gwaethaf ei ddiagnosis mae pêl-droed wedi bod yn rhan fawr o'i fywyd, a dywedodd ei fab Lee ei fod yn "falch iawn" bod ei dad yn cael y cyfle.

Chris Griffiths a Lee Griffths yn gwenu tuag at y camera. Mae Chris yn gwisgo siaced ddu a chrys du gyda bathodyn cymdeithas Alzheimer's ar ei goler. Mae Lee yn gwisgo siwmper coch tywyll.
Disgrifiad o’r llun,

Mae pêl-droed yn helpu i "gadw atgofion yn fyw" meddai Lee

Yn siarad gyda'r BBC cyn y gêm, dywedodd Chris bod pêl-droed wedi bod "yng ngwaed" ei deulu.

Pan oedd yn ifanc, chwaraeodd i'w dîm lleol cyn iddo gymhwyso fel dyfarnwr, ac er gwaethaf ei ddiagnosis, mae'n gefnogwr brwd o glwb Caerdydd.

Mae hefyd yn weithgar gydag ymddiriedolaeth cefnogwyr y clwb, sy'n cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia.

Dywedodd Chris y byddai ei dad ei hun yn "falch iawn" o'i weld yn cerdded i gae Wembley, a hynny ar ôl cael dylanwad mawr arno pan oedd yn ifanc yn gwylio clwb Y Barri.

'Noson emosiynol'

Pan gafodd y diagnosis, dywedodd bod y profiad yn "rhyfedd" i ddechrau, ond aeth ymlaen i ddweud bod y cymorth gan ei deulu wedi bod yn "anhygoel".

"Mae pawb o gwmpas fi wedi bod yn wych, pob un ohonynt – hyd yn oed fy wyrion.

"Unwaith nes i ddechrau cwrdd â mwy o bobl, dechreuodd pethau i deimlo'n well.

"Rwy'n gallu mynd i lefydd gwahanol nawr, sy'n deimlad braf," ychwanegodd.

Mae'r fenter wedi'i threfnu gan y Gymdeithas Alzheimer a'r Gymdeithas Bêl-droed [FA] ac wedi'i chefnogi gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru [CBDC].

Yn ystod ail hanner y gêm, bydd chwaraewyr Cymru yn dychwelyd i'r cae heb eu henwau ar gefn eu crysau.

Gweithred symbolaidd fydd hon i dynnu sylw at golli cof - un o symptomau mwyaf cyffredin dementia.

Chris Griffiths a'i fab Lee yn sefyll ar gornel cae rygbi Caerdydd. Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Chris a'i fab yn aml yn mynd i wylio gemau pêl-droed a rygbi gyda'i gilydd

Fe ddaeth diagnosis Chris fel "sioc" i'w deulu. Dywedodd ei fab Lee ei fod yn "ddryslyd" iawn ar y pryd.

"Ry'n ni gyd yn dysgu sut i ddelio gyda fe achos doedd neb wir yn gwybod, yn enwedig Dad.

"Ond ma' pawb yma i'w gefnogi."

Yn ôl Lee, mae bod yn rhan o deulu pêl-droed yn "cadw atgofion yn fyw".

"Mae cymaint o fanteision o fod yn rhan o unrhyw chwaraeon, boed yn bêl-droed neu rygbi.

"Rwy'n meddwl ei fod wedi gwneud gwahaniaeth mawr [i Chris] mae wedi bod yn wych."

Ychwanegodd bod codi ymwybyddiaeth yn sicrhau bod y rheiny sy'n byw gyda'r cyflwr yn gallu "byw bywyd da" gyda'r "cymorth sydd ei angen".

Fe fydd y diwrnod yn un "emosiynol" i Lee a'i deulu, dywedodd.

"Rwy wir yn edrych ymlaen i weld Dad ar y cae er fy mod i bach yn nerfus hefyd.

"Rwy'n falch iawn ei fod yn mynd i gael y cyfle yma."

Beth yw dementia?

Mae clefyd Alzheimer yn effeithio ar tua dau o bob tri person, dolen allanol sy'n byw gyda dementia yn y DU.

Dyma un o'r mathau mwyaf cyffredin o dementia, gyda symptomau yn cynnwys:

  • colli cof – problemau wrth gofio pethau a ddigwyddodd yn ddiweddar;

  • dryswch ac angen cymorth gyda thasgau dyddiol;

  • problemau gyda iaith a dealltwriaeth;

  • newid mewn ymddygiad.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y GIG, dolen allanol.