Beth allwch chi ei fforio yn yr hydref?

Catrin yn fforioFfynhonnell y llun, Kristina Banholzer
  • Cyhoeddwyd

Mae hi wedi bod yn haf poeth, felly mae'r gwrychoedd yn llawn ffrwythau ac aeron. Ac yn ôl Catrin Jones o Waunfawr, mae yna ddigon o bethau o'n cwmpas ni y gallwn ni eu fforio (forage) er mwyn eu bwyta neu eu troi yn foddion.

Dydi fforio ddim yn rhywbeth mae Catrin wastad wedi ei wneud, meddai ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru. Roedd hi wedi dechrau ar ôl gweld hysbyseb gan feddyg llysiau lleol oedd yn mynd â phobl am dro drwy'r flwyddyn:

"Roedd o'n pwyntio pethau allan, ac yn dangos y ffyrdd gwahanol i drin y planhigion a'r aeron.

"Cyn hynny, doedd gen i ddim gwybodaeth o gwbl. Dwi'n meddwl bod ni wedi colli lot o gysylltiad efo byd natur.

"O'n i'n teimlo ei fod o'n rhywbeth pwysig i fi i ddysgu i allu pasio'r wybodaeth ymlaen, er mwyn i'r plant gael mwy o gysylltiad efo'r byd natur o'n cwmpas ni."

ffrwythau yn gwneud suropFfynhonnell y llun, Catrin Jones

Nawr mae Catrin yn siarad am y pethau mae hi yn eu fforio a sut mae hi'n eu paratoi ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Dwi'n rhannu trwy'r flwyddyn pan dwi'n gwneud rhywbeth fel y surop, ac yn rhannu gwybodaeth fel buddion y planhigyn a ffyrdd saff o'u casglu a'u trin. Dwi'n meddwl ei fod o'n bwysig i ddysgu i'w wneud o'n ofalus, achos mae o'n hawdd cymysgu aeron sydd yr un lliw.

"Dwi'n meddwl fod o yn grêt ei fod o'n gallu cysylltu pobl fwy efo natur a bod nhw'n medru cymryd y cam cyntaf i agor llyfr, mynd am dro o gwmpas ac edrych yn y gwrychoedd."

Mae Catrin yn fforio drwy'r flwyddyn, gan fod beth sydd ar gael yn newid gyda'r tymhorau, meddai.

"Dwi'n brysur yn casglu bob dim dros y tymhorau maen nhw allan; dwi'n sychu pob dim, ac yn eu storio nhw mewn jar ar gyfer adeg o'r flwyddyn pan dydyn nhw ddim ar gael."

Catrin yn gwneud moddionFfynhonnell y llun, Kristina Banholzer
Disgrifiad o’r llun,

Mae Catrin yn defnyddio pethau mae hi wedi eu fforio mewn moddion

Pa bethau sydd yn dda i'w fforio yn yr hydref?

  • Aeron y ddraenen wen (hawthorn berries)

Rhywbeth sy'n dal y llygad yn y gwrychoedd ydy aeron coeden y ddraenen wen. Gallwch wneud tincture neu de sy'n dda i gylchrediad y gwaed ac i'r galon, yn helpu efo pwysau gwaed ond hefyd yn helpu i godi'r galon yn ystod cyfnodau anodd bywyd, fel galar.

Ac mae 'na ryseitiau hawthorn ketchup ar y wê sy'n flasus iawn!

Adeg yma o'r flwyddyn ti'n casglu'r aeron, ond yn y gwanwyn, dwi'n gwneud moddion allan o'r blodau.

Aeron y ddraenen wenFfynhonnell y llun, Catrin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Catrin yn defnyddio aeron y ddraenen wen mewn nifer o ffyrdd

  • Cnau cyll (hazelnut)

Mae'r hydref yn adeg gwych i hel cnau, gyda digon wedi'u gwasgaru ymysg y dail sydd wedi disgyn eleni.

Os ydych chi eisiau cynaeafu, mae cnau cyll yn fendigedig. Rhaid aros nes bod y cnau wedi disgyn yn naturiol i'r ddaear ac wedi dod allan o'r plisgyn allanol. Ar ôl casglu, dim ond eu gadael am gwpl o wythnosau mewn lle sych, ac fe fyddan nhw'n barod i'w bwyta.

  • Egroes (rosehip)

Pan mae petalau'r rhosod i gyd wedi disgyn i ffwrdd diwedd yr haf, rydyn ni'n gweld aeron coch hyfryd yn y gwrychoedd. Mae egroes yn llawn antioxidants a fitamin C i gefnogi'r system imiwnedd. Roedd yn cael ei roi i blant yn ystod yr Ail Ryfel Byd fel dôs o fitaminau am fod yna ddim llawer o ffrwythau sitrws ar gael.

Mae posib gwneud surop ohono i'w fwyta, neu olew sydd yn dda i'r croen oherwydd y fitamin A ynddo.

  • Eirin ysgaw (elderberries)

Mae diod o flodau'r ysgaw yn boblogaidd, ond dwi'n gwneud surop o'r aeron yr adeg yma o'r flwyddyn hefyd. Mae'n llawn fitamin C, sy'n dda pan mae pawb yn dechrau cael annwyd.

Yr unig beth dwi'n ei wneud ydi ei roi o ar y stôf efo dŵr ac ychwanegu pethau eraill fel orennau, sinamon, clofs, mêl lleol, a'i droi mewn i surop.

Peidiwch â bwyta'r aeron o'r goeden; rhaid eu coginio nhw gan eu bod nhw'n gallu bod yn wenwynig.

Mae eirin a blodau'r ysgaw yn cael eu defnyddio i wneud diod blasusFfynhonnell y llun, Catrin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae eirin a blodau'r ysgaw yn cael eu defnyddio i wneud diod blasus

  • Dail poethion (nettles)

Mae dail poethion yn y gwanwyn yn grêt gan fod llawer o haearn ynddo fo; ti'n gallu ei roi o mewn teisen, neu baned o de.

Ond adeg yma o'r flwyddyn, ti ond yn defnyddio'r hadau, sy'n llawn maeth. Ar ôl eu casglu nhw, ti'n gallu eu bwyta nhw fel maen nhw, neu eu cadw nhw mewn jar i sychu, wedyn ti'n gallu eu rhoi nhw dros dy fwyd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig