Gwasanaethau dementia yn y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfle i drigolion Caernarfon glywed am ganolfan newydd i bobl â dementia, fyddai â phwyslais ar wasanaethau yn y Gymraeg.
Mewn cyfarfod agored yn Y Galeri, Caernarfon, ar ddydd Mercher Tachwedd 16, bydd cynrychiolwyr o gwmni Parc Pendine yn trafod eu cynlluniau ar gyfer hen safle Ysbyty Seiont yn y dref.
Maent yn disgwyl clywed gan Gyngor Gwynedd am eu cais cynllunio am gartref preswyl i 77 o bobl, fydd hefyd yn cynnig gwasanaethau gofal brys a gofal dydd.
"Rydym yn bwriadu cynnig yr holl wasanaethau yn y Gymraeg," eglurodd Gwynfor Jones, prif weithredwr Parc Pendine, sy'n gyfrifol am ganolfannau ger Wrecsam.
"Mae hynny'n beth pwysig iawn. Pan mae rhywun yn ddigon anffodus i gael dementia, mae'n bwysig gwneud iddynt deimlo mor gyfforddus a fedrwn ni, gan gynnwys darparu gwasanaethau yn eu mamiaith.
"Nid yw llawer o bobl yn teimlo'n gyfforddus yn siarad Saesneg ac mae'n bwysig, er eu lles nhw, i ddarparu gwasanaethau sy'n ymateb i hynny."
'Atgofion hynaf'
Mae Carol Ann Jones, rheolwr ardal gogledd a gorllewin Cymru ar gyfer Cymdeithas Alzheimer's yn cytuno â phwysigrwydd derbyn gofal yn eich mamiaith.
"Wrth i ddementia ddatblygu, yr atgofion hynaf yw'r pethau maent yn eu cofio," meddai, wrth sôn am bobl oedd â Chymraeg fel eu hiaith gyntaf yn ystod eu plentyndod.
"Mae'r niferoedd gyda dementia hefyd am gynyddu. Wrth i ni fyw yn hŷn yn gyffredinol oherwydd gwelliannau mewn meddygaeth, mae mwy o bobl am gael dementia.
"Mae rhagolygon y niferoedd ar gyfer y dyfodol yn awgrymu bydd yna gynnydd posib o 35%."
Serch hynny, mae Carol Ann Jones wedi profi anhawster wrth geisio cyflogi pobl ddwyieithog yn y gorffennol.
"Nid ydym wastad yn cael ymgeiswyr dwyieithog, felly dwi'n ceisio bod yn fwy penodol yn yr hysbysebion," meddai. "Yn lle dweud rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg, byddaf yn dweud bod siarad Cymraeg yn hanfodol, hynny yw er mwyn gallu cael sgwrs gyda phobl."
Yn ôl Carol Ann Jones, mae'n bwysig i bobl sy'n cael trafferth cofio fynd am ddiagnosis cynnar a chael cyfle i fanteisio ar gyffuriau a chymorth i geisio arafu datblygiad y cyflwr, cyn bod angen gofal llawn amser gan eraill.
Os yw'r cynlluniau i ddymchwel yr hen ysbyty ac ail-adeiladu canolfan fodern yn cael eu cymeradwyo, mae Gwynfor Jones yn gobeithio bydd Bryn Seiont yn agored erbyn haf 2013.