Hwb o £55 miliwn i fusnesau Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion dwy gronfa gwerth £55 miliwn a fydd yn helpu busnesau Cymru.
Mae'n cynnwys £20 miliwn o fuddsoddiad preifat.
Daw'r manylion ar yr un diwrnod ag y bydd y ffigyrau diweithdra diweddara' yn cael eu cyhoeddi.
Fe fydd £40 miliwn o Gronfa Fuddsoddi SME Cymru ar gael i gynyddu nifer y cwmnïau sy'n gymwys ar gyfer buddsoddiad gan y llywodraeth gan gynnwys, am y tro cyntaf, y rhai sy'n gwerthu'n uniongyrchol i'r cyhoedd.
Mae hefyd yn cynnwys £20 miliwn o fuddsoddiad preifat gan sefydliadau ariannol - ond mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod manylu ar hyn gan ddweud bod hyn yn gyfrinachedd masnachol.
Fe wnaeth Gweinidog Mentergarwch Cymru, Edwina Hart, gyhoeddi cronfa tymor byr o £15 miliwn a fydd yn rhoi grantiau yn uniongyrchol i fusnesau sy'n gobeithio creu a chadw swyddi.
Fydd 'na ddim disgwyl i'r grantiau yma gael eu had-dalu a fydd 'na ddim cyfyngiadau ar unrhyw sector.
Rhwystrau
Dywedodd y llywodraeth bod y cynnig ar gael i'r rhai sy'n gwneud cais rhwng Rhagfyr 12, 2011 ac Ionawr 31, 2012.
Un o brif rwystrau y mae busnesau yn ei wynebu ers y dirwasgiad yn 2008 yw diffyg mynediad at gyllid i'w fuddsoddi.
"Mae Llywodraeth Cymru yn gwrando ar anghenion busnesau Cymru," meddai Ms Hart.
"Dwi'n credu bod y pecyn cefnogaeth yn mynd i arwain at dwf a chaniatáu i fusnesau fuddsoddi mewn cynlluniau a fydd yn arwain at greu hyd at 5,000 o swyddi newydd a diogelu cannoedd yn rhagor."
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod o dan bwysau gan y gwrthbleidiau am fethu ymateb i'r pwysau sydd yn wynebu busnesau ac economi Cymru.