James Hook i fethu gêm Awstralia
- Cyhoeddwyd
Ni fydd James Hook ar gael i chwarae i Gymru yn erbyn Awstralia ar Ragfyr 3 yn Stadiwm y Mileniwm.
Mae Hook, Mike Phillips a Lee Byrne bellach yn chwarae yn Ffrainc, tra bod Craig Mitchell, Andy Powell a Dwayne Peel yn chwarae yn Uwchgynghrair Lloegr.
Does dim rhaid i glybiau y tu allan i Gymru ryddhau eu chwaraewyr ar gyfer gemau rhyngwladol sydd ddim yn digwydd ar ddyddiadau swyddogol y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol oni bai bod eu cytundebau gyda'r clybiau yn caniatáu.
Mae clwb Hook, Perpignan, yn wynebu Lyon yng nghynghrair 14 Ffrainc ar y diwrnod y mae Cymru'n wynebu Awstralia yng Nghaerdydd.
Y cyn-Walch yw'r cyntaf o garfan Cymru sy'n chwarae dramor i gael clywed na fydd yn cael chwarae.
Mae rhanbarthau Cymru i gyd wedi cytuno i ryddhau eu chwaraewyr ar gyfer ail chwarae'r gêm am y trydydd safle yng Nghwpan y Byd.
Bydd clwb Mike Phillips, Bayonne, yn wynebu Agen yn Ffrainc ar Ragfyr 3, tra bod Clermont Auvergne - cartref newydd Lee Byrne - yn wynebu Castres.
Y tebygrwydd yw y bydd Andy Powell a Dwayne Peel yng ngharfan Sale Sharke yng Nghaerfaddon y penwythnos hwnnw, gyda'r prop Craig Mitchell yng ngharfan Caerwŷsg fydd yn herio Caerwrangon.
Petai'r chwech ddim ar gael, Lloyd Williams yw'r ffefryn i lenwi lle Phillips fel mewnwr, gyda Rhys Priestland yn ailafael yn y crys rhif 10.
Roedd Leigh Halfpenny eisoes wedi disodli Byrne fel cefnwr yn ystod Cwpan y Byd.
Mae disgwyl i'r hyfforddwr Warren Gatland enwi ei garfan i wynebu Awstralia dros y penwythnos.