Arestio chwech tu allan i Gastell Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi arestio chwech wedi iddyn nhw ddod â phrotest Meddiannu i ben.
Dywedodd yr heddlu nad oedd y chwech wedi dilyn cyfarwyddyd i adael tir, yn groes i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994.
Ddydd Gwener roedd 30 o brotestwyr gwrth-gyfalafol wedi sefydlu gwersyll Meddiannu Caerdydd fel rhan o ymgyrch fyd-eang yn erbyn byd bancio.
Ar un adeg roedd hyd at 100 yn rhan o'r brotest.
Roedd cyfarfod ger gerflun Aneurin Bevan yn Heol y Frenhines cyn croesi'r ffordd a chodi eu pebyll y tu allan i Gastell Caerdydd.
Cafodd taflenni eu dosbarthu i siopwyr.
'Rhaff achub'
Roedd y daflen yn dweud: "Mae'r gwrthwynebiad hanesyddol hwn yn erbyn annhegwch ein cyfundrefn gymdeithasol yn rhaff achub i ddynoliaeth.
"Rhaid inni droi'r brotest hon yn ganlyniad boddhaol.
"Rhaid newid y gyfundrefn farchnad ariannol i fodel economaidd sy'n dibynnu ar adnoddau lle mae gofynion pawb yn cael eu darparu am ddim."
Mae galwadau ymgyrch Meddiannu Caerdydd wedi bod ar wefannau cymdeithasol ers diwrnodau.
Ers Hydref 15 mae ymgyrchwyr gwrth-gyfalafol wedi bod yn gwersylla y tu allan i Eglwys Gadeiriol Sant Pawl yn Llundain.