Cwmnïau’n manteisio ar haelioni’r cyhoedd
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion Sir Ddinbych wedi derbyn rhybudd i fod yn ofalus wrth roi dillad ail-law i'r rhai sy'n dweud eu bod yn elusennau yn ymwneud â gwledydd tlawd y byd.
Yn ôl adran safonau masnach Cyngor Sir Ddinbych, mae rhai o'r casgliadau yma yn cael eu trefnu gan gwmnïau masnachol fydd yn gwerthu'r dillad tramor, yn hytrach na'i chynnig nhw am ddim i'r rhai sydd angen cymorth.
Mae'r cyngor am atgoffa pawb bod yna elusennau swyddogol sydd yn casglu dillad er lles y gymuned a'u bod yn colli allan i'r cwmnïau sy'n camarwain y cyhoedd.
Eu cyngor yw sicrhau bod yr elusen yn un swyddogol wrth weld os ydynt wedi eu cofrestru gyda'r Comisiwn Elusennol.
Mae'r cyngor hefyd yn dweud bod elusennau lleol fel arfer yn dosbarthu bagiau casglu yn rheolaidd, ac felly dylid edrych yn fanwl ar gwmni newydd sy'n cynnig bagiau yn ddirybudd.