Y merched o Aberystwyth fydd ar y gêm gyfrifiadurol 'Football Manager'

Bydd Alaw Davies, Amy Jenkins a Sian Evans ymhlith y chwaraewyr fydd ar gêm newydd Football Manager 2026, ochr yn ochr â sêr pêl-droed y menywod a'r dynion
- Cyhoeddwyd
"O'n i'n arfer signio brawd fi ar y gêm yn aml," meddai Amy Jenkins, capten tîm merched Aberystwyth. "Nawr bydda i arno fe hefyd, bydd e'n gallu signio fi!"
I Amy a'i chyd-chwaraewyr amatur ym mhrif adran Cymru, mae sêr mawr y byd pêl-droed yn gallu teimlo fel byd hollol wahanol ar adegau.
Ond eleni am y tro cyntaf, fe fyddan nhw'n rhannu llwyfan ar un o gemau cyfrifiadurol chwaraeon mwyaf eiconig y byd – cyfres Football Manager.
"O'n i mewn bach o sioc pan nes i glywed, i fod yn onest," meddai Amy, 29. "Mae'n grêt bod tref fach yng Nghymru fel ni yn cael cyfle i fod ar gêm mor fawr."
'Cyffrous iawn'
Mae cyfres Football Manager wedi ei rhyddhau'n flynyddol ers dros 20 mlynedd, yn dilyn gêm Championship Manager gynt, a bellach yn gwerthu miliynau o gopïau bob blwyddyn ar draws y byd.
Yn wahanol i gemau poblogaidd tebyg fel FIFA (neu EA Sports FC bellach), rheoli pob agwedd o glwb pêl-droed yw ffocws Football Manager, yn hytrach na chwarae'n uniongyrchol yn erbyn timau eraill.
"Dwi wedi chwarae'r gêm yma ers o'n i'n ifanc, mae'n rhywbeth teuluol i fi hefyd," meddai Amy Jenkins.
"Felly fi'n gyffrous iawn am y cyfle i fod ar y gêm, a chwarae fel fy hun.
"Bydd gennych chi chwaraewyr fel Alessia Russo a Lucy Bronze, a byddwn ni mewn yna gyda nhw."

Mae'r gêm yn gadael i'r defnyddiwr reoli bron pob agwedd o redeg clwb pêl-droed - ond fel y byddai rheolwr go iawn, mae'n rhaid gwylio'r gemau'n digwydd o'r ystlys!
Un o rinweddau'r gêm yw'r bas data cynhwysfawr, oedd yn cynnwys 127 o gynghreiriau dynion ar draws 55 o wledydd yn y fersiwn ddiwethaf.
Roedd tad Amy, y diweddar Kevin Jenkins, yn arfer bod ar y gêm fel cadeirydd ac hyfforddwr i glwb Penrhyncoch, ble mae ei brawd Leigh dal yn golwr.
Ond eleni yw'r tro cyntaf i Football Manager gynnwys pêl-droed merched, gyda Chymru'n un o 11 gwlad yn unig sydd wedi eu dewis.
"Fi'n meddwl mai ni fydd un o'r unig frawd a chwaer fydd ar y gêm," meddai Amy.
"Mae'r sylw mae'n mynd i roi i'r gynghrair yn wych. Bydd bechgyn a merched ifanc yn prynu'r gêm a gweld pêl-droed merched arno fe.
"Mae llawer o'n chwaraewyr rhyngwladol ni yn chwarae yn system Lloegr, ond falle bydd hwn yn dod â mwy o sylw i'r merched sy'n chwarae fan hyn yng Nghymru hefyd."

Mae ambell un o glybiau'r gynghrair yn talu rhai o'u chwaraewyr - ond i eraill fel Aberystwyth, mae eu holl chwaraewyr nhw'n amatur
Er bod Amy yn ffan o'r gêm ers blynyddoedd, doedd rhai o'i chyd-chwaraewyr yn Aberystwyth ddim mor gyfarwydd â Football Manager – yn wahanol i'w rheolwr, Rhys James.
"Mae'n anferthol o ran ehangu byd pêl-droed merched," meddai. "Mae cyfle nawr ar ôl yr haf i godi diddordeb.
"Be' sy'n bwysig i ni fan hyn yn Aberystwyth yw cael pobl drwy'r drws, i wylio'r merched.
"Bydd hwnna wedyn yn helpu dod â mwy o arian i mewn i'r gêm leol, fel bod nhw'n gallu cael mwy o degwch o ran beth maen nhw'n rhoi i bobl."

Mae Amy Jenkins wedi bod yn chwarae ers ei bod hi'n 16 oed, ac yn cofio adeg pan nad oedd tîm merched Aberystwyth yn cael rhannu'r un cae â'r dynion
Yn ôl Alaw Davies, 22, mae'n bwysig bod datblygiadau fel hyn nawr yn digwydd i adeiladu ar y sylw gafodd pêl-droed merched yng Nghymru yn dilyn yr Ewros dros yr haf.
"Mae'n dda iawn bod gyda ni rywbeth fel hyn i sefyll mas, a dangos bod ni ddim yn bell tu ôl i bawb arall," meddai'r chwaraewr canol cae.
I'r amddiffynnwr Sian Evans, 29, mae unrhyw beth sy'n gwella adnabyddiaeth o chwaraewyr a chlybiau Cymreig i'w groesawu.
"Amser chi'n nabod rhywun sydd arno fe, mae'n 'neud mwy o ddiddordeb," meddai.
"Bydd rhaid i fi weld beth yw ratings fi ar y gêm, jyst i gael gweld ydw i mor glou ag Amy!"

Clybiau'r Brif Adran yn 2025/26 (o'r chwith i'r dde) yw Pontypridd, y Barri, Wrecsam, Llansawel, Caerdydd, Y Seintiau Newydd, Abertawe ac Aberystwyth
Byddai rhai yn synnu i weld bod y Brif Adran yng Nghymru wedi ei chynnwys o gwbl.
Wedi'r cyfan, dydi'r rhan fwyaf o'i chwaraewyr ddim hyd yn oed yn cael eu talu – yn wahanol iawn i sêr y cynghreiriau adnabyddus mewn gwledydd fel yr UDA, Sbaen a Lloegr.
Yn ôl Harry Ware, oedd yn gyfrifol am yr ymchwil ar Gymru i Football Manager, roedd hi'n helpu bod yna glybiau mawr yn rhan o'r darlun.
"Mae 'na ddiddordeb yn Wrecsam ers y rhaglen ddogfen gyda Rob a Ryan, mae gennych chi hefyd glybiau mawr fel Caerdydd ac Abertawe," meddai.
"Ac mae 'na botensial mawr i'r gynghrair dyfu, achos dyw e ddim yn un mae llawer yn gwybod amdano."
Un nodwedd arall am y gêm, meddai, yw bod y rheiny sy'n ei chwarae yn hoff o geisio herio'u hunain gan ddechrau mor isel â phosib – a hynny hefyd felly wedi cynyddu'r apêl o gynnwys Cymru arni.

Yn ôl Rhys James, rheolwr tîm Aberystwyth, mae angen manteisio ar y diddordeb cynyddol mewn pêl-droed menywod i "gael llygaid ar y gynghrair yma" hefyd
"Mae bron â bod agenda yn erbyn dewis tîm mawr, achos mae hwnna'n cael ei weld fel y ffordd hawdd," esboniodd.
"Felly byddai e'n her dda i rywun i ddewis clwb o Gymru."
Fe wnaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru gydweithio â datblygwyr y gêm, Sports Interactive, i roi trwydded fyddai'n caniatáu defnyddio wynebau a logos y Brif Adran Genero.
Mae'n "ffantastig" felly y bydd y gynghrair yn cael ei gweld ar lwyfan gwahanol, yn ôl pennaeth strategol merched a menywod CBDC – ond mae mwy i'w wneud.
"'Dan ni mewn cyfnod cyffrous iawn i bêl-droed merched, wnaethon ni weld hynna dros yr haf," meddai Bethan Woolley.
"Mae o'n fwy gweledol rŵan, ond mae 'na dal ffordd bell i fynd."

Mae'n rhaid i Gymru fanteisio ar yr Ewros er mwyn mynd â phêl-droed merched yng Nghymru "i'r lefel nesaf", yn ôl Bethan Woolley
Mae hynny eisoes wedi cynnwys ailstrwythuro'r system academi genedlaethol, gydag adolygiad hefyd ar y gweill o strwythurau pêl-droed domestig a llawr gwlad.
"Mae 'na chwaraewyr gwell yn dod drwyddo rŵan, sydd angen gwell amgylchedd a strwythurau i'w cefnogi nhw," meddai.
"Ond hefyd rhaid i chi allu gweld eich hunain yn y byd pêl-droed – if you can't see it, you can't be it.
"'Dan ni'n 'neud gwaith i sicrhau bod pobl yn deall bod 'na le i bob menyw, pob merch yng Nghymru i fod yn rhan o bêl-droed, dim ots pa ffordd ydi hynny."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd28 Awst