Trystan ac Emma yn cyhoeddi her 24 awr i godi arian

Trystan ac Emma gyda Pudsey
  • Cyhoeddwyd

Bore dydd Gwener fe gyhoeddodd cyflwynwyr poblogaidd BBC Radio Cymru, Trystan Ellis Morris ac Emma Walford y byddan nhw'n ymgymryd â her i godi arian i Plant Mewn Angen.

Bydd y ddau yn dawnsio am 24 awr mewn Dawnsathon a fydd yn cael ei gynnal yn BBC Sgwâr Canolog rhwng y 13eg a'r 14eg o Dachwedd 2025.

Dywedodd Trystan:

"Mae'n anodd meddwl am ffyrdd o baratoi at yr her, [dwi'n] meddwl mai'r tric fydd gwisgo rhywbeth cyfforddus ar y traed.

"Dwi'n gwybod fod y tîm wedi paratoi ambell i sypréis ar hyd y daith a dw i'n siwr y bydd hynny'n lot o help yn enwedig yn oriau mân y bore."

Hon fydd yr her gyntaf ar gyfer Plant Mewn Angen i'r pâr sy'n cyflwyno gyda'i gilydd ar Radio Cymru ers pum mlynedd, yn cymryd drosodd gan Aled Hughes sydd wedi bod wrth lyw ymgyrchoedd Plant Mewn Angen ar ran Radio Cymru dros y blynyddoedd diweddar.

Wrth sôn am baratoi ar gyfer yr her, dywedodd Emma:

"Gyda Tryst wrth fy ochr, y gerddoriaeth yn fy nghlustiau a'r gwrandawyr yn gefn i ni'n dau dwi'n gwbod fod yr her yma'n bosib.

"Yr un peth fydd ar feddylie y ddau ohonon ni dros y 24 awr, sef codi ymwybyddiaeth ac arian angenrheidiol i elusen anhygoel sydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth i blant a'u teuluoedd ar draws y wlad."

Cyhoeddodd y ddau'r Danwsathon ar eu rhaglen ar BBC Radio Cymru ynghyd â fideo o'u "prawf meddygol" i weld a ydyn nhw'n ddigon heini i wneud yr her 24 awr.

Disgrifiad,

Ydy Trystan ac Emma ddigon heini i ddawnsio am 24 awr?

Maen nhw eisoes wedi cael cefnogaeth timau eraill o BBC Cymru. Fe ymddangosodd ffrind i'r rhaglen a chyflwynydd BBC Radio Wales, Ian 'H' Watkins o'r grŵp pop Steps, yn y sgets fel y doctor dawnsio. Cafodd y sgets ei ffilmio ar set Casualty ym Mhorth y Rhath.

Bydd yr her yn cael ei darlledu am y 24 awr ar BBC iPlayer a BBC Radio Cymru 2, ac mae'r tîm cynhyrchu yn addo gwesteion, cerddoriaeth a digon o sypreisys yn ystod y diwrnod.

Trystan ac Emma gyda Pudsey

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig