'Cymharu â Kyffin': Arddangos gwaith gŵr 91 oed yn Oriel Môn

Gwynfor Griffiths yn sefyll o flaen arddangosfa o'i luniau yn Orel Môn
- Cyhoeddwyd
Mae arlunio wedi bod yn rhan fawr o fywyd Gwynfor Griffith o'r Rhyl ers mae'n bump oed.
Ag yntau bellach yn 91, mae posib gweld ei waith mewn arddangosfa arbennig yn Oriel Môn.
Yn wreiddiol o Ynys Môn, mae'n hynod o falch gweld ei waith yn cael ei arddangos yn agos at wreiddiau ei blentyndod.
Mae hefyd wedi cael ei gymharu â Kyffin Williams gan rai, ac mae un o'i luniau bellach i'w weld fel rhan o arddangosfa barhaol Kyffin.
Mae stori Gwynfor yn ddirdynnol, o fethu a fforddio i fynd i goleg celf, ymuno â'r heddlu, a sut wnaeth galar teuluol ei ysgogi i beintio unwaith eto.
Ffion Dafis aeth draw i Oriel Môn i gael golwg ar yr arddangosfa yng nghwmni Gwynfor.
Darganfod y ddawn
"Pan o'n i'n bump oed o'n i'n byw yn Rhosgoch wrth Amlwch, ac roedd Mam yn gallu neud lot efo lluniau ac un diwrnod o'n i'n ista yn y tŷ yn gneud dim byd", meddai Gwynfor.
"Dyma Mam yn rhoi papur a phensil yn fy llaw a deud wrthai wneud llun, a dyma fi'n gweld cloc ar y wal a dyma fi'n gneud llun o'r cloc.
"Dyma fi'n rhyfeddu mod i'n gallu gneud llun mor dda a dyna sut 'nes i ddechrau, o'n i'n bump oed a dyna lle ddaeth yr awydd i beintio, a dwi wedi bod yn peintio ers hynny.
"Roedd na amser yn fy mywyd lle oedd na dristwch ac roedd rhaid i mi arafu lawr a doedd fy meddwl ddim ar y peintio o gwbwl."
Erbyn iddo gyrraedd Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch roedd dawn Gwynfor wedi dod i sylw'r athro celf, J.O Hughes.
Fe basiodd Gwynfor Lefel A a chael ei annog gan ei athro cefnogol i fynd lawr i Gaerdydd i'r Coleg Celf Gain am gyfweliad.
"Mi ddaru Nain dalu am y trên lawr i mi, dyma fi'n cyrraedd a dwi'n cofio ro'n i'n gorfod gneud llun o giât gardd.
"Dyma fi'n gwneud, a chlywed mewn dipyn o amser fy mod wedi pasio' arholiad a chael cynnig lle yn y coleg.
"Roedd Mam a Nain a phawb yn crïo, roedden nhw mor falch. Dyma fi'n chwilio am grantiau ymhob man ond methu 'nes i godi digon o arian i fynd, felly roedd rhaid rhoi'r ffidil yn y to."

Llun o Gwynfor yn eistedd y thu allan i dŷ Kyffin Williams
Yn dilyn y siom o fethu a mynd i'r coleg celf, dyma Gwynfor yn ymuno â'r fyddin fel rhan o'i wasanaeth cenedlaethol, gan ymuno â'r Catrawd Cymreig.
Yn fuan wedyn gwelodd hysbyseb yn chwilio am blismyn.
"Do'n i ddim yn ddyn oedd isho mynd yn blismon, bod yn athro celf oedd fy mywyd i.
"Ond, dyma fi'n mynd lawr i Gaernarfon i weld Cyrnol Williams, y Prif Gwnstabl. Dyn mawr oedd yn siarad drwy ei drwyn.
"Dyma fi'n cael fy anfon am dri mis i Ben-y-bont am hyfforddiant cyn dod nôl fel cwnstabl yng Nghonwy."
Aeth bywyd yn ei flaen a gweithiodd fel ditectif ar draws gogledd Cymru, cyn setlo gyda'i deulu yn Y Rhyl.
Roedd gan Gwynfor bedwar o blant. Cafodd un o'i feibion, James, ei eni gyda chyflwr parlys yr ymennydd yn 1976.
Bu farw James yn 40 oed yn 2016, ac roedd hynny yn ergyd drom iawn i Gwynfor.
'Peintio pob dydd'
"Ar ôl colli James o'n i'n peintio pob dydd.
"Ro'n i'n gwneud lluniau capeli ac eglwysi. Roedd pobl yn dod ata'i i ddweud fod pobl oedden nhw'n nabod wedi eu claddu yno, neu wedi priodi yna.
"Roedd pobl yn gofyn wedyn am luniau o'u tai nhw. O'n i'n gwneud rhyw dri neu bedwar llun y dydd ac yn ei rhoi nhw ar Facebook.
"Roedd hynny yn help i mi gael fy meddwl oddi ar bethau."
Mae rhai o luniau Gwynfor bellach i'w gweld mewn arddangosfa yn Oriel Môn. Mae chwe llun i gyd, pob un (ag eithio un) yn bortreadau o lefydd ar Ynys Môn.
Dywedodd Gwynfor: "Dwi wedi gwneud lluniau o Mynydd Parys, bwthyn yn Cemaes, Pont Cerrig, yr Eglwys yn Aberffraw, a Benllech efo pobol yn enjoio eu hunain yn y dŵr yn yr haf.
"Mae gen i un o Lyn Tegid yn Y Bala hefyd - o'n i wrth fy modd yn mynd i Lyn Tegid."
Un nodwedd sydd i'w weld yn amlwg ym mhob un o luniau Gwynfor yw bod 'na bum gwylan i'w gweld ynddyn nhw.
"Symbolaeth hynny yw fy mod wedi dechrau peintio'n bump oed. Mae gen i stori ymhob llun. Mae James efo fi hefyd yn rhoi y nerth i mi wneud cymaint o luniau."

Rhai o luniau gwynfor sydd yn rhan o'r arddangosfa yn Oriel Môn
Yn ogystal â chael arddangosfa o'i luniau ei hun mae gan Gwynfor lun sydd hefyd wedi'i gynnwys yn oriel parhaol Kyffin Williams yn Oriel Môn.
Mae llun a beintiodd Gwynfor ohono'i hun yn eistedd tu allan i gartref Kyffin yn rhan o'r arddangosfa.
"O'n i'n gwybod ble oedd Min y Môr, tŷ Kyffin ar lan y Fenai, felly es i lawr yno i dynnu llun o'r tŷ.
"Dwi wedi tynnu llun ohona i yn eistedd y tu allan. Y syniad tu ôl i'r llun ydi fy mod i'n gobeithio y gwneith Kyffin agor y drws a gofyn i fi fynd fewn.
"Ond wrth gwrs, 'nath hynny byth ddigwydd achos doedd Kyffin ddim yno.
"Felly dyma fi'n gwneud y llun a rhoi o'n rhodd i'r Oriel."
Does gan Gwynfor ddim bwriad i roi'r gorau i beintio, ac fe ddywed gen ei fod yn 91 bod "pob diwrnod yn fonws".
Mae'r arddangosfa o waith Gwynfor Griffith ar gael yn Oriel Môn, Llangefni, tan fis Rhagfyr.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd31 Awst
- Cyhoeddwyd21 Medi