Cam-drin henoed: 'Angen deddf'
- Cyhoeddwyd
Mae elusen wedi dweud y dylai'r awdurdodau gael eu gorfodi i ymchwilio i bryderon am gam-drin yr henoed.
Dywedodd Age Cymru nad oedd dyletswydd gyfreithiol ar gynghorau, byrddau iechyd na'r heddlu i gymryd camau.
Mae Gwenda Thomas, Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi dweud bod Llywodraeth Cymru'n ymroddedig i gyflwyno deddfwriaeth.
Dywedodd Cyfarwyddwr Datblygu Rhaglenni'r elusen, Victoria Lloyd, fod "pryderon difrifol" am ei bod yn anodd i awdurdodau lleol gasglu gwybodaeth a chydweithio ag asiantaethau.
Diangen
Roedd hyn, meddai, yn arwain at oedi diangen wrth amddiffyn dioddefwyr a thaclo cam-drin.
"Rydyn ni'n amcangyfri bod 39,000 yng Nghymru'n diodde oherwydd cam-drin yn eu cartrefi eu hunain," meddai.
"Mae angen cymryd camau ar frys."
Dywedodd yr elusen eu bod yn gwybod am un achos lle oedd cynhaliwr wedi mynd â hyd at £100,000 o gynilion.
"Fe aeth â'r cwbl," meddai merch y fenyw, 'Marilyn,' wrth raglen Eye on Wales.
"Roedd yn tynnu'r arian allan cyn y byddai'r debydau uniongyrchol yn cael eu talu.
"Pan ddywedon ni wrthi beth oedd yn digwydd fe geisiodd hi ei amddiffyn. Teyrngarwch, siwr o fod."
'Yn chwerw'
Dywedodd fod y gweithiwr cymdeithasol yn gwybod beth oedd yn digwydd.
"Dwi'n chwerw iawn - oherwydd yr hyn wnaeth y cynhaliwr. Fe fyddai'n well pe bai wedi cael ei erlyn."
Dywedodd Mrs Thomas: "Fe fydda i'n cyflwyno'r Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Hydref.
"Felly ym mis Ionawr fe fyddwn ni'n ceisio barn am gynnwys y mesur."
Dywedodd ei bod yn gobeithio y byddai'r Coleg Nyrsio Brenhinol ac Age Cymru'n cymryd rhan yn y broses.