Oriel: BBC Bangor yn 90 oed

Paula Green
Disgrifiad o’r llun,

Paula Green a oedd yn enwog am actio yn The Arthur Askey Show ar ddechrau'r 1960au yn recordio ym Mangor

  • Cyhoeddwyd

Ers 1935 mae darlledu wedi bod yn elfen bwysig o hanes dinas Bangor.

Ar 1 Tachwedd y flwyddyn honno roedd yr araith gyntaf ar donfeddi'r BBC o'r ganolfan newydd ym Mangor, a hynny gan y cyn Brif Weinidog, David Lloyd George.

Naw deg mlynedd yn ddiweddarach, gyda'r ganolfan wedi symud i adeilad ar ochr arall Ffordd Bryn Meirion ers blynyddoedd, mae rhaglenni byw yn parhau i gael ei darlledu oddi yno'n ddyddiol.

Dyma edrych yn ôl dros y 90 mlynedd drwy luniau o actorion, cyflwynwyr a rhai o weithwyr y ganolfan.

Bryn Meirion
Disgrifiad o’r llun,

Hen adeilad y BBC ym Mangor

Jack Warner
Disgrifiad o’r llun,

Daeth llawer o sêr y byd drama radio i recordio i Fangor, gan gynnwys Jack Warner

Golygu fideo
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r golygwyr yn paratoi i dorri fideo

Marmaduke Hussey
Disgrifiad o’r llun,

Ymweliad Marmaduke Hussey (ail o'r dde) gyda Bryn Meirion yn 1994. Roedd Mr Hussey yn Gadeirydd bwrdd Llywodraethiant y BBC rhwng 1986-1996

Mici Plwm
Disgrifiad o’r llun,

Mici Plwm yn recordio drama ym Mryn Meirion

Staff y gegin
Disgrifiad o’r llun,

Mary Jones, Janet Horman a Glenys Gill yn gweithio yng nghegin y BBC ym Mangor

Stiwdio
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r stiwdios ym Mryn Meirion

Gari Williams
Disgrifiad o’r llun,

Gari Williams yn y stiwdio ddrama

Stiwdio
Disgrifiad o’r llun,

Cynhyrchwyr yn paratoi'r stiwdio ddrama

Siw Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Siw Hughes yn cymryd rhan mewn drama radio ym Mryn Meirion

Hen adeilad y BBC
Disgrifiad o’r llun,

Hen adeilad y BBC sydd bellach yn neuadd preswyl i fyfyrwyr Prifysgol Bangor

Twm Morys
Disgrifiad o’r llun,

Twm Morys a oedd yn cyflwyno rhaglen ar ddechrau'r 90au

Staff
Disgrifiad o’r llun,

Llun o staff presenol BBC Bangor i nodi'r 90 mlwyddiant

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig