Gyrrwr 130mya a darodd weithiwr ffordd wedi'i ddal gan gamera cloch tŷ

Cafodd car Anthony Tregonning ei weld ar gamerau traffig a dashcam yn symud rhwng cerbydau ac ar y llain galedFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd car Anthony Tregonning ei weld ar gamerâu traffig a dashcam yn symud rhwng cerbydau ac yn gyrru ar y llain galed

  • Cyhoeddwyd

Cafodd gyrrwr wnaeth anafu gweithiwr ffordd yn ddifrifol wrth geisio ffoi oddi wrth yr heddlu ar gyflymder o dros 130 milltir yr awr, ei garcharu ar ôl i fideo cloch tŷ brofi iddo ddweud celwydd am leoliad ei gar adeg y gwrthdrawiad.

Roedd Anthony Tregonning o Ferthyr Tudful wedi honni bod ei gar wedi cael ei ddwyn oriau cyn i'r cerbyd daro Ieuan Parry, oedd yn gweithio ar ran o ffordd ddeuol oedd wedi ei chau'n rhannol gan gonau ffordd.

Mewn fideo o gyfweliad gafodd ei ffilmio gan yr heddlu, ac sy'n rhaglen gyntaf cyfres The Crash Detectives y BBC, mae Tregonning yn newid ei stori a chyfaddef gyrru yn y lôn oedd ar gau er mwyn dianc rhag yr heddlu gan nad oedd ganddo yswiriant i'w Mitsubishi Evo.

Collodd Ieuan Parry ei goes yn dilyn y gwrthdrawiad, a cafodd Tregonning ddedfryd o dair blynedd a phedwar mis o garchar ar ôl cyfaddef achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus.

Roedd lluniau dashcam yn dangos y gweithiwr ffordd Ieuan Parry wedi ei anafu ar ochr y lonFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Roedd lluniau dashcam yn dangos y gweithiwr ffordd Ieuan Parry wedi ei anafu ar ochr y lôn

Deuddydd cyn iddo gael ei erlid ar gyflymder o 131mya, roedd Tregonning wedi creu fideo ar YouTube yn brolio gwerth ei gar Mitsubishi Lancer Evo 8 gwyn, ac yn honni ei fod werth £50,000.

Roedd yr heddlu wedi ceisio stopio Tregonning ar ôl methu darllen plât cofrestru anghyfreithlon y Mitsubishi.

Yn ystod y dedfrydu gwelodd y llys gar Tregonning yn gwibio i mewn ac allan o draffig canol dydd ar Ffordd Blaenau'r Cymoedd rhwng Tredegar a Glynebwy ym Mlaenau Gwent.

Cafodd Tregonning hefyd ei weld yn gyrru ar lain galed y ffordd ddeuol, ac ar lôn oedd wedi ei gau gan gonau.

Daeth yr helfa i ben pan ddaeth yr heddlu o hyd i Ieuan Parry, a oedd yn gwisgo dillad oren llachar wrth chwythu dail a glaswellt oddi ar y ffordd, gydag anafiadau i'w ben a chlwyf difrifol i'w goes.

Roedd Anthony Tregonning wedi dweud bod ei gar wedi'i ddwyn yn wreiddiol, cyn cyfaddef ei droseddauFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Anthony Tregonning wedi dweud yn wreiddiol bod ei gar wedi'i ddwyn, cyn cyfaddef ei droseddau

Yn hwyrach y prynhawn hwnnw galwodd Tregonning 999, gan honni bod ei gerbyd wedi'i ddwyn o flaen ei gartref ym Merthyr Tudful.

Dywedodd Tregonning ei fod wedi ffraeo gyda'i gyn-gariad, a dywedodd gelwydd arall drwy ddweud eu bod nhw'n dal i rannu'r un tŷ er eu bod nhw wedi gwahanu.

Ond ar ôl siarad â'i gymdogion, gwyliodd yr heddlu fideo o gamera cloch yn dangos Tregonning yn gadael ei gartref yn y Mitsubishi Evo am 11:50 ar 22 Tachwedd 2021, funudau cyn y gwrthdrawiad anafodd Mr Parry am 12:10.

Ar ôl cael ei arestio dywedodd Tregonning ei fod yn credu iddo daro côn traffig, a'i fod wedi gyrru i ffwrdd mor gyflym ag y gallai mewn "panig".

Anthony TregonningFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent

Daeth ditectif o hyd i ffibrau o drowsus Mr Parry ar olwyn car Tregonning, a doedd dim tystiolaeth iddo daro côn traffig.

Treuliodd Ieuan Parry 17 diwrnod yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, a bu'n rhaid iddo gael pum llawdriniaeth cyn i feddygon benderfynu tynnu ei goes o'i ben-glin i lawr.

"Bob dydd rwy'n meddwl am sut mae fy mreuddwyd wedi'i ddinistrio ac rwy'n gwybod bod yn rhaid i mi fyw bywyd gwahanol," meddai Mr Parry, oedd yn bwriadu cychwyn busnes ei hun.

Clywodd y llys fod Mr Parry yn dal i ail-fyw effaith y gwrthdrawiad yn ddyddiol, yn gorfforol ac yn feddyliol.

Dywedodd ei fod yn gweld ei bartner yn troi yn ofalwr llawn amser, a bod hynny'n ei wneud yn drist.

Cafodd Tregonning ei garcharu am dair blynedd a phedwar mis, a'i atal rhag gyrru am bum mlynedd ac wyth mis.

Pynciau cysylltiedig