Hen ffotograffau sy'n dangos bywyd yng Nghymru yn yr 1800au

Tas wair anferth, wedi ei dynnu gan John Dillwyn Llewelyn yn yr 1850au
- Cyhoeddwyd
Y dyddiau yma, mae'n bosib dogfennu bywyd bob dydd gydag un cyffyrddiad o ffôn symudol ac ychwanegu'r llun i'r miloedd sy'n y teclyn yn barod.
Roedd yn broses llawer mwy cymhleth yn nyddiau cynnar ffotograffiaeth a phrin oedd y bobl oedd yn gallu defnyddio'r cyfrwng newydd - heb sôn am allu fforddio'r cyfarpar.
Nawr mae Amgueddfa Cymru wedi rhyddhau rhai o'r ffotograffau cynharaf yn eu harchif, nifer yn dogfennu bywyd yr 1800au a dechrau'r 1900au, sydd am ddim i'r cyhoedd.
Mae'r lluniau yn rhan o blatfform Delweddau Amgueddfa Cymru, dolen allanol sy'n cynnwys dros 2,000 o eitemau, o waith celf i luniau o gasgliadau cenedlaethol.
Maen nhw ar gael i'w lawrlwytho am ddim o'r wefan at ddefnydd masnachol ac anfasnachol. Dyma rai o'r hen ffotograffau yn y casgliad sy'n rhoi cipolwg o fywyd yng Nghymru sydd wedi hen ddiflannu.

Merched ariannog yr 1850au yng ngerddi Penllergare House, cartref moethus yn ardal Abertawe sydd bellach wedi ei ddymchwel. Fe gafodd y llun ei dynnu gan y perchennog, y diwydiannwr John Dillwyn Llewelyn oedd yn ymddiddori mewn ffotograffiaeth yn nyddiau cynnar y cyfrwng

Llun hanesyddol - y ffotograff cynharaf o ddyn eira. Fe gafodd ei dynnu tua 1854 gan Mary Dillwyn, oedd yn chwaer i John Dillwyn, ac yn un o'r merched cyntaf i dynnu ffotograffau

Llongau hwylio yn harbwr Aberdaugleddau rhwng 1855-1860. Cafodd y llun ei dynnu gan Y Parchedig Francis Lockey, un o'r bobl cyntaf yn ardal Bath i ymddiddori yn y cyfrwng newydd

Llun arall gan Y Parch Francis Lockey o ochr gorllewinol tref Aberdaugleddau

Fe gafodd y llun yma o weithfeydd dur Cyfarthfa ei dynnu gan y perchennog Robert Thompson Crawshay yn yr 1870au. O flaen y ffwrneisi ar y dde mae teisi gwair i fwydo'r cannoedd o geffylau oedd yn cael eu defnyddio yn y gweithfeydd

Llun arall gan Robert Thompson Crawshay, y tro yma o ddefaid yn cael eu trochi mewn afon - fwy na thebyg yn Aberhonddu

Cerbydau trochi ger Ynys Catrin yn Ninbych-y-Pysgod. Oherwydd moesau cyfnod Oes Fictoria, roedd cytiau pren ar olwynion yn boblogaidd er mwyn rhoi preifatrwydd i ferched oedd eisiau nofio yn y môr. Llun o tua 1850 gan John Dillwyn Llewelyn
Storio gwerth 150 mlynedd o hanes... cyn i'r adeiladwyr gyrraedd
- Cyhoeddwyd25 Medi 2024
'Dod â hud Ffair Y Bala yn ôl': Ydych chi'n cofio'r bwrlwm?
- Cyhoeddwyd22 Hydref
'Sanffaganaidd' ymhlith cannoedd o eiriau newydd i'r geiriadur
- Cyhoeddwyd19 Awst

Dynion yn modrwyo huganod ifanc. Mae'r llun wedi ei dynnu gan Arthur Brook, o Lanfair-ym-Muallt, un o'r ffotgraffwyr byd natur gorau yn hanner cynta'r ganrif diwethaf. Fe ddechreuodd dynnu lluniau yn 1909

Ffotograff arall gan Arthur Brook

Ffotograff gan Dixon Hewitt o stryd ym mhentref Llangadog yn 1907

Golygfa amserol - ond un sy'n llai cyffredin y dyddai yma - sef Guto Ffowc ar goelcerth. Cafodd y llun yma ei dynnu yn 1853 gan John Dillwyn Llewelyn

Picnic ar y mynydd gan John Dillwyn Llewelyn
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.