Guto Harri: 'Dwi wedi pleidleisio i bedair plaid wahanol'

Guto Harri gyda Boris Johnson yn 2009 pan oedd yn gyfarwyddwr cyfathrebu i Faer Llundain
- Cyhoeddwyd
Mae Guto Harri, cyn-gyfarwyddwr cyfathrebu Boris Johnson, wedi dweud ei fod wedi pleidleisio i bedair plaid wahanol dros y blynyddoedd.
Fel aelod o dîm Mr Johnson pan oedd o'n Brif Weinidog ac yn Faer Llundain dros y Ceidwadwyr, mae Mr Harri yn cael ei gysylltu, yn aml, gyda'r Blaid Dorïaidd.
Mae ei gysylltiad gyda'r gwleidydd yn mynd yn ôl i'w ddyddiau coleg ym Mhrifysgol Rhydychen ble'r oedd y ddau yn astudio yn yr 1980au a bu'n gweithio'n agos gydag o dros gyfnod o bum mlynedd ddegawdau yn ddiweddarach.
Ond mewn cyfweliad ar Rhaglen Sounds Tudur Owen dywedodd nad oedd yn ddyn un blaid.

Roedd Guto Harri yn siarad efo'r cyflwynydd a'r digrifwr Tudur Owen
Wrth ymateb i gyhuddiad ei fod yn "chwifio fflag dros ei dîm", y Ceidwadwyr, meddai: "Ond dydi fy nhîm i... os oes y fath beth yn bod achos dwi wedi pleidleisio i bedair plaid gwahanol fel oedolyn."
Ac ychwanegodd nad oedd wedi cytuno gyda nifer o bolisïau'r Blaid Geidwadol ers i Johnson adael Rhif 10.
"Yn anffodus (y cyn-Brif Weinidog) Rishi Sunak ddechreuodd hyn," meddai.
"Rishi Sunak ganslodd HS2, rhywbeth oedd yn sylfaenol bwysig i Boris pan oedd o'n gwthio amdano fo achos roedd o i wneud hefo rhannu golud y de-ddwyrain hefo'r gogledd a'i gwneud hi'n haws i bobl yn y gogledd i fod yn rhan o'r economi fwya' deinamig yn y byd, sef de-ddwyrain Lloegr."
Ychwanegodd nad oedd yn cytuno gyda rhai o bolisïau Mr Sunak nac arweinydd presennol y Torïaid Kemi Badenoch ar yr amgylchedd, er enghraifft gohirio'r gwaharddiad ar geir newydd petrol a diesel.
Meddai: "Maen nhw wedi colli'r plot i raddau helaeth ar hynna ac ar lot o bethau eraill."
Mae Ms Badenoch wedi ymrwymo i wyrdroi'r Ddeddf Newid Hinsawdd petai'r Ceidwadwyr yn ffurfio llywodraeth yn San Steffan. Dywedodd bod cyrraedd sero net erbyn 2050 yn amhosib ac yn niweidio'r economi.
Angen 'rhywbeth gwahanol' ar Gymru
Yn ei gyfweliad, sy'n cael ei ryddhau ar BBC Sounds ar 12 Tachwedd, dywedodd hefyd bod angen newid y blaid sy'n llywodraethu ym Mae Caerdydd yn yr etholiad flwyddyn nesaf.
Meddai: "Un o'r pethau sy'n bendant ddim yn iach mewn democratiaeth ydi bod yr un tîm yn ennill dro ar ôl tro ar ôl tro.
"Mae'n rhaid i ni gael rhywbeth gwahanol flwyddyn nesaf yng Nghymru, p'un ai yw hwnna'n Plaid Cymru ar y blaen neu mae 'na ddadl hyd yn oed os nad wyt ti'n licio Reform bod angen chwalu'r system a gwneud rhywbeth gwahanol."
Yn isetholiad Caerffili ar 23 Hydref fe gollodd Llafur sedd maen nhw wedi ei dal ers dros ganrif. Plaid Cymru oedd yn fuddugol gyda Reform yn ail.
Wrth ymateb dywedodd Prif Weinidog y Senedd Eluned Morgan bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni blaenoriaethau pobl Cymru, ond bod ganddyn nhw fwy o waith i'w wneud a bod yn rhaid iddyn nhw "symud ymlaen yn gynt ac yn bellach".
Guto Harri - y Cymro yn Rhif 10
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2022
Dy Lais, Dy Bleidlais
- Cyhoeddwyd1 Hydref
Roedd Guto Harri yn newyddiadurwr gyda'r BBC am nifer o flynyddoedd gan weithio fel prif ohebydd gwleidyddol yn San Steffan, a gohebydd yn Rhufain a Gogledd America. Gadawodd y gorfforaeth yn 2007 i ddechrau ar yrfa yn y byd cysylltiadau cyhoeddus.
Gweithiodd fel pennaeth cyfathrebu a phennaeth staff Mr Johnson yn ystod ei dymor cyntaf fel Maer Llundain rhwng 2008 a 2012. Aeth yn ei flaen i fod yn gyfarwyddwr cyfathrebu News UK, cwmni Rupert Murdoch, yn y cyfnod yn dilyn y sgandal hacio ffonau.
Fe gafodd alwad i fynd yn ôl i weithio gyda Mr Johnson yn 2022 mewn cyfnod cythryblus i'r Prif Weinidog yn dilyn cyhuddiadau am bartïon yn Downing Street tra bod cyfyngiadau Covid mewn grym.
Yn ei gyfweliad ar Raglen Tudur Owen, dywedodd Mr Harri mai fo oedd y person olaf i siarad gyda Boris Johnson cyn ei gyhoeddiad dadleuol yn 2016 ei fod yn cefnogi Brexit.
Meddai: "Fi oedd y person olaf i siarad hefo fe cyn iddo fe fynd mas a datgan pa ochr oedd o.
"Roedd ei chwaer e wedi ffonio fi, o'n i ar wyliau ar y pryd yn sgïo, a dweud 'You're the only one who can talk him out of this at this stage'.
"A ffonies i e. Ac mae e wedi rhoi hyn yn ei hunangofiant nawr, jest cyn mynd allan i siarad hefo'r wasg bo' fi wedi ffonio a dweud 'If you do this, you will ruin the country and you will ruin yourself'… a bod e wedi cael wobble."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.