Undeb athrawon yn anfodlon ag ymyrraeth wleidyddol

  • Cyhoeddwyd
Plant yn dysgu drwy chwaraeFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae plant oed cynnar yn dysgu drwy chwarae

Mae undeb athrawon mwyaf Cymru yn cyhuddo'r Gweinidog Addysg Leighton Andrews o ymyrraeth wleidyddol sydd yn cael effaith andwyol ar allu athrawon i wneud eu gwaith.

Yn ôl yr NUT, mae'r Asesiadau Datblygu Plant, wedi cynyddu'r baich ar athrawon a chadw rhai o'r dosbarth am wythnosau.

Cafodd yr asesiadau eu cyflwyno eleni er mwyn asesu plant yn eu blwyddyn gyntaf mewn ysgolion cynradd.

Ond yn ôl Beth Davies, Prifathrawes Ysgol Alltwen ym Mhontardawe ac aelod o'r NUT, mae plant yn mynd am wythnosau heb gael eu dysgu gan fod athrawon yn mynd drwy'r gwaith papur wrth asesu.

"Mae ymyrraeth wleidyddol yng Nghymru yn cael effaith andwyol ar allu athrawon i wneud eu gwaith," eglurodd.

"Mewn nifer o achosion, mae rhai o'r strategaethau sydd wedi eu rhoi ar waith gan y Gweinidog Addysg, megis Asesiadau Datblygu Plant, yn golygu nad ydi'r athrawon yn gallu dysgu.

"Does gen i ddim amheuaeth y bydd y cyhoedd wedi eu dychryn o wybod nad ydi plant yn cael eu dysgu gan fod Llywodraeth Cymru yn mynnu fod athrawon yn treulio eu hamser yn llenwi ffurflenni asesu pan mae plant yn dechrau yn yr ysgol, yn hytrach nag yn adeiladu perthynas gyda nhw...

"Yr hyn sydd yn bwysig i athrawon ydi gallu bod o fudd i helpu plant gyrraedd eu potensial.

"Yn anffodus mae'r baich biwrocrataidd ar athrawon drwy'r profi a gwerthuso dianghenraid sydd, yn y bôn, yn asesiad o'r gwaith mae rhieni wedi ei wneud cyn i blant ddechrau'r ysgol, yn bygwth datblygiad y plant."

Pryderon

Prif bwrpas yr asesiadau yn ôl Llywodraeth Cymru yw dangos beth yw lefel craidd y disgybl a'r camau nesaf yn eu datblygiad.

Bydd y mwyafrif o ddisgyblion yn cael eu hasesu pan maen nhw'n dair oed.

Mae pryderon yr NUT serch hynny yn cael eu rhannu gan undeb arall, yr NAHT.

"Mae'r polisi hwn wedi siomi athrawon a phenaethiaid i raddau helaeth iawn," meddai Anna Brychan, Cyfarwyddydd NAHT Cymru.

"Y gobaith oedd cael system fyddai'n gallu cael ei ddefnyddio i fonitro a chefnogi datblygiad plant wrth iddyn nhw fynd drwy'r Cyfnod Sylfaen, a bod honno yn system gyson ar draws Cymru.

"Yn lle hynny, yr hyn ry'n ni wedi ei gael yw system gofnodi hynod feichus sydd ddim yn ffitio'n dwt gyda'r Cyfnod Sylfaen.

"Mae amheuon mawr hefyd ynglŷn â chysondeb yr hyfforddiant sydd wedi bod ynghlwm â hyn.

"Yr hyn sydd wedi blino athrawon a phenaethiaid yn fwyaf arbennig yw eu bod wedi gorfod rhoi cymaint o amser ac egni i'r broses hon.

"Eu blaenoriaeth nhw pan fo plant yn cychwyn yn yr ysgol am y tro cyntaf yw sicrhau bod y plant yn setlo'n hapus ac yn barod i ymgymryd â dysgu.

"Rwy'n credu serch hynny bod yna barodrwydd ymhlith swyddogion Adran Addysg y Llywodraeth i edrych eto ar sut y mae'r polisi hwn yn gweithio ac i sicrhau bod y pryderon yma yn cael eu gwyntyllu."

Cam nesaf

Mae'r undebau yn dweud y byddant yn cynnig argymhellion newydd i'r Llywodraeth.

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod hon yn system newydd ac yn anochel fe fydd yn cymryd amser i bobl ddod yn gyfarwydd gyda'r deunyddiau a gweithdrefnau newydd.

"Er hynny, rydym wedi derbyn adborth positif gan athrawon a phrifathrawon sy'n dweud wrthon ni fod yr asesiadau i'w croesawu a'i fod yn adnodd allweddol eisoes yn y cynllunio ar gyfer y cam nesaf ar gyfer datblygiad ac addysgu pob plentyn.

"Yn ychwanegol, fe ddylid nodi bod y system wedi ei datblygu mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol ac arbenigwyr - nid rhywbeth gafodd ei wneud gan y Llywodraeth dros nos heb ystyried y proffesiwn dysgu.

"Mae pryderon undeb yr NUT wedi eu nodi ac mae'r Gweinidog eisoes wedi gwneud addewid cyhoeddus i athrawon y bydd y Llywodraeth yn adolygu'r gwersi cynnar ac yn cyflwyno'n Hasesiadau Datblygu Plant gan baratoi ar gyfer addasu'r gweithdrefnau o ganlyniad i brofiad."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol