Hwylwyr ifanc o'r Felinheli i gystadlu ar lwyfan byd

Ben a JacFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Ben (chwith) a Jac (dde) yn cystadlu ym Mencampwriaeth Ieuenctid y Byd ym Mhortiwgal ganol y mis

  • Cyhoeddwyd

Bydd dau Gymro ifanc o'r gogledd yn cynrychioli Prydain ym Mhortiwgal mewn pencampwriaeth hwylio sy'n cael ei hystyried fel Gemau Olympaidd i bobl ifanc.

Mae Jac Bailey a Ben Sinfield, y ddau yn aelodau yng Nghlwb y Felinheli, yn hwylio gyda'i gilydd ers 2019.

Byddan nhw ymhlith 16 o bobl ifanc o ar draws Prydain fydd yn teithio i Bencampwriaeth Ieuenctid y Byd yn Vilamoura ganol y mis.

Mae'r ddau yn hwylio mewn cwch 29er, math llai ac ysgafnach o gwch sy'n gallu teithio'n gyflym.

"Mae'r 29er efo tair hwyl a thrapîs sy'n helpu i gadw'r cwch yn fflat. Mae Ben wedyn yn rhoi pwysau arno fo, sy'n gwneud i'r gwch fynd yn fwy sydyn," eglurodd Jac.

Jac
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r paratoadau ar gyfer y bencampwriaeth yn mynd yn dda iawn, meddai Jac

Mae'r pâr yn cael dipyn o hwyl arni'n llythrennol, yn bencampwyr cenedlaethol yn eu categori, enillwyr Prif Wobr Ieuenctid y Gymdeithas Hwylio eleni, a gwobr arall i ychwanegu at y casgliad yn ddiweddar.

"Wnaethon ni ennill yn y Winter Champs dros y penwythnos yn Rutland," meddai Jac.

"Mae'n gystadleuaeth ar draws Prydain felly mae'n rhoi hwb i ni fynd i Bortiwgal a gwneud yn dda yn fanno hefyd."

Mae'r bencampwriaeth byd yn Vilamoura yn binacl blynyddoedd o gystadlu ac yn cael ei ystyried fel Gemau Olympaidd ar lefel ieuenctid.

"Dwi'n falch iawn o allu cynrychioli Prydain oherwydd dim ond dau gwch o Brydain sy'n gallu cael eu dewis i fynd felly mae o'r top o be' 'da chi'n gallu gwneud yn y dosbarthiadau ifanc," ychwanegodd.

Ben a JacFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ddau yn treulio oriau yn ymarfer allan ar y dŵr ar hyd arfordir y gogledd

Mae'r ddau wedi bod yn ymarfer yn rheolaidd, gan dreulio oriau allan yn y gwch ac yn y gampfa i weithio ar eu cryfder.

"Maen nhw'n ddyddiau hir iawn ar y dŵr felly 'da chi'n gorfod cadw'r egni fyny, oherwydd 'da ni allan am chwech neu saith awr bob dydd am bump diwrnod, felly mae'n hir iawn," meddai.

"Mae'r paratoadau wedi mynd yn dda iawn a 'da ni 'di gwella lot - dwi'n gyfforddus iawn i fynd i ffwrdd."

Pwllheli yn 'debyg i Bortiwgal'

Mae'r ddau yn sylweddoli na fydd hi'n hawdd ym Mhortiwgal, gyda'r amodau yn gallu bod yn heriol.

Ond mae gallu hyfforddi oddi ar arfordir gogledd Cymru wedi bod yn rhan bwysig o'r paratoadau.

"Mae'r tonnau'n anodd iawn ym Mhortiwgal," ychwanegodd Jac.

"Maen nhw'n dod o'r ochr weithiau sy'n gwneud i'r pŵer yn yr hwyl newid lot. Felly mae hynny'n gwneud hi'n anodd iawn i sicrhau bod y cwch yn cario 'mlaen i fynd yn sydyn.

"Ma' Pwllheli'n lle da iawn i ymarfer. Mae'n debyg i'r amodau ym Mhortiwgal felly 'da ni 'di bod yno lot."

Jac yn ifanc mewn cwch hwylioFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jac yn hwylio ers ei fod yn dair oed

Gyda'r gamp yn y gwaed, a'i rieni hefyd yn hwylio, mae Jac yn cystadlu ers yn ifanc iawn.

Y gobaith ydy cael hwylio'n llawn amser maes o law, gan anelu am yr uchelfannau.

"Ma' Mam yn hwylio lot, felly 'nath hi ddod â fi mewn i'r gamp pan o'n i'n dair oed," meddai.

"Dwi'n gobeithio bydd y bencampwriaeth ym Mhortiwgal yn blatfform i wella, y bydd pobl yn gweld ni'n gwneud yn dda ac efallai'n cynnig noddi ni.

"Dwi'n gobeithio mynd i'r Gemau Olympaidd pan dwi'n oedolyn - Gemau 2032 ydy'r targed. Felly mae'n bwysig iawn cael profiadau fel hyn."

Bydd y bencampwriaeth yn Vilamoura yn cael ei chynnal rhwng 12-20 Rhagfyr.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig