Traddodiadau lleuad y cynhaeaf

LleuadFfynhonnell y llun, Wikipedia
  • Cyhoeddwyd

Dros nos ar 6 Hydref 2025 bydd Lleuad y Cynhaeaf – neu'r Harvest Moon – yn codi'n llawn yng Nghymru a Hemisffer y Gogledd.

Dyma'r lleuad lawn agosaf at Gyhydnos yr Hydref (Autumn Equinox). Mae hyn yn golygu y gall Lleuad y Cynhaeaf ddigwydd unrhyw bryd rhwng dechrau mis Medi a dechrau mis Hydref.

Ond faint wyddoch chi am hanes a thraddodiad y lleuad yng Nghymru? Yma, mae'r hanesydd Elin Tomos yn bwrw golwg ar rai o hen arferion y Cymry:

'Lloer y Saith Nos Olau'

Yn hanesyddol, roedd Lleuad y Cynhaeaf yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr y Cymry.

Cyn dyddiau trydan a pheiriannau modern, roedd y golau ychwanegol yn gymorth mawr i ffermwyr ymestyn eu diwrnod gwaith a pharhau i gynhaeafu yn y caeau tan yn hwyr yn y nos – hyd y wawr pe bai angen!

Peiriannau’n cynorthwyo gyda’r cynaeafu yn Nhyddyn Sais, Trawsfynydd ym mis Hydref 1965Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Peiriannau'n cynorthwyo gyda'r cynaeafu yn Nhyddyn Sais, Trawsfynydd ym mis Hydref 1965

Ar draws Cymru, roedd enw'r lleuad arbennig yma yn amrywio. Roedd Lleuad y March Melyn a Lleuad y Cynhaeaf yn enwau cyffredin.

Yn ardal Arfon, byddai trigolion yn cyfeirio at y lleuad fel cyfnod y Naw Nos Olau sef cyfnod pan oedd y lleuad mor llachar nes ei bod bron fel golau dydd am ychydig nosweithiau cyn ac ar ôl y lleuad lawn.

Yn y de-orllewin cyfeiriwyd at y cyfnod hwn fel cyfnod y Chwe Nos Ola' neu Lloer y Saith Nos Olau.

Dringo'r Wyddfa a chreu canhwyllau

Roedd gan wahanol ardaloedd o Gymru draddodiadau amrywiol hefyd.

Gan fanteisio ar loer lachar Lleuad y Cynhaeaf, ar y nos Sadwrn agosaf at y lleuad lawn, yn Nyffryn Peris a'r cyffiniau roedd hi'n arfer poblogaidd gan drigolion yr ardal i gerdded i fyny'r Wyddfa i weld yr haul yn codi.

Ym mis Medi 1906, roedd cannoedd o drigolion bro'r Wyddfa wedi cerdded i'r copa i weld y wawr. Yn eu plith oedd Robert Owen Roberts, chwarelwr ifanc o Lanberis.

Wrth ddychwelyd, defnyddiodd Roberts ei gaib i sglefrio i lawr rheilffordd yr Wyddfa; yn anffodus, fe fethodd droad a tharo ei ben ar graig gan dorri ei benglog. Derbyniodd driniaeth yn Ysbyty Chwarel Dinorwig, ac wedi pum wythnos fel claf mewnol cafodd ei ryddhau yn holliach unwaith eto.

Rheilffordd yr Wyddfa tua’r flwyddyn 1900Ffynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Rheilffordd yr Wyddfa tua'r flwyddyn 1900

Hyd at ganol y 19eg ganrif roedd y rhan fwyaf o bobl gyffredin Cymru yn goleuo eu cartrefi â chanhwyllau brwyn cartref.

Yn Sir Frycheiniog, roedd pobl yn credu mai'r amser gorau o'r flwyddyn i dorri brwyn ar gyfer canhwyllau oedd pan oedd Lleuad y Cynhaeaf yn llawn. Yn aml, byddai pobl yn teithio ymhell i gael y brwyn gorau, a byddent yn cael eu rhwymo mewn ysgubau mawr i'w cario adref.

Ar ôl iddynt wywo a sychu byddent yn cael eu torri i'r hyd priodol. Gyda'r nos, byddai teuluoedd a chymdogion yn dod at ei gilydd er mwyn 'pabwyra' sef plicio'r brwyn.

Creu canhwyllau brwyn yn ffermdy Cwmhesgyn, AbergeirwFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Creu canhwyllau brwyn yn ffermdy Cwmhesgyn, Abergeirw

Wrth weithio byddent yn canu hen ganeuon gwerin gan gynnwys Hyd y Frwynen. Wedi plicio'r brwyn a'u rhoi o'r neilltu am ychydig byddent yn eu trochi mewn brasder neu gwyr wedi'i doddi a'u roi ar lechen i galedu.

Byr oedd oes y gannwyll wedi ei goleuo, mae'n debyg y byddai cannwyll yn para' tua ugain munud. Yn ôl pob golwg, byddai rhai teuluoedd yn amseru pryd i fynd i'r gwely yn ôl nifer y canhwyllau a oedd wedi'u llosgi'r noson honno.

Yn ysgrifennu yn 1924, esboniodd Evan Jones o Lanwrtyd: 'Cyn bod clociau mewn arferiad, wrth rif y canhwyllau brwyn a losgid y cedwai llawer teulu gynt yr amser i fyned i orffwys yng nghwrs y gaeaf.'

Goleuo'r llwybr adref

Yn ogystal â chynorthwyo ein hynafiaid yn ystod y cynhaeaf, roedd golau llachar y lleuad hon hefyd yn hwyluso'u taith adref i fynychwyr o wasanaethau Diolchgarwch mewn eglwysi a chapeli ledled y wlad.

Yn 1898, yn ôl gohebydd Tarian y Gweithiwr, roedd y lleuad yma'n 'gwenu yn serchog' ar drigolion y cymoedd ac 'wedi bod o fantais i bobl fynychu cyfarfodydd Diolchgarwch a gynelir ar hyd y wlad'.

Erbyn heddiw, efallai nad oes angen Lleuad y Cynhaeaf i'n tywys adref neu'n cynorthwyo yn y caeau. Serch hynny mae'n werth ceisio cael cipolwg arni unwaith eto eleni ac ystyried yr holl hanes sydd ynghlwm â hi, yn arbennig ei phwysigrwydd gynt.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig