Cofio anifeiliaid y Rhyfel Byd Cyntaf

Milwr gyda dau geffylFfynhonnell y llun, Wikipedia
  • Cyhoeddwyd

Yn ystod Y Rhyfel Byd Cyntaf, gwasanaethodd tua 280,000 o ddynion Cymru yn y lluoedd arfog gyda 40,000 ohonynt yn colli eu bywydau. Trwy gydol y pedair blynedd o ymladd, roedd anifeiliaid yn hanfodol i'r ymdrech ryfel; yn cynorthwyo milwyr ar y rheng flaen yn ogystal â chynnig cysur a chwmnïaeth.

I nodi Sul y Cofio, yr hanesydd Elin Tomos sy'n bwrw golwg ar brofiadau milwyr o Gymru gydag anifeiliaid yn ystod y Rhyfel Mawr:

Ceffylau

Y ceffyl oedd un o anifeiliaid allweddol y Rhyfel Byd Cyntaf. Erbyn 1917, roedd y Fyddin Brydeinig yn defnyddio dros 368,000 o geffylau ar draws Ffrynt y Gorllewin.

Roedd y mwyafrif helaeth o'r rheiny'n geffylau pwn (pack horses) yn hytrach na cheffylau y marchoglu ac yn cael eu defnyddio ar gyfer cludo milwyr, cyflenwadau ac arfau, yn ogystal â thynnu cerbydau amrywiol megis ambiwlansys.

Defod gyffredin yn ystod y Rhyfel Mawr oedd yr arfer o argraffu llythyrau gan filwyr yn y papurau newydd. Ym mis Awst 1915, argraffwyd llythyr gan Dr Thomas Carey Evans, o Flaenau Ffestiniog a oedd yn gwasanaethu fel meddyg yn ardal y Dardanelles – llain gul o ddŵr 61km o hyd sy'n gwahanu cyfandiroedd Ewrop ac Asia – ym mhapur newydd Y Drych.

Yn ei lythyr mae Thomas yn disgrifio'r boen o orfod tynnu shrapnel o goes ei "was ffyddlon", sef ei geffyl. Eglurodd bod ei geffyl wedi aros yn berffaith lonydd iddo ac yn ymddangos 'fel pe [bai'n] gwybod [ei] fod yn gwneyd tro da iddo.'

At ei gilydd, bu farw tua wyth miliwn o geffylau yn ystod y rhyfel.

Camelod

Yn y Dwyrain Canol a gogledd cyfandir Affrica defnyddiwyd camelod at sawl diben. Yn wahanol i geffylau, roedd gan gamelod y gallu i oroesi a ffynnu yn y diffeithwch. Defnyddiwyd camelod ar gyfer cludo cyflenwadau, arfau a milwyr – gan gynnwys y rheiny a oedd wedi'u clwyfo.

Ambiwlans yn cael ei dynnu gan gamelodFfynhonnell y llun, The Illustrated London News
Disgrifiad o’r llun,

Ambiwlans yn cael ei dynnu gan gamelod yn yr Aifft yn 1917

Yn 1916, ffurfiwyd Corfflu Camelod Ymerodrol (Imperial Camel Corps) i gefnogi'r ymdrech ryfel yn erbyn lluoedd yr Otomaniaid yn y rhanbarth.

Ymunodd Preifat Evan Lewis o Dregaron â Chorfflu Camelod Ymerodrol ym mis Chwefror 1916. Bu'n gwasanaethu ar benrhyn Sinai yn Yr Aifft ac ym Mhalestina. Er iddo oroesi i weld diwedd y rhyfel, cafodd Evan ei daro'n wael wrth deithio adref o'r Dwyrain Canol a bu farw o effeithiau'r ffliw mewn ysbyty yn Turin, Yr Eidal ar 10 Ebrill 1919.

Roedd camelod hefyd yn cynnig adloniant i'r milwyr. Ar Ddydd Gŵyl Dewi 1916 cafodd Preifat Thomas Thomas o Nantperis ger Llanberis a'i fataliwn ginio gwerth chweil yng Nghairo i ddathlu'r achlysur.

Mewn llythyr at gyfeillion yng Nghaernarfon esboniodd Thomas eu bod wedi cael "sports ardderchog… gyda rasus camelod a rasus mulod, a llawer o bethau eraill." Nid oedd Thomas wedi bod adref ers deunaw mis.

Cŵn

Roedd cŵn hefyd yn chwarae rhan bwysig yn yr ymdrech rhyfel. Fe'u defnyddiwyd fel negeswyr, gwarchodwyr, chwilwyr a chynorthwywyr meddygol, gyda hyd at 20,000 o gŵn yn cael eu defnyddio gan Fyddin Prydain yn unig.

Milwr a chiFfynhonnell y llun, T K Aitken

Ym mis Rhagfyr 1914, ym mhapur newydd Y Genedl, cyhoeddwyd rhai o argraffiadau milwr dienw a oedd wedi gwasanaethu gyda'r Ffiwsilwyr Cymreig ond oedd bellach yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Stanley, Lerpwl.

Yn yr erthygl mae'r milwr yn cyfeirio at y ffaith ei fod wedi llwyddo i ddal un o gŵn yr Almaenwyr ac wedi dechrau dysgu Cymraeg iddo. Yn ôl y milwr "cyn pen ychydig ddyddiau yr oedd yn ufuddhau i orchmynion Cymraeg fel pe buasai wedi cael ei ddwyn i fyny yn Nhon-y-pandy!"

Cathod

Roedd gan gathod ddyletswyddau pwysig yn ystod y rhyfel hefyd. Yn y ffosydd, caent eu defnyddio i ddifa pla gan gynnwys llygod mawr a oedd yn lledaenu afiechydon ac yn bwyta cyflenwadau bwyd.

Yn y llynges, roedd cathod yn lladd llygod rhag iddynt gnoi trwy wifrau cyfathrebu. Roedd cred gyffredin ymhlith morwyr bod cael cath ar long yn dod a lwc dda.

Milwr a chathFfynhonnell y llun, John Warwick Brooke
Disgrifiad o’r llun,

Milwr Prydeinig gyda chath fach yn Arras, Ffrainc yn 1918

Aeth un Cymro cyn belled â dweud bod cath wedi achub ei fywyd. Ym mis Hydref 1914, derbyniodd Syr Marteine Owen Mowbray Lloyd, 2il Farwnig, Bronwydd ger Llangynllo'r newyddion bod ei fab ac etifedd, Marteine Kemes Arundel Lloyd, wedi cael ei ladd yng Ngwlad Belg.

Ymhen ychydig wythnosau, derbyniodd y teulu neges arall gan y Swyddfa Ryfel yn egluro bod camgymeriad wedi digwydd ac er ei fod wedi'i anafu, roedd Marteine yn fyw. Yn ôl Marteine, wedi iddo gael ei anafu cafodd ei wahanu oddi wrth ei gatrawd a bu'n rhaid iddo geisio lloches mewn beudy gerllaw.

Pan ddaethpwyd o hyd iddo ymhen tridiau wedi ymlâdd ac mewn cyflwr peryglus roedd ei gyd-filwyr wedi synnu i weld cath fach wedi lapio'i hun o amgylch ei wddf. Roedd Marteine yn grediniol y byddai wedi marw oni bai am gysurwch a chynhesrwydd y gath fach.

Eleni, wrth syllu ar y rhestrau maith o enwau sydd wedi'u naddu ar gofebau rhyfel ledled y wlad mae'n werth cofio hefyd am y creaduriaid ffyddlon a fu'n gysur ac yn gefn yn nhrymder y gyflafan.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.