BBC Bangor yn 90: Atgofion darlledu Dei Tomos

- Cyhoeddwyd
Pan gychwynnodd y darlledu o BBC Bangor yn 1935, y llais cyntaf i'w glywed oedd un o gewri hanes Cymru – David Lloyd George. Ers naw deg mlynedd mae darlledu wedi bod yn elfen bwysig o hanes dinas Bangor.
A chawr arall sydd wedi bod yn darlledu oddi yno ers sefydlu Radio Cymru yn 1977 yw'r darlledwr Dei Tomos.
Yma, ac mewn sgwrs ar raglen Aled Hughes, mae Dei yn rhannu ei atgofion o fod y tu ôl i'r meicroffon yn adeilad Bryn Meirion, Bangor.
Cyrraedd yn hwyr i gwis ysgolion
Yn 1977 wnes i ddechrau gweithio yno, fel roedd Radio Cymru'n cychwyn ond fe ddes i yma i ddarlledu ynghanol y 60au ar gyfer cwis ysgolion.
Mi o'n i a Huw fy ffrind wedi bod ar gefn beic rwla tua Llangollen yn gwylio'r Tour of Britain.
Ond ar y ffordd 'nôl i Fangor tua hanner awr wedi pump i gymryd rhan yn y cwis yma ar ran ysgol cownti Gaernarfon, Syr Hugh, dyma ni'n cyrraedd ochra Betws-y-coed a gwynt mawr yn ein herbyn ni a meddwl 'dan ni ddim am gyrraedd ac oedd y cwis yn fyw.
Dyma ffonio o giosg i'r BBC ym Mangor yn deud 'gwrandewch fyddwn ni byth yno, gymrwn ni dacsi'. A dyma'r tacsi yn cyrraedd pen llyn Ogwen, cymryd rhan yn y cwis - colli wnaethon ni os dwi'n cofio yn iawn - a wedyn trwy'r drws, drws yn cau ond wedyn doedd yna ddim tacsi a doedd dim modd cnocio'r drws.
Roedd rhaid i ni drefnu i J D Roberts, tad Huw, oedd yn weinidog yn Waunfawr i ddod i nôl ni a nôl y beics wedyn ar ôl cuddio nhw dros ben clawdd!

Dei yn sgwrsio gydag Aled Hughes yn 2017 ar raglen i ddathlu pen-blwydd yr orsaf yn 40
Disgo Dei a darlledu'r rhaglen gyntaf cyn Hywel Gwynfryn
Wedyn ces wahoddiad i gyflwyno rhaglen recordiau yn 1977. Roedd Radio Cymru yn dechrau bora dydd Llun 3 Ionawr 1977 ac oeddan nhw isio rhaglen dydd Sadwrn cynt ond hefyd isio recordio rhaglen awr bora Sadwrn yn lle rhaglen Hywel Gwynfryn sef Helo Bobol.
O'n i yn cerddad ar hyd stryd Y Bala a dyma ddau o wroniaid y BBC yn dod i 'nghwr i, Gwyn Williams ac Alwyn Samuel, dau gynhyrchydd ym Mangor.
'Dow sut mae'r hwyl, oeddan ni wedi meddwl cael gair efo chdi,' meddan nhw. Ro'n i'n mynd o amgylch y wlad pryd hynny yn cynnal disgo ac ambell ddawns gwerin dan yr enw Disgo Dei.
Mi ofynnon nhw i mi wneud tâp a dwi'n cofio bod yng Nglan-llyn Isa' ar y pryd lle ro'n i'n gweithio yn rhoi'r tâp at ei gilydd. Mi yrrish i o i mewn, roeddan nhw'n hapus hefo fo a felly ges i'r gwahoddiad.
Felly er mai ar y dydd Llun oedd Radio Cymru yn cychwyn yn swyddogol, mi roedd yna ddarlledu ar y dydd Sadwrn cynt hefyd. Mae'n bwysig i mi ddeud (gyda'n 'nhafod yn fy moch), mi fues i ar yr awyr cyn Hywel Gwynfryn achos o'n i yna ar y dydd Sadwrn, Richard Rees a finna' yn cael tair awr gan Meirion Edwards y golygydd!
Finna' yn Penrhyn Hall fel fydda' yn cael ei alw a Richard yng Nghaerdydd ac oedd gen i griw o bobl ifanc o 'nghwmpas i yn bob man tra ro'n i yn trio neud disgo am naw o'r gloch y bora, a chriw o brif swyddogion y BBC yn edrych ar Richard Rees fel fasa fo yn bysgodyn aur; felly y dechreuodd Disgo Dei ar yr awyr.

Dei (dde) yn ystod ei gyfnod yn gweithio yng Ngwersyll yr Urdd, Glan-llyn
Yn 1980 fe ddaeth y cyfle i fynd yn ohebydd i'r rhaglen deledu, Heddiw.
O'n i yn y lle iawn ar yr adag iawn ac o'n i wedi bod i Batagonia, chwech ohonan ni yn dringo yn cyfarfod pobl yn yr Andes a Phatagonia ac yn dringo mynyddoedd agos i Gwm Hyfryd. Wedyn oeddan nhw wrthi yn torri y ffilm yng Nghaerdydd ac o'n i wedi neud ambell i gyfweliad ar y ffilm.
Dyma'n ffôn i yn mynd b'nawn Gwenar a rhywun yn deud eu bod nhw isio gohebydd i Heddiw ac yn holi a oedd gen i ddiddordab.
Do'n i ddim yn newyddiadurwr, heb fawr o brofiad teledu ond yn malu awyr ar fora Sadwrn. Fe ges gynnig cyfweliad, ces gynnig y swydd ac fel ddeudodd rhywun; hanes ydi'r gweddill, weithia' yn wych, weithia' yn wachul!

Dei yn recordio rhaglen abennig o'r Rhondda ar gyfer ei raglen ddydd Sul sy'n cynnwys sgyrsiau am Gymru, ei phobl a'i diwylliant
BBC Bangor: 'Canolfan ynghanol pobl'
Mae'n bwysig cofio'r gwreiddiau, y bobl roddodd y sylfeini i'r BBC ym Mangor. Dwi wedi sôn am ddau sef Gwyn Williams ac Alwyn Samuel. Rhai eraill hefyd fel James Williams oedd yn cynhyrchu rhaglennu crefyddol ar fore Sul. Roedd rhain yn gynhyrchwyr arbennig.
Mi gafodd Harri Gwyn ei benodi i weithio ar Heddiw yn 1961 ac mi oedd ganddo fo beth mesur wy ar dop y camera fel fod o'n gwybod faint o amser oedd ganddo fo ar gyfer cyfweliad i gamera, a gorfod gyrru ffilm lawr i Gaerdydd tua amser cinio.

Recordio sgwrs gydag aelodau Mynediad am Ddim
Oedd yna hen ddadlau wedi bod am ganolfan tu allan i Gaerdydd; roedd Abertawe yn ganolfan arall yng Nghymru a roedd y bwrdd eisiau canolfan yn y gogledd.
Roedd yna ddadlau am Wrecsam neu Fangor ond yn sicr Bangor oedd y penderfyniad cywir. Oedd yna drwch o boblogaeth Gymraeg ei hiaith, dim cynrychiolaeth o'r ardaloedd yma wedi bod, ac roedd angen canolfan ynghanol pobl ac ynghanol gwrandawyr achos heb gysylltiad efo gwrandawyr, be' ydan ni yn da?
Fe ddaeth Bryn Meirion yn arbennig yn le arbennig iawn ac yn dŷ creadigol rhyfeddol.
Mae'r BBC ym Mangor wedi bod yn allweddol; pobl wedi dod i mewn i'r adeilad yma gan neud cyfraniad aruthrol o ran Cymreictod, o ran dyfeisgarwch, o ran diwylliant, ac mae darlledu Cymraeg dal 'run mor bwysig ag y buodd o erioed er fod yna fygythiada o lefydd eraill.

Hen adeilad y BBC ym Mangor
Gwrandewch ar Dei yn sgwrsio gydag Aled Hughes:
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
