Gosod plac er cof am yr actor Richard Burton
- Cyhoeddwyd
Mae'r actor Michael Sheen wedi dadorchuddio plac er cof am Richard Burton yn Llundain.
Mae'r actor o Bort Talbot sy'n chwarae rhan Hamlet yn y Young Vic yn Llundain ar hyn o bryd wedi ymuno â Threftadaeth Lloegr i ddathlu bywyd a gwaith un o ddehonglwyr gorau gwaith Shakespeare yn yr 20fed Ganrif.
Mae'r plac wedi ei osod ar wal y tŷ y bu Burton yn rhannu â'r actores Gymreig, Sybil Williams rhwng 1949 a 1956.
Daeth Burton yn fyd-enwog tra'r oedd yn byw yn ei gartref yn 6 Lyndhhurst Road, Hampstead.
'Swyngyfareddion'
"Mae'n wastad wedi bod yn fraint imi gael fy nghysylltu â['r dewin o hud gwyllt Cymreig, sef Richard Burton," meddai Sheen.
"Mae'n rhoi llawer o bleser i mi helpu i gofnodi un o'r llefydd lle taflodd ei swyngyfareddion dros Lundain a'r byd."
Ganwyd Richard Walter Jenkins, y 12fed o 13 o blant ar Dachwedd 10, 1925.
Glöwr oedd ei dad a bu farw ei fam pan oedd Richard yn ddyflwydd oed a'i chwaer hŷn wnaeth ei fagu.
Fe gymerodd un o'i athrawon, Philip Burton, ddiddordeb mawr ynddo gan ei gynorthwyo i ddatblygu'r sgiliau a fyddai mor bwysig iddo fel actor yn ddiweddarach.
Yn 16 oed fe enillodd ysgoloriaeth i Rydychen, diolch i gymorth Philip Burton.
'Dan y Wenallt'
Mabwysiadodd gyfenw ei athro yn ddiweddarach cyn gadael Rhydychen er mwyn canolbwyntio ar ei yrfa ar y llwyfan.
Fe ddaeth ei gyfle mawr yn Hollywood yn 1952 yn y ffilm 'My Cousin Rachel' pan wnaeth awdures y nofel, Daphne Du Maurier, ei gymeradwyo am y rhan wedi iddi ei weld yn perfformio ar y llwyfan yn Stratford.
Gwnaeth ei enw ym myd radio yn 1954 pan chwaraeodd rhan y Storïwr ym mherfformiad cyntaf o 'Dan y Wenallt' ar y radio.
Ond ei ran yn Cleopatra yn 1962, newidiodd ei fywyd personol a phroffesiynol am byth, wrth iddo chwarae Mark Anthony i 'Cleopatra' Elizabeth Taylor.
Datblygodd y berthynas ar y sgrin yn berthynas gyhoeddus ac ymfflamychol oddi ar y sgrin hefyd.
Credai llawer ym myd y theatr fod Burton wedi gwneud camgymeriad mawr yn cefnu ar y theatr i ffocysu ar fod yn seren Hollywood.
Yn wir, yn y 60au, ef oedd seren fwyaf costus y diwydiant.
Wedi iddo berfformio yn 'Hamlet' yn y theatr o dan gyfarwyddiad yr actor enwog, John Gielgud yn 1964, cefnodd ar y llwyfan am 12 mlynedd.
Cafodd ei enwebu am 7 Oscar ond ni enillodd un erioed.
Bu farw yn 58 oed yn 1984 yn ei gartref yn Céligny yn Y Swistir.
Yn ystod Haf 2011, cyhoeddwyd bod yna weithgareddau ar y gweill i godi arian i sicrhau fod Burton yn cael seren ar lwybr enwogrwydd (Walk of Fame) yn Hollywood.