Ifan Evans: 'Y cysylltiad arbennig rhwng dyn a'i gi'

Ifan pan yn ffermwr ifanc a'i gi ffyddlon Nan
- Cyhoeddwyd
Mewn wythnos pan mae'r pêl-droediwr Aaron Ramsey wedi sôn am faint oedd ei gi Halo, sy' ar goll ym Mecsico, yn golygu iddo fe a'r teulu, mae Cymru Fyw wedi holi'r cyflwynydd a'r perchennog cŵn defaid Ifan Evans am beth sy'n arbennig am berthynas dyn gyda'i gi:
Mae 'na gysylltiad hynod o arbennig rhwng bugail a'i gi a rhwng person a'i gi.
S'dim amheuaeth fod perthynas arbennig rhwng Aaron Ramsey a'i gi – gydag Aaron wedi teithio gymaint yn ystod ei yrfa mae'n anodd symud y teulu bob amser ond o'r hyn dwi'n ddeall, roedd Halo gyda fe bob tro a dyna oedd ei safety net mewn ffordd.
Dwi'n dod o bersbectif ffarmwr lle mae'r cŵn yn gŵn gwaith ond yn yr un modd mae'r cŵn ar y fferm hefyd yn sicr yn ran o'r teulu ac o ddynamig y teulu ac maen nhw'n fwy na jest cŵn sy'n gweithio.

Aaron Ramsey a'i gi Halo
Cadw cwmni
Yn aml amser ŵyna ac ar gyfnodau prysur yn cneifio ac ar y mynydd maen nhw gyda ti trwy'r dydd yn gwmni ar gefn y beic ac maen nhw mor ufudd.
Maen nhw'n gwmni hefyd pan ti'n cael diwrnod caled ar y fferm, a pethe ddim yn gweithio fel dylen nhw falle – y tywydd yn erbyn ti adeg y ŵyna, colli ŵyn i'r tywydd – ond mae ci defaid dal yna gyda ti ac yn atgoffa ti fod rhaid cadw fynd.
'Rhywbeth sbeshal'
Maen nhw yna ac yn ffrind i ti. Ni wedi cael cŵn ar y fferm ar hyd y blynyddoedd a dwi'n grediniol fod rhai o nhw wir yn gallu deall yr hyn ni'n dweud yn llythrennol.
Maen nhw'n edrych i fyw dy lygaid di ac maen nhw'n ymateb – ti'n gwenu a bron iawn ti'n gweld nhw'n gwenu yn ôl atat ti. Mae rhywbeth sbeshal iawn am gi ac maen nhw wastad yn falch i weld ti, fel ni gyd yn gwybod.
Maen nhw gyda ti drwy'r amser fel ffarmwr ac maen nhw'n rhan o dy fywyd di. Maen nhw'n ran o'r teulu.

'Maen nhw gyda ti trwy'r dydd yn gwmni'
Mae colli nhw yn emosiwn fel galar – pan fuodd Nan farw roedd hi'n ergyd fawr ac oedd y plant yn hynod o ypset. Ac oedd rhaid 'neud yn siŵr fod ni'n claddu Nan yn iawn a ni dal yn siarad amdani.
Yn sicr bydd Aaron Ramsey yn galaru ei gi. Mae'n ergyd fawr iddo. Ac hefyd ddim gwybod lle mae'r ci – mae'n sefyllfa dorcalonnus.
Synhwyro teimladau
Mae ast arbennig gyda fi o'r enw Casi ac mae hi'n gallu synhwyro sut fath o hwyl sy' arno ti gwed bod rhyw ddefaid wedi dianc trwy rhyw dwll neu ffens. Mae hi'n synhwyro pan ti'n grac, ti'n gallu gweld y ffordd mae'n ymateb i ti.
Dwi wedi bod yn hynod o ffodus a dwi wedi cael cŵn arbennig – oedd Nan yn ast gwbl rhyfeddol, oedd hi fel person ar adegau ac yn deall beth o'n i'n dweud wrthi ac yn ymateb i'r hyn o'n i'n dweud. Ti'n creu rhyw fond arbennig.

Casi
Pero oedd y ci cynta' a dwi'n cofio Glen pan o'n i'n dechrau dangos diddordeb mewn amaethyddiaeth yn 10 oed; oedd Glen yn gi anhygoel.
Roedd Mot wedyn yn gi addfwyn iawn wnaeth datblygu yn hwyrach mewn bywyd i fod yn gi gwaith. Fuodd Gwen yr ast las yn ast rhyfeddol.
Yn y blynyddoedd diwethaf mae Nan a Casi yn sefyll allan am eu gallu nhw a'u empathi nhw tuag ata'i a'r ffordd maen nhw gyda'r plant.
Mae'r plant yn fach ac yn gallu bod yn weddol ryff gyda nhw weithiau a'n gafael yn eu clustiau nhw ond maen nhw'n oddefgar iawn.
Mae cŵn yn sbeshal.

Un o blant Ifan a Gwen yr ast las
Cŵn fferm
Mae'n bwysig i ofalu amdanyn nhw achos maen nhw'n roi gymaint i ni ac yn gweithio mor galed i ni, mae'n bwysig bod nhw'n cael y gofal gorau posib.
Mae 'na do newydd yn dod trwyddo ar y ffarm nawr. Dwi wedi prynu ast fach newydd sef Jini yn ddiweddar ac mae hi'n edrych yn addawol.

Jini y ci newydd yn dechrau dangos diddordeb mewn defaid
Mae hi'n rhan mawr o'r teulu yn barod ac mae'r plant yn sbwylio hi. Ond mae rhaid neud yn siŵr fod y plant ddim yn sbwylio hi gormod neu fydd hi ddim ishe gweithio.
I unrhyw ffermwr, ci ffarm yw'r buddsoddiad gorau 'newch chi a'r peth pwysicaf ar y fferm. Mae quad bikes a pheiriannau tebyg yn handi ond s'dim byd tebyg i gael ci da a chi ufudd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2023

- Cyhoeddwyd23 Mai 2024
