Gŵyl Cerdd Dant: Cipolwg ar ddiwrnod da yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd

Aberystwyth oedd cartref Gŵyl Cerdd Dant 2025 a ddydd Sadwrn fe heidiodd tyrfa yno o'r de a'r gogledd.

Mae'r canlyniadau i'w gweld yn llawn ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol 'Gŵyl Cerdd Dant Aberystwyth' a 'Cymdeithas Cerdd Dant Cymru'.

Dyma flas o'r diwrnod y tu hwnt i'r llwyfan.

Roedd hi'n hanner nos ond Nia Clwyd wrth ei bodd wedi i'w chôr Lleisiau Tywi ennill cystadleuaeth y Côr Cerdd Dant Agored
Disgrifiad o’r llun,

Roedd hi'n hanner nos ond Nia Clwyd wrth ei bodd wedi i'w chôr Lleisiau Tywi ennill cystadleuaeth y Côr Cerdd Dant Agored

Soar
Disgrifiad o’r llun,

Bu Merched Soar o ardal Tregaron yn cystadlu yn gyson gydol y dydd - a dyma rai o aelodau y Côr Alaw Werin yn paratoi i fynd i'r llwyfan. Roedd 'na wenu hefyd wedi'r gystadleuaeth wedi iddyn nhw ddod yn ail i Gôr Merched Canna

Tawerin
Disgrifiad o’r llun,

Tawerin o Abertawe yn gwenu wedi iddyn nhw ennill y gystadleuaeth i Barti Dawns Agored

Tara, 11 wrthi yn paratoi gwallt Glain, 14, cyn y grŵp stepio
Disgrifiad o’r llun,

Tara, 11 wrthi yn paratoi gwallt Glain, 14, cyn y grŵp stepio

Glanaethwy
Disgrifiad o’r llun,

'Rhaid cael selffi' - dyma rai o ferched Côr Glanaethwy a fu'n brysur iawn yn ystod y dydd

Mared
Disgrifiad o’r llun,

Bu'r beirniaid yn hynod brysur - yn eu plith y ferch leol Mared Pugh Evans - telynores y Brenin

Branwen
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna lwyddiant dwbl i Branwen Medi Jones wedi iddi ennill yr Unawd Alaw Werin a'r Unawd Cerdd Dant o dan 21 oed

Henry Richard
Disgrifiad o’r llun,

Disgyblion Ysgol Henry Richard yn Nhregaron yn wên o glust i glust wedi iddyn nhw ennill y parti llefaru 12 oed ac iau

Glanaethwy
Disgrifiad o’r llun,

Glanaethwy oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth Cyflwyniad Amlgyfrwng

clocsio
Disgrifiad o’r llun,

Yn barod i glocsio ar y llwyfan mawr

Penweddig
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y rhagbrofion yn Ysgol Gyfun Penweddig a dyma ddwy o'r athrawon yn cadw trefn

Plastaf
Disgrifiad o’r llun,

Parti Eiriana o Gaerdydd yn falch o weld bod eu parti gwerin wedi cael llwyfan

telynau
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna delynau rif y gwlith yng Nghanolfan Hamdden Plascrug ddydd Sadawrn - dyma Ysgol Delyn Cambria

Marchan
Disgrifiad o’r llun,

Am drefnus Meibion Marchan o ardal Rhuthun!

Drudwns
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna frwdfrydedd mawr yn lleol - dyma barti llefaru y Drudwns o Aberystwyth wedi iddyn nhw gipio'r ail wobr. Dau barti arall o Geredigion a gipiodd y wobr gyntaf a'r drydedd wobr sef Parti Dal Hi a Pharti Hedyn - y ddau o Ysgol Bro Pedr

Fflachfob!

Roedd yna gryn gyffro yn ystod y prynhawn wrth i fflachfob (flashmob) godi o'r gynulleidfa i ganu gosodiad Bethan Bryn o englynion coffa Alan Llwyd i Saunders Lewis.

Côr Pantycelyn - enillwyr Côr Gŵyl Cerdd Dant Aberystwyth 1983 oedd y fflachfob - a do mi gafodd Bethan Bryn gryn sioc.

Bethan Antur oedd y prif drefnydd a dyma y ddwy yn gwenu'n braf wedi'r syrpreis.

Bethans
Disgrifiad o’r llun,

Bethan Bryn a Bethan Antur - dwy gerdd-dantwraig o fri wrth eu boddau wedi perfformiad côr buddugol Neuadd Pantycelyn yn 1983 brynhawn Sadwrn

Seithenyn
Disgrifiad o’r llun,

Bu'r dawnswyr lleol yn brysur hefyd - dyma rai o ddawnswyr Seithenyn a'i hyfforddwraig Alaw Griffiths

Rocet a Helen
Disgrifiad o’r llun,

Do bu'n ddiwrnod da, medd ysgrifennydd y pwyllgor lleol Helen Medi Williams a'r cadeirydd Arwel Rocet Jones