Beth yw gobeithion Cymru yng Nghyfres yr Hydref?

- Cyhoeddwyd
Bydd ymgyrch yr hydref yn dechrau i Gymru ar 9 Tachwedd gyda'r Ariannin yn ymweld â Chaerdydd.
Yn dilyn y gêm yn erbyn Los Pumas bydd gemau yn erbyn Japan, a dwy gêm heriol yn erbyn Seland Newydd a De Affrica.
Yn asesu gobeithion y cochion i Cymru Fyw mae cyn-gapten Cymru, Dr Gwyn Jones, a Phrif Sylwebydd Rygbi BBC Cymru, Cennydd Davies.
Steve Tandy
"Dwi'n croesawu Tandy i'r swydd," meddai Gwyn Jones, "mae e 'di bod ledled y byd yn hyfforddi ac felly'n haeddiannol yn cael cyfle.
"Dyw e heb fod yn brif hyfforddwr ar dîm cenedlaethol, a heb fod yn brif hyfforddwr ers sbel, felly mae 'na farc cwestiwn iddo fe brofi bod e'n rhywbeth mae e'n gallu ei wneud.
"Ond mae e'n Gymro i'r carn, ac yn berson sy'n deall Cymru, a gobeithio felly bydde e'n gallu helpu Cymru drwy'r cyfnod anodd 'ma."
Roedd Tandy'n hyfforddi gyda'r New South Wales Waratahs yn Awstralia ac o'r swydd yna daeth cyfleoedd eraill, fel yr esboniai Cennydd Davies:
"Roedd llwyddiant Tandy yn Super Rugby yn ddigon i berswadio Gregor Townsend i'w benodi fel aelod o dîm hyfforddi'r Alban, ac yno y buodd am chwe blynedd.
"Yn ogystal â hyfforddi'r Llewod yn 2021 mae Tandy wedi ail-ddiffinio ei hun. Er na fyddai 'na opsiynau lu wedi bod ar gael i Undeb Rygbi Cymru wedi ymadawiad Gatland, mae Tandy'n cynnig gweledigaeth ac athroniaeth newydd, ac yn Gymro balch gyda'i wreiddiau yn tarddu o'r gêm gymunedol gyda'i glwb, Tonmawr."

Roedd Tandy'n chwarae dros Y Gweilch rhwng 2003 a 2010, ac yn brif hyfforddwr ar y rhanbarth rhwng 2012 a 2018
Y tîm hyfforddi ehangach
Mae Gwyn Jones wedi ei blesio â'r dewisiadau y mae Tandy wedi ei wneud fel hyfforddwyr cynorthwyol.
"Y peth mwyaf positif ar y tîm hyfforddi yn ei chyfanrwydd yw'r cymysgwch sydd yna – mae 'na hyfforddwyr sy'n agos at y gêm, ac mae'r chwaraewyr yn parchu nhw, fel Dan Lydiate a Rhys Patchell sydd wedi eu tynnu mewn.
"Yn ogystal â rhain mae hyfforddwyr technegol cryf fel Matt Sherratt yn ymosodol a Danny Wilson gyda'r blaenwyr, sydd yn mynd i ddod â thîm cyflawn at ei gilydd i helpu Cymru cael llwyddiant."

Rhys Patchell a Dan Lydiate, dau gyn-chwaraewr sydd yn ran o dîm hyfforddi Steve Tandy
Dylanwad Louis Rees-Zammit
Mae Cennydd Davies yn pwysleisio pwysigrwydd dychweliad Louis Rees-Zammit i'r garfan genedlaethol.
"Er iddo fethu â chreu ei farc yn yr NFL, mae Louis Rees-Zammit dal yn chwaraewr sy'n creu cynnwrf ac yn hawlio'r penawdau – does neb wedi hawlio sylw tebyg yng Nghymru o ran ei bersonoliaeth a'r ysfa i serennu ers Gavin Henson.
"Mae ei bresenoldeb felly'n hwb aruthrol i Steve Tandy a gweddill y garfan, ond yn hwb am resymau masnachol i Undeb Rygbi Cymru yn ogystal.
"Gyda gwerthiant tocynnau ar gyfer y pedair gêm dal yn ymddangos yn siomedig does dim syndod bod enw'r asgellwr wedi bod yn gysylltiedig ag unrhyw hysbyseb, gan gynnwys yr hybu ar y cyfryngau cymdeithasol i wthio gwerthiant tocynnau.
"Mae'r gwibiwr yn dal i wella ar ôl anaf felly amser a ddengys faint o rôl gaiff y chwaraewr yn erbyn y Pumas yn y gêm gyntaf, ond yn syml mae Rees-Zammit yn dalent aruthrol ac yn bresenoldeb mae Cymru wedi colli'n arw."

Y tro diwethaf i Louis Rees-Zammit wisgo crys coch Cymru, yn erbyn Yr Ariannin yng Nghwpan y Byd 2023
Beth yw'r gobeithion am fuddugoliaethau?
Mae tri o'r pedwar tîm y bydd Cymru'n ei wynebu yn y chwech uchaf yn netholion y byd, ond dywed Gwyn Jones bod un o'r gemau yn y gyfres yn un mae rhaid ei hennill:
"O ran gobeithion Cymru ar gyfer y gyfres yma, dwi'n credu bod rhaid i Gymru ennill yn erbyn Japan. Dwi'n credu bo'r tair gêm arall yn anodd iawn.
"Yr Ariannin yw'r unig gêm arall ble mae 'na hanner siawns i ennill, ond wrth ystyried bo'r Archentwyr 'di curo Awstralia a Seland Newydd yn ddiweddar mae hwnna'n edrych fel tasg go anodd hefyd.
"Bydde'n neis cael parchusrwydd yn y gêm gyntaf, buddugoliaeth yn erbyn Japan, ac wedyn jest osgoi crasfa fydde'n rhoi siglad arall i hyder y Cymry yn y ddwy d'wethaf yn erbyn Seland Newydd a De Affrica."

Japan yn dathlu buddugoliaeth (24-19) yn erbyn Cymru yn Kitakyushu - 5 Gorffennaf, 2025
Mae Cennydd yn cyd-fynd â Gwyn Jones ynglŷn â phwysigrwydd y gêm yn erbyn Japan:
"Ar bapur dim ond yr un fuddugoliaeth fyddai nifer yn darogan i Gymru, a hynny yn erbyn Japan.
"Byddai curo'r Archentwyr yn fonws ar sail perfformiadau'r Pumas ym Mhencampwriaeth Hemisffer y De, ond fe allai'r cyfan droi'n hunllef yn erbyn Seland Newydd a De Affrica.
"Mae'r gêm olaf yn erbyn y Springboks yn dasg anobeithiol gan fod yr Undeb eto, yn ei doethineb, wedi trefnu'r gêm honno tu fas i'r ffenestr ryngwladol swyddogol, ac felly bydd y chwaraewyr sy'n chwarae tu hwnt i Glawdd Offa ddim ar gael."
Angen codi'r hyder
Mae Gwyn Jones yn credu bod angen codi hyder y garfan cyn mynd mewn i ymgyrch Chwe Gwlad hynod heriol, fydd yn dechrau yn Twickenham ar 7 Chwefror.
"Y broblem yw, wrth gwrs, ar ôl y gemau yma 'di pethau ddim yn gwella, achos ni'n chwarae Lloegr a Ffrainc yn nwy gêm agoriadol y Chwe Gwlad.
"Bydde'n anodd cadw hyder yn uchel os chi'n colli'n drwm mewn pedair gêm yn olynol ac felly mae'n bwysig bo' ni'n osgoi hynny ac yn gallu cadw gafael ar hyder ac edrych ar ardaloedd o'r gêm ble mae'n bosib gweld gwelliant a datblygiad.
"Dyna dwi'n credu yw'r brif flaenoriaeth yn ystod y cyfnod yma – ardaloedd o'r gêm ble maen nhw'n gallu gweithio arno a gwella, ac mae posib gweithio ar y gweddill wedyn, achos mae'n amhosib gofyn iddyn nhw fod yn dîm cyflawn o ble maen nhw ar hyn o bryd."

Jesse Kriel yn croesi am gais yn erbyn Japan yn Stadiwm Wembley, 1 Tachwedd 2025. Enillodd De Affrica y gêm 61-7
Er bod canlyniadau'n hollbwysig mae Cennydd yn credu y bydd Tandy yn cael cyfle i osod y sylfaeni:
"Ydi mae'n gyfnod newydd o dan gyfundrefn newydd, a'r mesuriad o unrhyw hyfforddwr ar y lefel broffesiynol yw ennill gemau wrth gwrs.
"Ond, fe gaiff Steve Tandy amser i osod ei farc ar y garfan a sicrhau bod 'na dystiolaeth pendant fod y tîm o leia'n symud i'r cyfeiriad cywir, ac yn ail-adeiladu o adfeilion y gyfundrefn flaenorol."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd27 Hydref

- Cyhoeddwyd21 Hydref
