Sul y Cofio: 'Meddwl am ffrindiau na sydd yma fyddai i'

Sion PrysorFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Gadawodd Siôn Prysor Williams y fyddin ar ôl bron i ddegawd o wasanaeth

  • Cyhoeddwyd

Ar Sul y Cofio dywed cyn-filwr o Lanrug ger Caernarfon bod y diwrnod yn bwysig iddo fe wrth iddo gofio am ffrindiau "na sydd efo ni mwyach".

Ymunodd Siôn Prysor Williams â'r Gwarchodlu Cymreig yn 17 oed ac fe dreuliodd amser yn Afghanistan, Irac a Kenya.

"Dwi'n teimlo'n reit drist ar adegau yn meddwl am yr holl bobl sydd ddim yma dim mwy a sydd wedi rhoi eu bywydau er mwyn gwella bywydau eraill mewn gwledydd diarth," meddai.

"Mae'n ddiwrnod i sbio nôl ar atgofion da."

Ers i Siôn adael y fyddin, mae wedi colli dau o'i ffrindiau o'r catrawd wedi iddyn nhw farw drwy hunanladdiad.

"Pan fyddai o flaen y cenotaph dydd Sul, nhw fydd yn fy meddwl i," meddai.

Dywed Cymdeithas y Cymod sy'n ymgychu o blaid heddwch ei bod yn "bwysig parchu milwyr a fu drwy'r drin ond bod lle i amau cymhellion gwleidyddol pan mae yna feddylfryd rhyfelgar yn cyniwair a gwariant ar arfau ar gynnydd".

Yn gynharach eleni, addawodd Llywodraeth y DU gynyddu gwariant amddiffyn o 2.3% i 2.5% o incwm cenedlaethol erbyn 2027, sy'n golygu gwario £13.4bn yn fwy bob blwyddyn tan hynny.

Llun yn dangos pabis coch wedi'u gwau yn llifo ar hyd ffens ac i lawr i'r llawr.Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r pabi wedi bod yn symbol o Sul y Cofio ers ddiwedd yr Ail Rhyfel Byd.

Bob blwyddyn mae Siôn Prysor Williams yn mynd i Gaernarfon ar Sul y Cofio gyda'i dad a'i frawd.

"Lawr yn Gaernarfon mae pobol yn dod allan yn eu cannoedd i ddangos parch ac i gofio teulu neu ffrindiau," ychwanegodd.

Roedd tad ac ewythr Siôn hefyd yn y fyddin, ac mae ei dad "dal wrthi yn y reserves".

"I fi mae gweld y wlad yn dod at ei gilydd unwaith y flwyddyn yn wych."

Rhes o 3 pabi gwyn efo'r gair 'hedd' yn y canol ar gefndir gwyn.Ffynhonnell y llun, Peace Pledge Union
Disgrifiad o’r llun,

"Gweithred symbolaidd dros heddwch yw gwisgo'r pabi gwyn" medd Cymdeithas y Cymod

Mewn datganiad dywedodd Robat Idris, cadeirydd Cymdeithas y Cymod: "Yn syml, mae rhyfeloedd yn dal i ddigwydd, mae milwyr a'u teuluoedd a cheraint yn dal i ddioddef, a ni ddylid fyth anghofio y milwyr a gollodd eu bywydau."

Ond dywed ei fod yn poeni bod nifer o "seremonïau yn gallu bod yn rhwysgfawr" a mai'r hyn ddylai ddigwydd yw "cofio'r gorffennol a dysgu'r wers mai dioddefaint a chasineb yw gwaddol rhyfel, ac y dylem wneud popeth posib i'w osgoi."

Ychwanegodd Siôn Prysor ei bod yn bwysig cofio'r hanes "er mwyn gwneud yn siŵr fod rhyfeloedd mawr sydd wedi bod ddim yn digwydd eto".

Ers blynyddoedd mae Cymdeithas y Cymod wedi cydweithio gydag undeb Peace Pledge i ddosbarthu fersiwn Cymraeg o'r pabi gwyn gyda'r gair "hedd" yn y canol.

"Erbyn hyn, gwell gan lawer wisgo'r pabi gwyn, sy'n cofio pawb a laddwyd mewn rhyfel, nid milwyr yn unig," medd Robat Idris.

"Gwyddom fod rhyfeloedd cyfoes yn lladd dinasyddion diniwed sy' ddim yn filwyr ar raddfa llawer mwy na mae nhw'n lladd milwyr."

Eleni mae Cymdeithas y Cymod wedi anfon pabi gwyn i dros 30 lleoliad newydd er mwyn "dangos yn glir yr alwad am heddwch yn ein cymunedau".

Mewn sawl seremoni ddydd Sul bydd y pabi gwyn a'r pabi coch gwreiddiol yn cael eu gweld ochr yn ochr a bydd y torchau a fydd yn cael eu gosod yn cynnwys y ddau babi.