Treth ymwelwyr i gefnogi digwyddiadau mawr - arweinydd Caerdydd

Grŵp o bobl yn sefyll yn agos at ei gilydd mewn ar ol cyngerdd Oasis yng Nghaerdydd, gyda goleuadau nos yn y cefndir. Mae sawl person yn codi eu dwylo yn yr awyr, rhai yn gwneud arwyddion heddwch ac yn dal ffonau symudol. Dillad fel crysau-t gyda logo Oasis. Yn y cefndir, gellir gweld strwythur stadiwm y Principality a rhai adeiladau brics.Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gobaith Caerdydd yw codi £3.5m o'r ardoll er mwyn cefnogi'r costau sy'n gysylltiedig â chynnal digwyddiadau mawr fel cyngherddau Oasis eleni

  • Cyhoeddwyd

Ni fyddai treth ymwelwyr yng Nghaerdydd yn cael ei defnyddio i "lenwi bylchau" mewn rhannau eraill o gyllideb y ddinas, medd arweinydd y cyngor.

Dywedodd y cynghorydd Huw Thomas y byddai tua £3.5m yn cael ei godi bob blwyddyn o'r ardoll, ac y bydd yn cael ei wario ar gostau sy'n gysylltiedig â chynnal digwyddiadau mawr fel cyngherddau Oasis eleni.

Y brifddinas yw'r ardal gyntaf i lansio ymgynghoriad swyddogol ar gynllun fyddai'n ychwanegu hyd at £1.30 y pen i gost llety dros nos yn y ddinas.

Mae busnesau lletygarwch eisiau sicrwydd y bydd yr ymgynghoriad yn gwrando ar y diwydiant, ac y bydd yr incwm yn cael ei wario ar wella'r ddinas.

"Rydyn ni eisiau tyfu'r economi dwristiaeth yng Nghaerdydd, ac rydyn ni eisiau gweld mwy o bobl yn dod i'n dinas," meddai'r Cynghorydd Thomas.

"Ond rydym hefyd eisiau gallu cael yr adnoddau i roi profiad gwych i'r ymwelwyr hynny."

Mae'r cyngor wedi lansio ymgynghoriad gyda bwriad i gyflwyno'r ardoll ymwelwyr ym mis Mawrth 2027.

CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Byddai angen i ymwelwyr dalu hyd at £1.30 y noson i aros dros nos yng Nghaerdydd os ydy'r cyngor yn bwrw ymlaen â'r cynllun

Dywedodd Huw Thomas y byddai'r arian yn helpu i ddenu a chynnal digwyddiadau mawr.

"Nid yw'r incwm o'r ardoll yn mynd i gael ei ddefnyddio i lenwi bylchau ariannol mewn adrannau eraill y cyngor," meddai.

"Rydym eisiau marchnata ein hunain yn rhyngwladol a denu digwyddiadau newydd a chyfleoedd newydd i'r ddinas hefyd, ac mae cael yr incwm hwnnw drwy ardoll ymwelwyr yn rhoi'r cyllid i ni wneud hynny."

Daw cynigion Caerdydd wedi i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddf sy'n galluogi cynghorau i gyflwyno tâl o fis Ebrill 2027, ar ôl cwblhau ymgynghoriad.

Caerdydd yw'r cyngor cyntaf o'r 22 yng Nghymru i lansio ymgynghoriad llawn, tra bod eraill yn ansicr.

Mae Ynys Môn, Blaenau Gwent a Chonwy ymhlith y rhai sy'n paratoi camau tebyg, ond mae awdurdodau fel Sir Fynwy a Sir Benfro wedi penderfynu peidio ei gyflwyno.

Dywedodd y Cynghorydd Thomas fod dinasoedd Lloegr yn "genfigennus" o'r cyfleoedd a ddaw o'r ardoll.

Dave Sultana yn sefyll ar y stryd yng nghanol Caerdydd yn ystod diwrnod gem rygbi rhyngwladol. Mae'n gwisgo cot du a het wlan llwyd. Yn y cefndir, mae torf o bobl mewn dillad gaeafol, rhai yn gwisgo hetiau a siacedi lliwgar.
Disgrifiad o’r llun,

Bydd mwy o warchodwyr yn y brifddinas yn ddefnydd da o'r incwm newydd, meddai Dave Sultana

Er nad yw'r penderfyniad terfynol ar sut i wario'r arian wedi'i wneud eto, mae galwadau eisoes i gynyddu presenoldeb wardeniaid, neu warchodwyr, yng nghanol y ddinas.

"Byddai'r dreth ymwelwyr yn ein galluogi i gynyddu'r presenoldeb," meddai rheolwr y gwarchodwyr, Dave Sultana.

Mae ei dîm ar hyn o bryd yn gweithredu fel "presenoldeb gweledol" yn y ddinas, yn enwedig yn ystod digwyddiadau prysur fel gemau rygbi rhyngwladol.

Dywedodd Mr Sultana fod y gwarchodwyr "fel bwrdd gwybodaeth twristiaeth symudol", a byddai cyllid ychwanegol yn talu am fwy o weithwyr fydd yn cyflawni "mwy o oriau ar y strydoedd" i helpu ymwelwyr a thrigolion Caerdydd.

Nick Newman yn sefyll ar stryd yng nghanol Caerdydd, yn gwisgo cot ddu drwchus gyda sgarff coch llachar wedi’i lapio o amgylch ei wddf. Mae’r cefndir yn dangos adeiladau aml-lawr, siopau, a phobl yn cerdded ar hyd y palmant. Mae’r palmant yn edrych yn wlyb.
Disgrifiad o’r llun,

Gobaith Nick Newman yw y bydd yr ardoll yn denu a chefnogi rhagor o ddigwyddiadau mawr yn y brifddinas

Mae darparwyr lletygarwch yn cael eu hannog i gyfrannu at yr ymgynghoriad.

"Mae'r dyn busnes ynof fi yn dweud, 'pam fyddech chi'n codi rhwystrau?'," meddai Nick Newman, sy'n rhedeg nifer o fusnesau lletygarwch ac yn gyfarwyddwr grŵp busnes FOR Cardiff.

Ond dywedodd ei fod yn "deall safbwynt Cyngor Caerdydd" ac eisiau sicrwydd y bydd yr incwm yn cael ei wario ar "wella golwg y ddinas, ei gwneud yn lanach ac yn fwy deniadol i ymwelwyr".

Dywedodd Mr Newman ei bod yn "bwysig iawn" i bobl gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus cyn i'r cyngor gyflwyno'r ardoll, gan ychwanegu bod angen "cael y broses yn iawn, cael yr ymgynghoriad yn iawn, a chael y gwariant yn iawn".

Sut mae Caerdydd yn cymharu?

Manceinion oedd y ddinas gyntaf yn y DU i gyflwyno treth dwristiaeth yn 2023. Cododd y tâl o £1 ar bob ystafell bob nos tua £2.8m yn y flwyddyn gyntaf.

Fe wnaeth Lerpwl gyflwyno tâl o £2 y noson ym mis Mehefin. Mae'r arian yn cael ei wario gan fusnesau lletygarwch sy'n rhedeg y cynllun - nid y cyngor.

O 24 Gorffennaf 2026 bydd ymwelwyr â Chaeredin yn talu 5% ychwanegol ar eu bil gwesty am hyd at bum noson.

Cerfluniau efydd o’r Beatles yn Lerpwl, gyda’r Royal Liver Building yn y cefndir dan awyr las glir. Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fel cartref y Beatles, mae treftadaeth ddiwylliannol Lerpwl yn denu ymwelwyr o bedwar ban byd

Yn Lerpwl, lansiodd grŵp lletygarwch Liverpool BID Company dreth ymwelwyr o £2 y nos ym mis Mehefin.

Dywedodd y prif weithredwr Bill Addy fod y rhan fwyaf o ymwelwyr yn derbyn y dreth ac yn ei gweld fel ffordd o gefnogi sector lletygarwch y ddinas.

"Os ewch chi dramor… rydych chi'n talu ardoll ymwelwyr - mae'n ffurf o godi treth leol neu ranbarthol," meddai.

"Rydych chi'n derbyn hynny ac yn cydnabod ei fod yn ffordd o gefnogi'r busnesau rydych chi'n elwa ohonyn nhw."

Pwysleisiodd Mr Addy fod cydweithio â busnesau yn allweddol.

"Siaradwch â'r gwestai, siaradwch â'r busnesau sydd ar y rheng flaen. Pan wnewch chi hynny, mae'r ateb yn dod yn ôl yn gadarnhaol."

Ond fe rybuddiodd rhag i gynghorau ddefnyddio'r arian i lenwi bylchau, gan ychwanegu: "Mae angen i fusnesau reoli'r arian i atal awdurdodau lleol rhag ei ddefnyddio i lenwi'r gostyngiad mewn gwasanaethau."

Steven Hesketh yn sefyll ar ochr stryd yn Lerpwl, yn gwisgo siaced smart ddu gyda goler uchel wen. Mae pin bach coch crwn gyda symbol gwyn wedi’i osod ar lapel chwith y siaced. Mae'r cefndir yn aneglur ac allan o ffocws, ond mae'n bosib gweld amlinelliad ceir wedi’u parcio ar hyd y ffordd ac adeiladau aml-lawr.
Disgrifiad o’r llun,

Mae busnesau lletygarwch Lerpwl wedi dod at ei gilydd i gyflwyno ardoll, meddai Steven Hesketh

Dywedodd Steven Hesketh, prif weithredwr Savvy Hotels ac is-gadeirydd BID lletygarwch Lerpwl, fod y dreth wedi'i chyflwyno oherwydd ei bod yn "ddinas fywiog sy'n cael ei thanio gan ddigwyddiadau" ac yn dibynnu'n sylweddol ar sectorau hamdden a thwristiaeth.

"Ni allwch ddod â digwyddiadau ar raddfa fawr i ddinas heb iddo gostio arian sylweddol," meddai.

"Mae'r busnesau wedi gorfod dod at ei gilydd, creu ardal gwella busnes sy'n eu galluogi i roi cronfeydd tuag at ddigwyddiadau mawr, ac i'n helpu i lenwi ein hystafelloedd."

Dywedodd Mr Hesketh fod y cynllun, sydd wedi codi ardoll ar ymwelwyr ers mis Mehefin, wedi cael derbyniad da.

"Mae pobl yn deall ein bod mewn dinas ryngwladol. Mae Lerpwl yn frand mor adnabyddus yn fyd-eang.

"A waeth ble rydych chi'n teithio yn y byd nawr – Las Vegas, Paris ac ati – mae'r holl ddinasoedd mawr yma yn codi rhyw fath o dreth neu ardoll."

Gyda Chaerdydd yn debygol o fod y cyngor cyntaf yng Nghymru i gyflwyno ardoll ymwelwyr, bydd gan ddarparwyr llety a chynghorau eraill ddiddordeb mawr yn y camau nesaf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.