Anthony Hopkins a'i 'enaid anniddig'

Anthony Hopkins
- Cyhoeddwyd
Mae hunangofiant un o actorion mwyaf llwyddiannus Cymru, Anthony Hopkins, newydd gael ei gyhoeddi, sef We Did OK, Kid.
Mae'r actor o Bort Talbot yn edrych yn ôl dros ei yrfa ddisglair, sy'n cynnwys ennill dau Oscar am ei berfformiadau, yn y llyfr newydd.
Yn 87 mlwydd oed, mae e'n dal i actio, ac un sy' wedi cydweithio gyda fe yn ystod ei yrfa hir yw'r actores Rhian Morgan, oedd yn y ffilm August wnaeth Anthony Hopkins gyfarwyddo.
Bu Rhian yn hel atgofion ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru:

Rhian Morgan
Roedd Anthony Hopkins yn camu am y tro cyntaf i ochr arall y camera gyda'r ffilm August ac roedd e'n llawn brwdfrydedd am hynny. Roedd e'n bwriadu efallai rhoi'r gorau i actio.
Ond unwaith wnaeth e sylweddoli gymaint o waith golygu ac ail-edrych ar y prosiect oedd [wrth gyfarwyddo], benderfynodd e'n sydyn iawn i barhau ac mae pawb yn falch iawn bod e wedi parhau.
Aeth ymlaen ar ôl gwneud August i gymryd y brif rhan yn y ffilm Nixon ac wrth gwrs dyw e ddim wedi stopio. Mae e'n enaid anniddig ac mae e'n hapus pan mae e'n gweithio.

Anthony Hopkins gyda'r cyfarwyddwr Oliver Stone tra'n ffilmio Nixon
Cydweithio ar ffilm August
O'n i'n cyrraedd y set bob bore i gyfeiliant y piano ym Mhlasty Nanhoron ac oedd Anthony Hopkins yn chwarae Chopin. Oedd e'n fendigedig ac yn gosod y naws am y dydd.
Fe wnaeth gyfansoddi y gerddoriaeth ar gyfer y ffilm. Fe oedd yn cyfarwyddo'r ffilm. Fe wrth gwrs, oedd y prif gymeriad.
Ac ar ôl iddo orffen y golygu ges i alwad ffôn rhyw fore Sul a pwy oedd ar y ffôn ond fe'n dweud, 'Would you like to hear the music?'
Oedd gymaint o frwdfrydedd gyda fe, oedd e eisiau chwarae'r miwsig i lawr y ffôn mewn cyfnod lle oeddech chi jest yn gwasgu play.
Oedd ei asbri e'n rhywbeth oedd wedi'n cyffwrdd ni i gyd.
Perthynas agos
O'n i'n gweithio gyda fe am gyfnod o chwe mis i gyd. O'n i'n neud y ffilm i gychwyn yn Mhen Llŷn ac wedyn yn teithio gyda'r ddrama lwyfan.
Ac yntau newydd wneud ei berfformiad fel Hannibal Lecter oedd e ar ei anterth. Ac oedd yna rai pobl wedi dod i weld y ddrama yn meddwl mai fersiwn llwyfan o Silence of the Lambs oedd e ac nid addasiad o Chekov.
Ond ie, oedd e'n brofiad bywyd wrth gwrs ac oedd ei seren e ar ei esgyniad yn bendant.

Perfformiad Anthony Hopkins fel Hannibal Lecter yn ffilm Silence of the Lambs
Mae'n wych i'w weld [ei fod yn parhau i actio yn ei 80au]. Mae'r breuder 'na sy'n gymaint o ran o'i berfformiadau fe yn rhywbeth prin iawn ac dwi'n amau dim bod e'n gweithio mor galed nawr ag y mae e wedi'i wneud erioed.
Mae'n darllen bob sgript 100 o weithiau ac ar ochr arall y sgript mae e wastad yn gwneud rhyw batrwm bach fel bod cefn y sgript yn rhyw un darn mawr o gelf. Mae e'n rhywbeth i'w rhyfeddu.
Felly, tra bod e'n dal yn gallu gweithio dwi'n siŵr bod e moyn dal ati. Mae e tu hwnt i aeddfedrwydd bron nawr yn 88 oed ac mae'n wych i weld rhywun fel 'na yn gallu cyfrannu gymaint i'n bywydau ni.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2021

- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2021

- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2023
