Bron i 4,000 yn dwyn achos 'mwyaf o'i fath' dros lygredd afon

Gino Parisi a'i gi ar lan afon WysgFfynhonnell y llun, Gino Parisi
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gino Parisi yn arfer mwynhau treulio amser yn Afon Wysg ger ei gartref yn Rhaglan

  • Cyhoeddwyd

Mae cais am achos cyfreithiol ynglŷn â llygredd yn afonydd Gwy, Llugwy ac Wysg - sydd wedi'i ddisgrifio fel y mwyaf o'i fath erioed yn y Deyrnas Unedig - wedi'i gyflwyno i'r Uchel Lys.

Mae bron i 4,000 o bobl bellach yn dwyn achos ar y cyd yn erbyn cynhyrchwyr dofednod mawr a chwmni Dŵr Cymru.

Maen nhw'n dadlau bod cyflwr yr afonydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi cael effaith ddifrifol am fusnesau lleol, gwerth eiddo a mwynhad pobl o'r ardal, gan ofyn am iawndal.

Mae cwmniau Avara Foods Limited, Freemans of Newent Limited a Dŵr Cymru yn gwrthod yr honiadau.

Mae'r sawl sydd wedi ymuno â'r achos yn byw neu weithio yn ymyl yr afonydd, neu yn eu defnyddio nhw'n rheolaidd ar gyfer gweithgareddau fel nofio a chanŵio.

Maen nhw'n gofyn i'r llys orchymyn bod y cwmnïau yn ymrwymo i lanhau'r afonydd.

Cyfuniad o dail ieir a charthffosiaeth sy'n cael y bai am niweidio ansawdd dŵr, arwain at ordyfiant algâu a lladd bywyd gwyllt.

Mae Afon Gwy yn benodol wedi bod yn symbol o bryderon ehangach am gyflwr afonydd y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae cymaint â 23 miliwn o ieir, chwarter cynhyrchiant y DU o ddofednod, yn cael eu magu yn nalgylch yr afon.

map o Afon Gwy
Disgrifiad o’r llun,

Mae Afon Gwy yn dechrau yn Ffynnon Gwy, Sir Faesyfed, ac yn gorffen ym Môr Hafren

Mae'r Gwy yn llifo am 155 o filltiroedd o Bumlumon yn y canolbarth, ar hyd y ffin â Lloegr i aber Afon Hafren.

Mae Afon Llugwy (Lugg) yn un o'r prif isafonydd sy'n bwydo'r Gwy, gan lifo'n bennaf drwy Sir Henffordd.

Mae Afon Wysg yn llifo drwy Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ogystal â thirwedd ddiwydiannol Blaenafon, sy'n safle treftadaeth y byd cyn cyrraedd y môr yng Nghasnewydd.

Mae'r tair afon wedi'u gwarchod am eu pwysigrwydd i fywyd gwyllt prin, gan gynnwys dyfrgwn, cregyn gleision cynhenid a'r eog.

Justine Evans yn ei chanw ar Afon GwyFfynhonnell y llun, Justine Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Justine Evans yn un o'r cannoedd o bobl sydd wedi ymuno â'r achos

Ymysg y sawl sydd wedi ymuno â'r achos mae Justine Evans, sy'n creu ffilmiau am fywyd gwyllt ac yn nodi iddi sylwi ar "ddirywiad amlwg" yn nghyflwr Afon Gwy yn ddiweddar.

Roedd yr afon, a fu unwaith yn glir, yn dywyll a brwnt "i'r fath raddau fel nad oeddwn i'n teimlo'm gyfforddus yn mynd i mewn".

"Mae fy mherthynas i â'r afon wedi newid yn llwyr. Mae'n ofnadwy meddwl am beth sydd wedi digwydd i'r bywyd gwyllt hefyd," ychwanegodd.

Roedd Gino Parisi, o Rhaglan yn Sir Fynwy, yn teimlo'n debyg am ei afon leol yntau - Afon Wysg.

"Wedi tyfu fynu yn yr ardal yn yr 80au, dwi'n gwybod pa mor bryderth gall yr afon fod," meddai.

Ond nawr roedd y dŵr yn "aneglur a chymylog", meddai, "nid yn unig fyswn i ddim yn teimlo'n gyfforddus yn mynd i nofio, ond byddai gen i bryderon am fy iechyd".

Ymgyrchwyr yn llunio siap SOS ar lan afon GwyFfynhonnell y llun, Cyfeillion Afon Gwy
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr wedi bod yn codi pryderon am gyflwr Afon Gwy ers blynyddoedd

Mae'r sawl sy'n dwyn yr achos yn honni bod llygredd yn cael ei achosi gan ddŵr yn llifo oddi ar dir fferm sy'n cynnwys lefelau uchel o ffosfforws, nitrogen a bacteria sy'n deillio o wasgaru degau ar filoedd o dunelli o dail ieir a gwrtaith sydd wedi'i wneud o garthffosiaeth ddynol.

Maen nhw'n beio dŵr gwastraff, sy'n cynnwys carthffosiaeth, yn cael ei ollwng i afonydd o rwydwaith Dŵr Cymru hefyd.

Mae'r cwmnïau yn cael eu cyhuddo o fod yn esgeulus, o achosi niwsans cyhoeddus a phreifat, a hyd yn oed tresmasu, gan fod gwely'r afon wedi'i effeithio ar dir un o'r rhai sy'n dwyn yr achos.

Mae un rhan benodol o'r achos yn ymwneud â phobl sydd wedi'u heffeithio gan foratoriwm ar adeiladu yn ardal Afon Llugwy, wrth i Gyngor Sir Henffordd geisio gwarchod yr afon rhag cael ei lygru ymhellach.

Profi dwr ger y Gelli GandryllFfynhonnell y llun, Darren Staples
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwirfoddolwyr wedi bod wrthi yn monitro ansawdd dŵr mewn ymdrech i ddeall mwy am achosion y llygredd

Dywedodd Oliver Holland o gwmni cyfreithiol Leigh Day bod yr achos "yn benllanw ymdrech ryfeddol gan aelodau o'r gymuned a grwpiau ymgyrchu i ymchwilio, monitro a chefnogi eu hafonydd".

"Dyma'r achos gyfreithiol fwyaf erioed yn ymwneud â llygredd amgylcheddol yn y DU. Mewn cyd-destun lle mae llywodraethau a rheoleiddwyr wedi methu ac atal dirywiad ein hafonydd, rhaid troi at y llys am gyfiawnder," meddai.

Avara Foods Limited yw un o gynhyrchwyr dofednod mwya'r DU.

Mae eu his-gwmni, Freemans of Newent, sydd wedi'i lleoli yn Henffordd, wedi'i henwi fel diffynnydd yn yr achos hefyd.

Avara FoodsFfynhonnell y llun, Getty Images

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Avara Foods wrth y BBC eu bod yn rhannu pryderon am gyflwr Afon Gwy.

"Ond ry'n ni'n credu bod yr achos cyfreithiol hwn wedi'i selio ar gamddealldwriaeth, am nad oes unrhyw dail yn cael ei storio na'i wasgaru ar ffermydd dofednod sy'n cyflenwi Avara Foods."

"Ble mae tail dofednod yn cael ei ddefnyddio fel gwrtaith, mae ar gyfer cynnyrch arall mewn sectorau eraill o'r diwydiant amaeth," meddai'r cwmni, gan ychwanegu mai cyfrifoldeb ffermwyr unigol oedd sut mae maethion yn cael eu defnyddio yn eu busnesau nhw.

Dywedodd y cwmni ei fod yn cyflogi oddeutu 1,500 o bobl yn nalgylch y Gwy, a bod ei holl ddofednod yn cael eu cynhyrchu "i safonau sydd ymysg yr uchaf yn y byd".

"Ddylai'r ffocws fod, yn hytrach, ar gynnig atebion i wella iechyd afonydd, gan ddelio â holl ffynhonellau llygredd ac effeithiau newid hinsawdd."

'Amddiffyn yr achos yn gadarn'

Dywedodd Dŵr Cymru bod y cwmni wedi buddsoddi'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan sicrhau "gwelliannau go iawn i ansawdd dŵr".

Roedd hyn yn cynnwys gwario £70m yn ystod y pum mlynedd diwethaf ar wella safloedd ar hyd Afon Gwy, gwaith a gafodd ei gyflawni "ynghynt na'r targed a osodwyd gan rheoleiddwyr", a £33m ar gyfer Afon Wysg.

"Yn anffodus, mae llygredd dŵr a achosir gan sectorau eraill yn ystod y cyfnod hwn wedi cynyddu yn sylweddol, gan leihau effaith y gwelliannau ansawdd dŵr rydym ni wedi'u cyflawni."

Dywedodd llefarydd y byddai'r cwmni yn "amddiffyn yr achos yn gadarn".

Roedd y ffaith eu bod yn gwmni nid-er-elw yn golygu y byddai unrhyw daliadau i'r sawl sy'n hawlio iawndal yn "golygu lleihau faint y gallwn ni fuddsoddi mewn cwblhau gwelliannau pellach er lles ein cwsmeiriaid a'r amgylchedd".

Fe gollodd ymgyrchwyr amgylcheddol her gyfreithiol yn erbyn Llywodraeth y DU ynglŷn â llygredd Afon Gwy yn 2024.

Ers hynny mae gweinidogion yn San Steffan a Bae Caerdydd wedi sefydlu cronfa £1m i ymchwilio i ffynonellau llygredd yn yr afon.

Pynciau cysylltiedig