Galw am godi ymwybyddiaeth o ganser ceg y groth
- Cyhoeddwyd
Mae elusen yn galw am hybu ymwybyddiaeth o ganser ceg y groth a'r angen i ferched fynd am brofion rheolaidd.
Mae elusen Ymddiriedolaeth Jo's Cervical Cancer yn cynnal digwyddiad yn y Cynulliad ddydd Mercher.
Yn ôl yr elusen, mae tair o ferched yn marw o'r math yma o ganser pob dydd yn y DU ac mae modd gwneud mwy i'w atal drwy gael profion ceg y groth.
Dywed yr elusen bod llai yn cael y profion nag yr oedd 10 mlynedd yn ôl.
Caiff bob merch rhwng 20 a 64 oed wahoddiad ar gyfer prawf ceg y groth yng Nghymru.
Mae merched o 13 oed hefyd yn cael brechiad firws human papilloma (HPV), sy'n eu gwarchod 70% rhag heintiau all arwain at ganser ceg y groth.
"Mae gan Gymru gynllun sgrinio y dylai fod yn falch iawn ohoni," meddai Dr Amanda Tristram, uwch-ddarlithydd mewn Oncoleg Gynaecoleg yn Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd.
Pwysigrwydd
"Mae'n rhaid i ni sicrhau bod hyn yn parhau.
"Rhaid i ni wneud mwy i frwydro yn erbyn y stigma a'r camwybodaeth sydd gan ferched sy'n anfodlon mynd i weld y meddyg teulu gydag unrhyw symptomau neu yn anymwybodol o'r hyn y mae'r prawf sgrinio yn ei gynnig a'i bwysigrwydd."
Yn ôl ffigyrau diweddara'r rhaglen sgrinio ar gyfer 2009/2010, 54.2% o ferched 20-24 oed oedd wedi cael prawf o'i gymharu â'r un oedran yn 2000/2001, pan oedd 60.4% wedi cael eu profi.
Mae'r ffigwr ar gyfer y rhai rhwng 20 a 64 oed yn 2009/10 wedi codi yn ystod blynyddoedd diweddar i 76.5% ond mae dal yn is nag yr oedd yn 2000/01 sef 81.0%.
"Mae'r ffigyrau yn dangos bod canran y rhai sy'n gymwys i fynd am brawf wedi gostwng," meddai Robert Music, cyfarwyddwr yr elusen.
"Mae llai yn mynd am brawf pum munud, all wneud gwahaniaeth rhwng byw a marw."
Fe wnaeth nifer y rhai a gafodd brofion gynyddu wedi i un o sêr rhaglenni realaeth gyhoeddi ei bod yn diodde' o ganser ceg y groth.
Yn ystod y cyfnod y cafodd Jade Goody - a ddaeth i boblogrwydd ar Big Brother - wybod am ei salwch hyd at ei marwolaeth ym mis Mawrth 2009, fe wnaeth nifer y profion gynyddu.
Roedd 'na gynnydd o 12% mewn blwyddyn yn y DU.
Dywedodd Dr Rosemary Fox, Cyfarwyddwr Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru, bod sgrinio ceg y groth yng Nghymru yn darparu'r gwasanaeth drwy gyd-fynd â pholisi Llywodraeth Cymru ac yn cyd-weithio yn agos gyda'r byrddau iechyd i sicrhau profion i bob merch.
Anogaeth
"Fe ddylid cofio nad yw merched Cymru'n cael gwahoddiad i gael eu prawf cyntaf tan eu bod yn 20 oed ac felly mae 'na nifer sylweddol o'r rhai yn y grŵp 20-24 oed sydd ddim yn gymwys i gael eu sgrinio yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
"Y targed drwy'r DU yw sgrinio pob merch rhwng 25 a 64 oed.
"Yn Lloegr mae merched yn 25 oed cyn cael gwahoddiad i gael prawf.
"Yng Nghymru, rydym yn ymwybodol mai bychan yw'r rhai rhwng 20-24 sy'n cael eu profi ac rydym yn parhau i annog pobl ifanc i gael eu profi."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu ymdrechion Ymddiriedolaeth Jo i godi ymwybyddiaeth o'r angen am brofion sgrinio canser ceg y groth.
"Caiff pob merch yng Nghymru rhwng 20 a 64 oed wahoddiad i gael prawf bob tair blynedd," meddai.
"Mae'n bwysig bod merched yn mynychu'r profion gan fod canfyddiad cynnar a thriniaeth yn gallu gwella'r canlyniadau i gleifion.
"Fe ddylai merched barhau i fod yn wyliadwrus rhwng profion.
"Yn ychwanegol, rydym wedi cynnig y brechiad HPV, sy'n gwarchod merched rhag 70% o'r firws all arwain at ganser ceg y groth."
Ffynhonnell: Adroddiadau Sgrinio Cerfigol Cymru